Gwrandawiadau llafarLL+C
2.—(1) Caiff Gweinidogion Cymru ei gwneud yn ofynnol i wrandawiad llafar gael ei gynnal os ydynt yn ystyried bod angen clywed sylwadau llafar cyn penderfynu apêl a gyflwynwyd iddynt.
(2) Os yw Gweinidogion Cymru yn penderfynu cynnal gwrandawiad llafar, rhaid iddynt—
(a)penodi un neu ragor o bersonau i wrando’r apêl ac i adrodd wrthynt ar yr apêl,
(b)rhoi dim llai na 14 o ddiwrnodau o rybudd o amser a lleoliad y gwrandawiad iʼr apelydd ac i unrhyw berson yr anfonwyd copi oʼr hysbysiad o apêl ato o dan baragraff 4 neu 7,
(c)rhoi gwybod iʼr apelydd i bwy y rhoddwyd hysbysiad oʼr gwrandawiad, a
(d)rhoi gwybod iʼr rheini a hysbysir y cânt gyflwyno sylwadau llafar yn y gwrandawiad, ynglŷn âʼr apêl.
(3) Caniateir i unrhyw berson a grybwyllir yn is-baragraff (2), syʼn dymuno cyflwyno sylwadau llafar yn y gwrandawiad, gael ei gynorthwyo i gyflwyno ei sylwadau gan berson arall a chael ei gynrychioli yn y gwrandawiad gan y person arall hwnnw, gan gynnwys pan na foʼr person a hysbysir o dan is-baragraff (2) yn gallu bod yn bresennol ei hunan yn y gwrandawiad.
(4) Caiff y person neuʼr personau a benodir gan Weinidogion Cymru i wrando’r apêl benderfynuʼr weithdrefn sydd iʼw dilyn yn y gwrandawiad.
(5) Nid yw Gweinidogion Cymru wedi eu rhwymo gan unrhyw argymhellion syʼn codi o wrandawiad llafar.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Atod. 4 para. 2 mewn grym ar 1.10.2020, gweler rhl. 1(2)(b)