ATODLEN 6Telerau gwasanaeth ar gyfer contractwyr cyfarpar GIG syʼn darparu gwasanaethau fferyllol drwy ddarparu cyfarpar yn unig

Arolygiadau a mynediad at wybodaeth

27.

(1)

Rhaid i gontractwr cyfarpar GIG ganiatáu i bersonau sydd wedi eu hawdurdodi’n ysgrifenedig gan y Bwrdd Iechyd Lleol fynd i unrhyw fangre y mae’r contractwr cyfarpar GIG yn ei defnyddio i ddarparu gwasanaethau fferyllol aʼi harolygu, ar unrhyw adeg resymol, at y dibenion a ganlyn—

(a)

canfod pa un a ywʼr contractwr cyfarpar GIG yn cydymffurfio â gofynion yr Atodlen hon ai peidio;

(b)

archwilio, monitro a dadansoddi—

(i)

y ddarpariaeth a wneir gan y contractwr cyfarpar GIG, wrth ddarparu gwasanaethau fferyllol, ar gyfer gofal a thriniaeth i gleifion gan gynnwys unrhyw drefniant a wneir â pherson mewn cysylltiad â darparu cyfarpar, a

(ii)

y modd y maeʼr contractwr cyfarpar GIG yn rheoliʼr gwasanaethau fferyllol y mae’n eu darparu, pan foʼr amodau yn is-baragraff (2) wedi eu bodloni.

(2)

Yr amodau yw—

(a)

bod rhybudd rhesymol wedi ei roi oʼr bwriad i fynd i’r fangre,

(b)

bod y Pwyllgor Fferyllol Lleol ar gyfer yr ardal y mae’r fangre ynddi wedi ei wahodd i fod yn bresennol yn yr arolygiad, pan foʼr contractwr cyfarpar GIG yn gofyn am hynny,

(c)

bod gan y person sydd wedi ei awdurdodi’n ysgrifenedig dystiolaeth ysgrifenedig oʼi awdurdodiad yn ei feddiant, a’i fod yn cyflwyno’r dystiolaeth honno ar gais, a

(d)

nad yw’r person sydd wedi ei awdurdodi’n ysgrifenedig yn mynd i unrhyw ran oʼr fangre a ddefnyddir fel llety preswyl yn unig heb gydsyniad y preswylydd.

(3)

Rhaid i gontractwr cyfarpar GIG, ar gais y Bwrdd Iechyd Lleol neu berson sydd wedi ei awdurdodi’n ysgrifenedig a grybwyllir yn is-baragraff (1), ganiatáu mynediad at unrhyw wybodaeth sy’n ofynnol yn rhesymol gan y Bwrdd Iechyd Lleol neu’r person hwnnw—

(a)

at y dibenion a grybwyllir yn is-baragraff (1), neu

(b)

yn achos y Bwrdd Iechyd Lleol, mewn cysylltiad âʼi swyddogaethau syʼn ymwneud â gwasanaethau fferyllol.