ATODLEN 4Apelau i Weinidogion Cymru
RHAN 1Materion rhagarweiniol
Gwrandawiadau llafarI12
1
Caiff Gweinidogion Cymru ei gwneud yn ofynnol i wrandawiad llafar gael ei gynnal os ydynt yn ystyried bod angen clywed sylwadau llafar cyn penderfynu apêl a gyflwynwyd iddynt.
2
Os yw Gweinidogion Cymru yn penderfynu cynnal gwrandawiad llafar, rhaid iddynt—
a
penodi un neu ragor o bersonau i wrando’r apêl ac i adrodd wrthynt ar yr apêl,
b
rhoi dim llai na 14 o ddiwrnodau o rybudd o amser a lleoliad y gwrandawiad iʼr apelydd ac i unrhyw berson yr anfonwyd copi oʼr hysbysiad o apêl ato o dan baragraff 4 neu 7,
c
rhoi gwybod iʼr apelydd i bwy y rhoddwyd hysbysiad oʼr gwrandawiad, a
d
rhoi gwybod iʼr rheini a hysbysir y cânt gyflwyno sylwadau llafar yn y gwrandawiad, ynglŷn âʼr apêl.
3
Caniateir i unrhyw berson a grybwyllir yn is-baragraff (2), syʼn dymuno cyflwyno sylwadau llafar yn y gwrandawiad, gael ei gynorthwyo i gyflwyno ei sylwadau gan berson arall a chael ei gynrychioli yn y gwrandawiad gan y person arall hwnnw, gan gynnwys pan na foʼr person a hysbysir o dan is-baragraff (2) yn gallu bod yn bresennol ei hunan yn y gwrandawiad.
4
Caiff y person neuʼr personau a benodir gan Weinidogion Cymru i wrando’r apêl benderfynuʼr weithdrefn sydd iʼw dilyn yn y gwrandawiad.
5
Nid yw Gweinidogion Cymru wedi eu rhwymo gan unrhyw argymhellion syʼn codi o wrandawiad llafar.