Golwg cyfnod mewn amser fel yr oedd ar 01/10/2021.
Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Fferyllol) (Cymru) 2020, Paragraff 12 yn gyfredol gyda’r holl newidiadau y gwyddys eu bod mewn grym ar neu cyn 21 Chwefror 2025. Mae newidiadau a all gael eu dwyn i rym yn y dyfodol. Mae newidiadau a wnaed yn ymddangos yn y cynnwys a chyfeirir atynt trwy anodiadau.
Nid yw newidiadau ac effeithiau sydd eto i'w gwneud gan y tîm golygyddol ond yn berthnasol wrth edrych ar y fersiwn ddiweddaraf neu fersiwn ragolygol o ddeddfwriaeth. Felly, nid oes modd eu gweld wrth edrych ar ddeddfwriaeth fel y mae ar bwynt penodol mewn amser. Er mwyn gweld yr wybodaeth 'Newidiadau i Ddeddfwriaeth' ar gyfer y ddarpariaeth hon ewch yn ôl i'r fersiwn ddiweddaraf gan ddefnyddio'r opsiynau yn y blwch 'Pa Fersiwn' uchod.
12.—(1) Maeʼr paragraff hwn yn nodiʼr gofynion ychwanegol y cyfeirir atynt ym mharagraff 11(1)(o) syʼn ymwneud â darparu cyfarpar penodedig.
(2) Rhaid i fferyllydd GIG syʼn gweinyddu cyfarpar penodedig yng nghwrs arferol busnes ddarparu gwasanaeth danfon i gartrefi mewn cysylltiad âʼr cyfarpar hwnnw ac, fel rhan oʼr gwasanaeth hwnnw—
(a)rhaid iʼr fferyllydd GIG gynnig danfon y cyfarpar penodedig i gartref y claf,
(b)os ywʼr claf yn derbyn y cynnig hwnnw, rhaid gwneud y danfoniad yn rhesymol brydlon ac ar yr adeg y cytunir arni âʼr claf,
(c)rhaid danfon y cyfarpar penodedig mewn pecyn nad ywʼn arddangos unrhyw ysgrifen neu farciau eraill a allai ddangos ei gynnwys, a
(d)ni chaiff y modd y danfonir y pecyn ac unrhyw eitemau atodol syʼn ofynnol gan is-baragraff (3) gyfleuʼr math o gyfarpar a ddanfonir.
(3) Mewn unrhyw achos pan fo cyfarpar penodedig yn cael ei ddarparu (drwy ei ddanfon iʼr cartref neu fel arall), rhaid iʼr fferyllydd GIG ddarparu cyflenwad rhesymol o eitemau atodol priodol (megis clytiau tafladwy a bagiau gwaredu) ac—
(a)rhaid iddo sicrhau y caiff y claf, os ywʼr claf yn dymuno, ymgynghori â pherson i gael cyngor clinigol arbenigol ynglŷn âʼr cyfarpar, neu
(b)os ywʼr fferyllydd GIG yn credu ei bod yn briodol gwneud hynny, rhaid iddo—
(i)atgyfeirioʼr claf at ragnodydd, neu
(ii)cynnig gwasanaeth adolygu defnyddio cyfarpar i’r claf.
(4) Os na all y fferyllydd GIG ddarparu gwasanaeth adolygu defnyddio cyfarpar yn unol ag is-baragraff (3)(b)(ii), rhaid iʼr fferyllydd GIG roi iʼr claf fanylion cyswllt o leiaf ddau berson syʼn fferyllwyr GIG neuʼn gontractwyr cyfarpar GIG sy’n gallu trefnu i’r gwasanaeth gael ei ddarparu, os ywʼr manylion hyn yn hysbys iʼr fferyllydd GIG.
(5) Pan fo fferyllydd GIG yn darparu llinell gofal ffôn mewn cysylltiad â gweinyddu unrhyw gyfarpar penodedig, rhaid iʼr fferyllydd GIG sicrhau, yn ystod cyfnodau y tu allan i oriau—
(a)bod cyngor yn cael ei roi ar gael i gleifion drwyʼr llinell gofal ffôn honno, neu
(b)bod rhif ffôn Galw Iechyd Cymru, neu gyfeiriad gwefan Galw Iechyd Cymru(1), yn cael ei roi ar gael i gleifion drwyʼr llinell gofal ffôn honno.
(6) At ddibenion y paragraff hwn—
ystyr “cyfnodau y tu allan i oriau” (“out of hours periods”), mewn perthynas â fferyllfa, ywʼr cyfnodau y tu allan iʼr cyfnodau pan foʼr fferyllydd GIG—
o dan rwymedigaeth i ddarparu gwasanaethau fferyllol yn y fferyllfa yn rhinwedd paragraff 22(1) neu 26(1), neu
yn darparu gwasanaethau fferyllol yn y fferyllfa yn unol â hysbysiad o dan baragraff 22(2);
ystyr “cyngor clinigol arbenigol” (“expert clinical advice”), mewn perthynas â chyfarpar penodedig, yw cyngor a roddir gan berson sydd wedi ei hyfforddiʼn addas ac sydd â phrofiad perthnasol mewn cysylltiad âʼr cyfarpar.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Atod. 5 para. 12 mewn grym ar 1.10.2020, gweler rhl. 1(2)(b)
Rhif ffôn Galw Iechyd Cymru 0845 46 47, cyfeiriad gwefan www.nhsdirect.wales.nhs.uk.
The Whole Instrument you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.
Would you like to continue?
The Whole Instrument you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download.
Would you like to continue?
The Whole Instrument you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.
Would you like to continue?
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Point in Time: This becomes available after navigating to view revised legislation as it stood at a certain point in time via Advanced Features > Show Timeline of Changes or via a point in time advanced search. A point in time version is only available in English.
Geographical Extent: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.
Show Timeline of Changes: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: