ATODLEN 6LL+CTelerau gwasanaeth ar gyfer contractwyr cyfarpar GIG syʼn darparu gwasanaethau fferyllol drwy ddarparu cyfarpar yn unig

Penderfyniad a ysgogir gan y contractwr cyfarpar GIG ynghylch oriau agorLL+C

16.—(1Caiff contractwr cyfarpar GIG wneud cais i Fwrdd Iechyd Lleol yn ysgrifenedig, gan roi 90 o ddiwrnodau o rybudd iddo newid y diwrnodau neuʼr amseroedd y maeʼr contractwr cyfarpar GIG o dan rwymedigaeth i ddarparu gwasanaethau fferyllol yn ei fangre, mewn ffordd—

(a)syʼn lleihau cyfanswm nifer yr oriau y maeʼr contractwr cyfarpar GIG o dan rwymedigaeth i ddarparu gwasanaethau fferyllol bob wythnos, neu

(b)syʼn cadwʼr cyfanswm nifer oriau hwnnw yn ddigyfnewid.

(2Pan fo contractwr cyfarpar GIG yn gwneud cais o dan is-baragraff (1), rhaid iddo, fel rhan oʼr cais hwnnw, ddarparu iʼr Bwrdd Iechyd Lleol unrhyw wybodaeth y mae’r Bwrdd Iechyd Lleol yn gofyn yn rhesymol amdani mewn cysylltiad ag unrhyw newidiadau yn anghenion pobl yn y gymdogaeth, neu ddefnyddwyr tebygol eraill y fangre, am wasanaethau fferyllol syʼn berthnasol iʼr cais.

(3Rhaid iʼr Bwrdd Iechyd Lleol benderfynu cais o dan is-baragraff (1) o fewn 60 niwrnod i’w gael (gan gynnwys unrhyw wybodaeth syʼn ofynnol gan y ceisydd yn unol ag is-baragraff (2)).

(4Wrth benderfynuʼr cais, rhaid iʼr Bwrdd Iechyd Lleol—

(a)dyroddi cyfarwyddyd (a fydd yn disodli unrhyw gyfarwyddyd presennol) syʼn bodloni gofynion is-baragraffau (5) a (6) ac yn cael yr effaith naill ai o ganiatáuʼr cais o dan y paragraff hwn neu ei ganiatáu’n rhannol yn unig,

(b)cadarnhau unrhyw gyfarwyddyd presennol mewn cysylltiad âʼr diwrnodau aʼr amseroedd y mae rhaid iʼr contractwr cyfarpar GIG ddarparu gwasanaethau fferyllol yn y fangre, ar yr amod y byddaiʼr cyfarwyddyd presennol, pa un a yw wedi ei ddyroddi o dan yr Atodlen hon neu o dan Atodlen 5 i Reoliadau 2013, yn bodloni gofynion is-baragraffau (5) a (6), neu

(c)naill ai—

(i)dirymu (heb ei amnewid) unrhyw gyfarwyddyd presennol mewn cysylltiad âʼr diwrnodau aʼr amseroedd y mae rhaid iʼr contractwr cyfarpar GIG ddarparu gwasanaethau fferyllol yn y fangre, pa un a yw wedi ei ddyroddi o dan yr Atodlen hon neu o dan Atodlen 5 i Reoliadau 2013, pan fo hyn yn cael yr effaith o ganiatáuʼr cais o dan y paragraff hwn neu ei ganiatáu’n rhannol yn unig, neu

(ii)mewn achos pan na fo cyfarwyddyd presennol, beidio â dyroddi unrhyw gyfarwyddyd,

ac mewn achos oʼr fath, yn rhinwedd paragraff 13(1)(a), rhaid iʼr fangre fod ar agor am ddim llai na 30 o oriau bob wythnos.

(5Pan fo Bwrdd Iechyd Lleol yn dyroddi cyfarwyddyd o dan is-baragraff (4) mewn cysylltiad â mangre y maeʼn ofynnol iddi fod ar agor—

(a)am fwy na 30 o oriau bob wythnos, rhaid iddo, yn y cyfarwyddyd hwnnw, nodi—

(i)cyfanswm nifer yr oriau bob wythnos y mae rhaid iʼr contractwr cyfarpar GIG ddarparu gwasanaethau fferyllol yn y fangre, a

(ii)ynglŷn â’r oriau ychwanegol y maeʼr contractwr cyfarpar GIG i ddarparu gwasanaethau fferyllol, y diwrnodau a’r amseroedd y maeʼn ofynnol iddo ddarparuʼr gwasanaethau hynny yn ystod yr oriau ychwanegol hynny,

ond ni chaiff, yn y cyfarwyddyd hwnnw, nodi’r diwrnodau neu’r amseroedd y maeʼr contractwr cyfarpar GIG i ddarparu gwasanaethau fferyllol yn ystod oriau nad ydynt yn oriau ychwanegol, neu

(b)am lai na 30 o oriau bob wythnos, rhaid iddo, yn y cyfarwyddyd hwnnw, nodi’r diwrnodau a’r amseroedd y mae gwasanaethau fferyllol iʼw darparu yn y fangre honno.

(6Ni chaiff y Bwrdd Iechyd Lleol ddyroddi cyfarwyddyd o dan is-baragraff (4) os ei effaith, yn syml, yw ei gwneud yn ofynnol i fangre fod ar agor am 30 o oriau bob wythnos ar ddiwrnodau penodol ac amseroedd penodol (hynny yw, rhaid iʼr cyfarwyddyd gael yr effaith oʼi gwneud yn ofynnol i fangre fod ar agor am naill ai mwy neu lai na 30 o oriau bob wythnos).

(7Pan foʼr Bwrdd Iechyd Lleol yn ystyried gweithredu o dan is-baragraff (4)(a) neu (4)(c)(i), rhaid iddo ymgynghori âʼr Pwyllgor Fferyllol Lleol cyn penderfynuʼr cais.

(8Rhaid i Fwrdd Iechyd Lleol hysbysuʼr contractwr cyfarpar GIG am unrhyw gyfarwyddyd a ddyroddir, neu unrhyw gam gweithredu arall a gymerir, o dan is-baragraff (4), a phan fo hyn yn cael yr effaith o wrthod cais o dan y paragraff hwn, neu ei ganiatáu’n rhannol, rhaid iddo anfon at y contractwr cyfarpar GIG ddatganiad syʼn nodi—

(a)y rhesymau dros y gwrthodiad neu, yn ôl y digwydd, dros ganiatáuʼr cais yn rhannol yn unig, a

(b)hawl y contractwr cyfarpar GIG i apelio o dan is-baragraff (9).

(9Caiff contractwr cyfarpar GIG, o fewn 30 o ddiwrnodau i gael hysbysiad yn unol ag is-baragraff (8), apelio i Weinidogion Cymru yn erbyn unrhyw gam gweithredu o dan is-baragraff (4) syʼn cael yr effaith o wrthod cais o dan y paragraff hwn neu ei ganiatáu’n rhannol yn unig.

(10Caiff Gweinidogion Cymru, wrth benderfynu apêl, naill ai cadarnhauʼr cam gweithredu a gymerwyd gan y Bwrdd Iechyd Lleol neu gymryd unrhyw gam gweithredu y gallaiʼr Bwrdd Iechyd Lleol fod wedi ei gymryd o dan is-baragraff (4).

(11Rhaid i Weinidogion Cymru hysbysuʼr contractwr cyfarpar GIG yn ysgrifenedig am eu penderfyniad a rhaid iddynt, ym mhob achos, gynnwys gydaʼr hysbysiad ddatganiad ysgrifenedig oʼr rhesymau dros y penderfyniad.

(12Os ywʼr diwrnodau neuʼr amseroedd y maeʼr contractwr cyfarpar GIG i ddarparu gwasanaethau fferyllol yn y fangre wedi eu newid yn unol âʼr paragraff hwn, rhaid iʼr contractwr cyfarpar GIG gyflwynoʼr newidiadau—

(a)os nad yw wedi apelio o dan is-baragraff (9), ddim cynharach na 30 o ddiwrnodau ar ôl y dyddiad y maeʼn cael hysbysiad o dan is-baragraff (4), neu

(b)os yw wedi apelio o dan is-baragraff (9), ddim cynharach na 30 o ddiwrnodau ar ôl y dyddiad y maeʼn cael hysbysiad o dan is-baragraff (11).

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 6 para. 16 mewn grym ar 1.10.2020, gweler rhl. 1(2)(b)