1. Ac eithrio iʼr graddau y maeʼr Rheoliadau hyn yn darparu iʼr gwrthwyneb, caiff Gweinidogion Cymru benderfynu apêl a gyflwynir iddynt yn y modd y maent yn meddwl ei fod yn addas, ac yn benodol, cânt—
(a)ystyried yr holl wybodaeth sydd ar gael iddynt ac sydd, yn eu barn hwy, yn berthnasol i benderfynu apêl;
(b)ystyried dwy neu ragor o apelau ar y cyd ac mewn perthynas âʼi gilydd (ond nid oes rhwymedigaeth arnynt i wneud hynny pan foʼr Bwrdd Iechyd Lleol wedi penderfynu dau neu ragor o geisiadau ar y cyd ac mewn perthynas âʼi gilydd), ond pan fônt yn bwriadu gwneud hynny, rhaid iddynt roi hysbysiad oʼr bwriad hwnnw i bob apelydd ac iʼr rheini y rhoddir hysbysiad iddynt o bob apêl yn unol âʼr Atodlen hon;
(c)pan fo Gweinidogion Cymru, yn unol ag is-baragraff (b), yn ystyried dwy neu ragor o apelau y mae rheoliad 15(2) yn gymwys iddynt ar y cyd ac mewn perthynas âʼi gilydd, cânt wrthod apêl (er y byddent, pe baent yn penderfynuʼr apêl fel apêl unigol ar ei phen ei hun, yn ei chaniatáu) pan fo nifer yr apelau, neuʼr amgylchiadau yʼu gwneir odanynt, yn peri y byddai caniatáu pob un, neu fwy nag un ohonynt, yn niweidio darpariaeth briodol gwasanaethau meddygol sylfaenol, gwasanaethau fferyllol neu wasanaethau gweinyddu yn yr ardal reoledig y maeʼr fangre a bennir yn yr apêl ynddi;
(d)anfon yn ôl apêl a gyflwynwyd iddynt i Fwrdd Iechyd Lleol iʼw ailbenderfynu, mewn achosion pan oedd yr wybodaeth y maeʼn ofynnol iʼr ceisydd ei darparu yn unol ag Atodlen 2 yn anghyflawn;
(e)gwrthod apêl os ydynt oʼr farn o ran yr hysbysiad o apêl—
(i)nad yw’n ddilys oherwydd nad ywʼn cydymffurfio â gofynion yr Atodlen hon,
(ii)nad yw’n datgelu unrhyw sail resymol dros apelio, neu
(iii)ei fod fel arall yn flinderus neuʼn wacsaw.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Atod. 4 para. 1 mewn grym ar 1.10.2020, gweler rhl. 1(2)(b)