ATODLEN 5Telerau gwasanaeth ar gyfer fferyllwyr GIG syʼn darparu gwasanaethau fferyllol, yn benodol drwy ddarparu cyffuriau

RHAN 2Gwasanaethau hanfodol

Darparu cyffuriau neu gyfarpar a archebwyd

9.

(1)

Pan fo ffurflen bresgripsiwn neu bresgripsiwn amlroddadwy yn cael ei chyflwyno neu ei gyflwyno i fferyllydd GIG, ni chaiff y fferyllfa GIG ddarparuʼr cyffuriau neuʼr cyfarpar a archebir felly ond—

(a)

os ywʼr ffurflen bresgripsiwn neuʼr presgripsiwn amlroddadwy wedi ei llofnodi neu ei lofnodi aʼi harnodi neu ei arnodi yn briodol, fel yʼi disgrifir ym mharagraff 5(1) neu (2), a

(b)

yn unol âʼr archeb ac unrhyw gyfarwyddydau a roddwyd gan y rhagnodydd ar y ffurflen bresgripsiwn neuʼr presgripsiwn amlroddadwy,

yn ddarostyngedig i unrhyw reoliadau sydd mewn grym o dan Ddeddf Pwysau a Mesurau 198539 aʼr darpariaethau a ganlyn o’r Rhan hon.

(2)

Rhaid i gyffuriau neu gyfarpar a archebir felly gael eu darparu naill ai gan fferyllydd cofrestredig neu o dan oruchwyliaeth uniongyrchol fferyllydd cofrestredig.

(3)

Pan foʼr fferyllydd y cyfeirir ato yn is-baragraff (2) wedi ei gyflogi gan fferyllydd GIG, ni chaniateir iʼr fferyllydd cofrestredig fod yn rhywun—

(a)

sydd wedi ei anghymhwyso rhag ei gynnwys mewn rhestr berthnasol, neu

(b)

sydd wedi ei atal dros dro o Gofrestr y Cyngor Fferyllol Cyffredinol.

(4)

Os ywʼr archeb yn archeb am fath o gyfarpar y maeʼn ofynnol ei fesur aʼi ffitio (er enghraifft, gwasgrwym) neu os yw cynnyrch sydd i’w ddarparu yn unol â PPD yn fath o’r cyfarpar hwnnw, rhaid iʼr fferyllydd GIG wneud yr holl drefniadau angenrheidiol—

(a)

ar gyfer mesur y person a enwir ar y ffurflen bresgripsiwn neuʼr presgripsiwn amlroddadwy ar gyfer y cyfarpar, a

(b)

ar gyfer ffitioʼr cyfarpar.

(5)

Os ywʼr archeb yn archeb am gyffur neu gyfarpar sydd wedi ei gynnwys yn y Tariff Cyffuriau, Fformiwlari Cenedlaethol Prydain (gan gynnwys unrhyw Atodiad a gyhoeddwyd fel rhan oʼr Fformiwlari hwnnw), Fformiwlari’r Ymarferydd Deintyddol, y Cyffurlyfr Ewropeaidd neu Godecs Fferyllol Prydain neu os yw cynnyrch sydd i’w ddarparu yn unol â PPD yn gyffur neu gyfarpar o’r fath, rhaid iʼr cyffur neuʼr cyfarpar a ddarperir gydymffurfio âʼr safon neuʼr fformiwla a bennir yno.

(6)

Os ywʼr archeb—

(a)

yn archeb am gyffur, ond

(b)

nad yw’n archeb am gyffur rheoledig o fewn ystyr “controlled drug” yn Neddf Camddefnyddio Cyffuriau 1971, ac eithrio cyffur a bennir am y tro yn Atodlen 4 neu 5 i Reoliadau Camddefnyddio Cyffuriau 2001,

ac nad ywʼn rhagnodi ei swm, ei gryfder naʼr dogn, caiff fferyllydd GIG ddarparuʼr cyffur yn y cryfder a’r dogn y maeʼn ystyried eu bod yn briodol drwy arfer ei sgìl, ei wybodaeth aʼi ofal proffesiynol ac, yn ddarostyngedig i is-baragraff (7), yn y swm y maeʼn ystyried ei fod yn briodol ar gyfer cwrs o driniaeth am gyfnod nad yw’n hwy na 5 niwrnod.

(7)

Pan fo archeb y mae is-baragraff (6) yn gymwys iddi yn archeb am—

(a)

sylwedd atal cenhedlu geneuol,

(b)

cyffur nad yw ar gael iʼw gyflenwi fel rhan o wasanaethau fferyllol ac eithrio ar y cyd ag un neu ragor o gyffuriau eraill, neu

(c)

gwrthfiotig ar ffurf hylif sydd iʼw roi drwyʼr geg, pan foʼn ofynnol, am resymau fferyllol mewn cysylltiad ag ef, ei ddarparu mewn pecyn heb ei agor,

nad yw ar gael iʼw ddarparu fel rhan o wasanaethau fferyllol ac eithrio mewn pecynnau pan fo’r maint lleiaf sydd ar gael yn cynnwys swm priodol ar gyfer cwrs o driniaeth am gyfnod sy’n hwy na 5 niwrnod, caiff y fferyllydd GIG ddarparu pecyn oʼr maint lleiaf sydd ar gael.

(8)

Pan fo unrhyw gyffur y maeʼr paragraff hwn yn gymwys iddo (hynny yw, cyffur nad yw Deddf Camddefnyddio Cyffuriau 1971 yn gymwys iddo, onid ywʼn gyffur a bennir am y tro yn Atodlen 4 neu 5 i Reoliadau Camddefnyddio Cyffuriau 2001), a archebwyd gan ragnodydd ar ffurflen bresgripsiwn neu bresgripsiwn amlroddadwy, ar gael ar gyfer ei ddarparu gan fferyllydd GIG mewn pecyn mewn swm gwahanol iʼr swm a archebwyd felly, aʼr cyffur hwnnw—

(a)

yn ddi-haint,

(b)

yn eferw neuʼn hygrosgopig,

(c)

yn gymysgedd hylifol iʼw ychwanegu at ddŵr bath,

(d)

yn gymysgedd col-tar,

(e)

yn gymysgedd gludiog, neu

(f)

wedi ei becynnu ar adeg ei weithgynhyrchu mewn pecyn calendr neu gynhwysydd arbennig,

rhaid iʼr fferyllydd GIG ddarparuʼr cyffur yn y pecyn sydd oʼr swm agosaf iʼr swm a archebwyd felly.

(9)

Yn y paragraff hwn, ystyr “cynhwysydd arbennig” yw unrhyw gynhwysydd sydd âʼr modd o roiʼr cynnwys yn rhan integrol ohono, neu nad ywʼn ymarferol ei ddefnyddio i weinyddu swm cywir oʼr cynnwys.

(10)

Pan fo rhagnodydd yn archebu cyffur, neu pan fo cyffur sydd i’w ddarparu yn unol â PPD, mewn swm, neu luosrif o swm, sydd ar gael yn hwylus fel maint pecyn a weithgynhyrchir i ddeiliad awdurdodiad marchnata ar gyfer y cyffur, rhaid iʼr fferyllydd GIG ddarparuʼr cyffur mewn pecyn gwreiddiol (neu mewn pecynnau gwreiddiol) oʼr maint hwnnw sydd wedi eu cydosod gan weithgynhyrchydd oʼr cyffur ar gyfer y deiliad awdurdodiad marchnata hwnnw, oni bai—

(a)

nad ywʼn bosibl iʼr fferyllydd GIG gael pecyn (neu becynnau) oʼr fath yn rhesymol brydlon yng nghwrs arferol busnes, neu

(b)

nad ywʼn ymarferol iʼr fferyllydd GIG ddarparu pecyn (neu becynnau) oʼr fath wrth ymateb iʼr archeb (er enghraifft oherwydd anghenion y claf neuʼr dull o roiʼr cyffur).

(11)

Ac eithrio fel yʼi darperir yn is-baragraff (12), ni chaiff fferyllydd GIG ddarparu cyffur Atodlen wrth ymateb i archeb syʼn cyfeirio ato wrth ei enw, ei fformiwla neu ddisgrifiad arall ar ffurflen bresgripsiwn neu bresgripsiwn amlroddadwy.

(12)

Pan fo gan gyffur enw amherchnogol priodol a phan foʼn cael ei archebu ar ffurflen bresgripsiwn neu bresgripsiwn amlroddadwy, naill ai wrth yr enw hwnnw neu wrth ei fformiwla, caiff fferyllydd GIG ddarparu cyffur sydd âʼr un fanyleb, hyd yn oed pan foʼr cyffur hwnnw yn gyffur Atodlen, ar yr amod pan fo cyffur Atodlen mewn pecyn syʼn cynnwys cyffur mewn mwy nag un cryfder, nad yw darparu felly yn golygu cyflenwi rhan oʼr pecyn yn unig.

(13)

Pan fo cyffur a archebir fel yʼi pennir yn is-baragraff (12) yn gyfuniad o fwy nag un cyffur, nid ywʼr is-baragraff hwnnw yn gymwys ond os oes gan y cyfuniad enw amherchnogol priodol, pa un a oes gan y cyffuriau unigol yn y cyfuniad enwau oʼr fath ai peidio.

(14)

Rhaid i fferyllydd GIG ddarparu unrhyw gyffur y maeʼn ofynnol iddo ei ddarparu o dan baragraff 5, neu unrhyw gyffur y mae’n ei ddarparu o dan baragraff 6, mewn cynhwysydd addas.

(15)

Pan fo fferyllydd GIG yn darparu cyffur neu gyfarpar o dan baragraff 6, rhaid i’r fferyllydd GIG gynnwys yn y label gweinyddu ar ddeunydd pecynnu’r cynnyrch, er budd y claf, wybodaeth i’r perwyl bod y cynnyrch yn cael ei gyflenwi yn unol â PPD, gan nodi’r PPD penodol.