RHAN 11Amrywiol
Cyhoeddi manylionI161
1
Rhaid i Fwrdd Iechyd Lleol gyhoeddi’r canlynol, yn y modd y gwêl yn addas, a rhoi copïau o’r canlynol ar gael yn ei swyddfeydd ar gyfer edrych arnynt—
a
ei asesiad o anghenion fferyllol,
b
ei restr fferyllol,
c
ei restr meddygon fferyllol,
d
map sy’n amlinellu ffiniau unrhyw ardaloedd rheoledig a lleoliadau neilltuedig sydd wedi eu penderfynu,
e
manylion am unrhyw benderfyniadau a wnaed gan y Bwrdd Iechyd Lleol o dan y Rheoliadau hyn yn ystod y 3 blynedd flaenorol,
f
y telerau gwasanaeth ar gyfer fferyllwyr GIG yn Atodlen 5,
g
y telerau gwasanaeth ar gyfer contractwyr cyfarpar GIG yn Atodlen 6,
h
y telerau gwasanaeth ar gyfer meddygon sy’n darparu gwasanaethau fferyllol yn Atodlen 7, ac
i
y Tariff Cyffuriau.
2
Caiff Bwrdd Iechyd Lleol—
a
rhoi unrhyw un neu ragor o’r dogfennau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1) ar gael i edrych arnynt mewn unrhyw leoedd eraill yn yr ardal y sefydlwyd y Bwrdd Iechyd Lleol ar ei chyfer ac yr ymddengys i’r Bwrdd Iechyd Lleol eu bod yn gyfleus er mewn rhoi gwybod i bob person a chanddo fuddiant, neu
b
cyhoeddi, mewn lleoedd o’r fath yn yr ardal y sefydlwyd y Bwrdd Iechyd Lleol ar ei chyfer, hysbysiad o’r lleoedd a’r amseroedd y gellir gweld copïau o’r dogfennau hynny.
3
Rhaid i Fwrdd Iechyd Lleol anfon copi o’i asesiad o anghenion fferyllol, ei restrau fferyllol a’i restr meddygon fferyllol at Weinidogion Cymru, y Pwyllgor Meddygol Lleol a’r Pwyllgor Fferyllol Lleol, a rhaid iddo, o fewn 14 o ddiwrnodau i unrhyw newid i’r rhestrau hynny, roi gwybod iddynt yn ysgrifenedig am y newidiadau hynny.