32. Enwʼr Bwrdd Iechyd Lleol y gwneir y cais iddo.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Atod. 2 para. 32 mewn grym ar 1.10.2020, gweler rhl. 1(2)(b)
33. Y math o gais (cydsyniad amlinellol, cymeradwyaeth mangre neuʼr ddau).
Gwybodaeth Cychwyn
I2Atod. 2 para. 33 mewn grym ar 1.10.2020, gweler rhl. 1(2)(b)
34. Enw a chyfeiriad y ceisydd.
Gwybodaeth Cychwyn
I3Atod. 2 para. 34 mewn grym ar 1.10.2020, gweler rhl. 1(2)(b)
35. Cyfeirnod y Cyngor Meddygol Cyffredinol y maeʼr ceisydd wedi ei gynnwys odano yn y Rhestr o Ymarferwyr Meddygol Cofrestredig a gynhelir gan y Cyngor Meddygol Cyffredinol.
Gwybodaeth Cychwyn
I4Atod. 2 para. 35 mewn grym ar 1.10.2020, gweler rhl. 1(2)(b)
36. Disgrifiad a map oʼr ardal y maeʼr ceisydd yn dymuno darparu gwasanaethau fferyllol ynddi.
Gwybodaeth Cychwyn
I5Atod. 2 para. 36 mewn grym ar 1.10.2020, gweler rhl. 1(2)(b)
37. Cyfeiriad unrhyw fferyllfa yn yr ardal a ddisgrifir ac a amlinellir o dan baragraff 36.
Gwybodaeth Cychwyn
I6Atod. 2 para. 37 mewn grym ar 1.10.2020, gweler rhl. 1(2)(b)
38. Cyfeiriad y fangre practis y maeʼr ceisydd yn gwneud cais i ddarparu gwasanaethau fferyllol ohoni, ac a ywʼr fangre practis honno yn fangre restredig mewn perthynas ag ardal wahanol.
Gwybodaeth Cychwyn
I7Atod. 2 para. 38 mewn grym ar 1.10.2020, gweler rhl. 1(2)(b)
39. Y pellter rhwng y fangre honno aʼr fferyllfa agosaf (a chyfeiriad y fferyllfa honno).
Gwybodaeth Cychwyn
I8Atod. 2 para. 39 mewn grym ar 1.10.2020, gweler rhl. 1(2)(b)
40. A ywʼr cais yn gais am gymeradwyaeth mangre ar gyfer mangre ychwanegol ynteu i adleoli i fangre newydd (ac os yr olaf, y pellter oʼr fangre newydd iʼr fangre y mae gan y ceisydd gymeradwyaeth mangre mewn cysylltiad â hi ar hyn o bryd).
Gwybodaeth Cychwyn
I9Atod. 2 para. 40 mewn grym ar 1.10.2020, gweler rhl. 1(2)(b)
41. A ywʼr cais yn codi oherwydd bod cyfuno practisiau wedi digwydd neu y bydd yn digwydd, ac os felly, enwauʼr meddygon neuʼr contractwyr syʼn cymryd rhan yn y cyfuno.
Gwybodaeth Cychwyn
I10Atod. 2 para. 41 mewn grym ar 1.10.2020, gweler rhl. 1(2)(b)
42. Os oes cydsyniad amlinellol wedi ei roi eisoes, disgrifiad a map oʼr ardal y rhoddwyd y cydsyniad mewn cysylltiad â hi.
Gwybodaeth Cychwyn
I11Atod. 2 para. 42 mewn grym ar 1.10.2020, gweler rhl. 1(2)(b)
43. Manylion unrhyw fangre practis meddygol arall y rhoddwyd cymeradwyaeth mangre iddi, neu y mae cais wedi ei wneud mewn cysylltiad â hi eisoes ond nad ywʼr Bwrdd Iechyd Lleol wedi ei benderfynu eto.
Gwybodaeth Cychwyn
I12Atod. 2 para. 43 mewn grym ar 1.10.2020, gweler rhl. 1(2)(b)
44. Y gwasanaethau fferyllol sydd iʼw darparu aʼr oriau agor aʼr diwrnodau y darperir y gwasanaethau hynny.
Gwybodaeth Cychwyn
I13Atod. 2 para. 44 mewn grym ar 1.10.2020, gweler rhl. 1(2)(b)
45. Y rhesymau pam y maeʼr ceisydd yn ystyried na fydd caniatáuʼr cais yn niweidio darpariaeth briodol gwasanaethau meddygol sylfaenol, gwasanaethau gweinyddu neu wasanaethau fferyllol yn yr ardal reoledig y maeʼr fangre a bennir yn y cais ynddi.
Gwybodaeth Cychwyn
I14Atod. 2 para. 45 mewn grym ar 1.10.2020, gweler rhl. 1(2)(b)
46. Y rhesymau pam y maeʼr ceisydd yn ystyried bod angen caniatáuʼr cais er mwyn diwallu angen a nodir mewn asesiad perthnasol o anghenion fferyllol.
Gwybodaeth Cychwyn
I15Atod. 2 para. 46 mewn grym ar 1.10.2020, gweler rhl. 1(2)(b)
47. Rhaid iʼr ceisydd roi ymgymeriad, os caniateir y cais a bod cydsyniad amlinellol a chymeradwyaeth mangre mewn effaith, y bydd y ceisydd yn darparuʼr gwasanaethau fferyllol oʼr fangre practis y caniateir y cais mewn cysylltiad â hi, yn unol âʼr telerau gwasanaeth.
Gwybodaeth Cychwyn
I16Atod. 2 para. 47 mewn grym ar 1.10.2020, gweler rhl. 1(2)(b)