15.—(1) Rhaid i Fwrdd Iechyd Lleol, cyn gynted ag y boʼn ymarferol ar ôl gwneud penderfyniad ar gais syʼn dod o fewn paragraff 8(1)(a)(ii), roi hysbysiad ysgrifenedig oʼi benderfyniad (gan gynnwys y cwestiwn o ran gosod amodau o dan baragraff 13)—
(a)iʼr ceisydd, a
(b)i unrhyw berson a gyflwynodd sylwadau ar y cais iʼr Bwrdd Iechyd Lleol yn unol â pharagraff 8(3).
(2) Rhaid i hysbysiad o benderfyniad o dan y paragraff hwn gynnwys datganiad oʼr rhesymau dros y penderfyniad ac o unrhyw hawliau i apelio.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Atod. 3 para. 15 mewn grym ar 1.10.2020, gweler rhl. 1(2)(b)