1. Datganiad oʼr gwasanaethau fferyllol y maeʼr Bwrdd Iechyd Lleol wedi eu nodi yn wasanaethau a ddarperir—
(a)yn ardal y Bwrdd Iechyd Lleol ac syʼn angenrheidiol i ddiwalluʼr angen am wasanaethau fferyllol yn ei ardal,
(b)y tu allan i ardal y Bwrdd Iechyd Lleol ond sydd, er hynny, yn cyfrannu at ddiwalluʼr angen am wasanaethau fferyllol yn ei ardal (os ywʼr Bwrdd Iechyd Lleol wedi nodi gwasanaethau oʼr fath), neu
(c)yn ardal y Bwrdd Iechyd Lleol neu y tu allan iddi ac sydd, er nad ydynt yn wasanaethau oʼr mathau a ddisgrifir yn is-baragraff (a) neu (b), yn effeithio ar asesiad y Bwrdd Iechyd Lleol oʼr angen am wasanaethau fferyllol yn ei ardal.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Atod. 1 para. 1 mewn grym ar 1.10.2020, gweler rhl. 1(2)(b)