Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Fferyllol) (Cymru) 2020

Darpariaethau trosiannol

63.—(1Rhaid i unrhyw gais a wneir o dan Reoliadau 2013 a gafwyd gan Fwrdd Iechyd Lleol ar neu cyn 30 Medi 2021 gael ei benderfynu yn unol â darpariaethau Rheoliadau 2013, hyd nes y bydd y cais hwnnw yn cael ei benderfynu’n derfynol.

(2Rhaid i unrhyw benderfyniad arfaethedig gan Fwrdd Iechyd Lleol o dan reoliad 6(2) o Reoliadau 2013 (ardaloedd sy’n ardaloedd rheoledig) ar neu cyn 30 Medi 2020 gael ei benderfynu yn unol â darpariaethau Rheoliadau 2013, hyd nes bod y cais hwnnw wedi cael ei benderfynu’n derfynol.

(3Rhaid i unrhyw apêl o dan Reoliadau 2013—

(a)a ddaw i law Gweinidogion Cymru ar neu cyn 30 Medi 2020, neu

(b)a wneir ar ôl i’r Rheoliadau hyn ddod i rym, mewn cysylltiad â chais a benderfynwyd yn unol â pharagraff (1), neu benderfyniad a wnaed o dan baragraff (2),

gael ei phenderfynu yn unol â darpariaethau Rheoliadau 2013.

(4Pan fo hawlogaeth gan berson, cyn 30 Medi 2020 neu o ganlyniad i baragraff (1) neu (3), ar sail penderfyniad (pa un a yw’n benderfyniad gan Fwrdd Iechyd Lleol neu’n dilyn apêl)—

(a)i gael ei gynnwys mewn rhestr fferyllol neu restr meddygon fferyllol, ond nad yw wedi ei gynnwys yn y rhestr honno, neu

(b)i gael rhestru mangre mewn perthynas â’i gofnod mewn rhestr fferyllol neu restr meddygon fferyllol, ac nad yw’r fangre wedi ei rhestru mewn perthynas â’r person,

mae’r trefniadau ar gyfer rhestru’r person hwnnw neu’r fangre honno, a’r amgylchiadau pan fydd y penderfyniad hwnnw yn darfod, fel y’u nodir yn Rheoliadau 2013.

(5Mewn cysylltiad â phenderfyniad a wneir o dan baragraff (2), y weithdrefn y mae rhaid ei dilyn yw’r weithdrefn honno yn rheoliad 6(4) o Reoliadau 2013 ac yn Rhannau 1 a 2 o Atodlen 2 iddynt.

(6Pan roddwyd cydsyniad rhagarweiniol o dan reoliad 12 o Reoliadau 2013 (ceisiadau am gydsyniad rhagarweiniol ac effaith cydsyniad rhagarweiniol) ac nad oedd cais wedi ei wneud o dan reoliad 12(6) o Reoliadau 2013 cyn 30 Medi 2020, bydd rheoliad 18 (ceisiadau am gydsyniad rhagarweiniol ac effaith cydsyniad rhagarweiniol) yn gymwys fel pe bai’r cydsyniad rhagarweiniol wedi ei roi o dan y rheoliad hwnnw.

(7Pan fo paragraff (6) yn gymwys, mae rheoliad 12(6) o Reoliadau 2013 wedi ei roi yn lle rheoliad 18(5).

(8Os nad yw penderfyniad o dan reoliad 6 o Reoliadau 2013 wedi cael ei benderfynu’n derfynol cyn 30 Medi 2020 (“penderfyniad sydd yn yr arfaeth”), rhaid i Fwrdd Iechyd Lleol ohirio ystyried unrhyw gais a gyflwynir iddo o dan Rannau 5 a 6 o’r Rheoliadau hyn pe gallai penderfyniad sydd yn yr arfaeth effeithio ar y cais hwnnw, hyd nes bod y penderfyniad sydd yn yr arfaeth wedi ei benderfynu’n derfynol.

(9At ddibenion y rheoliad hwn, nid yw cais neu benderfyniad i’w drin fel pe bai wedi ei benderfynu’n derfynol tan ddiwedd y cyfnod ar gyfer dwyn apêl yn erbyn y cais hwnnw neu’r penderfyniad hwnnw, neu hyd nes bod unrhyw apêl o’r fath wedi ei phenderfynu, pa un bynnag yw’r diweddaraf.