7.—(1) Os ywʼr person a bennir yn is-baragraff (2) yn gofyn iʼr contractwr cyfarpar GIG wneud hynny—
(a)rhaid iʼr contractwr cyfarpar GIG roi amcangyfrif oʼr amser pan fydd y cyfarpar yn barod, a
(b)os na fydd yn barod erbyn hynny, rhaid iʼr contractwr cyfarpar GIG roi amcangyfrif diwygiedig oʼr amser pan fydd yn barod.
(2) Person a bennir yn yr is-baragraff hwn yw person—
(a)syʼn cyflwyno ffurflen bresgripsiwn anelectronig neu bresgripsiwn amlroddadwy anelectronig, neu
(b)syʼn gofyn i gyfarpar gael ei ddarparu yn unol â ffurflen bresgripsiwn electronig neu bresgripsiwn amlroddadwy electronig.
(3) Cyn darparu cyfarpar yn unol â ffurflen bresgripsiwn neu bresgripsiwn amlroddadwy—
(a)rhaid iʼr contractwr cyfarpar GIG ofyn i unrhyw berson syʼn gwneud datganiad nad oes rhaid iʼr person a enwir ar y ffurflen bresgripsiwn neuʼr presgripsiwn amlroddadwy daluʼr ffioedd a bennir yn rheoliad 3 oʼr Rheoliadau Ffioedd (cyflenwi cyffuriau a chyfarpar gan fferyllwyr), yn rhinwedd naill ai—
(i)hawlogaeth i gael esemptiad o dan reoliad 8 oʼr Rheoliadau Ffioedd (esemptiadau), neu
(ii)hawlogaeth i beidio â thalu ffioedd o dan reoliad 5 oʼr Rheoliadau Peidio â Chodi Tâl (hawlogaeth i beidio â thalu ffi o gwbl ac i gael taliad llawn),
gyflwyno tystiolaeth foddhaol oʼr hawlogaeth honno, oni bai bod y datganiad mewn cysylltiad â hawlogaeth i gael esemptiad yn rhinwedd rheoliad 8 oʼr Rheoliadau Ffioedd neu mewn cysylltiad â hawlogaeth i beidio â thalu yn rhinwedd rheoliad 5(1)(e) neu (2) oʼr Rheoliadau Peidio â Chodi Tâl, a bod tystiolaeth oʼr fath eisoes wedi ei rhoi ar gael iʼr contractwr cyfarpar GIG ar adeg gwneud y datganiad,
(b)yn achos ffurflen bresgripsiwn anelectronig neu bresgripsiwn amlroddadwy anelectronig, os na chyflwynir tystiolaeth foddhaol iʼr contractwr cyfarpar GIG fel syʼn ofynnol gan baragraff (a), rhaid iʼr contractwr cyfarpar GIG arnodiʼr ffurflen y gwneir y datganiad arni iʼr perwyl hwnnw, ac
(c)yn achos ffurflen bresgripsiwn electronig neu bresgripsiwn amlroddadwy electronig, rhaid iʼr contractwr cyfarpar GIG gydymffurfio ag unrhyw ofynion gan y gwasanaeth TPE i ddarparu—
(i)cofnod oʼr esemptiad rhag talu neuʼr hawlogaeth i beidio â thalu a hawliwyd, ac a gyflwynwyd tystiolaeth foddhaol, fel y cyfeirir ati ym mharagraff (a), a
(ii)mewn unrhyw achos pan fo ffi yn ddyledus, gadarnhad bod y ffi berthnasol wedi ei thalu.
(4) Mae is-baragraff (3) yn gymwys i ddarparu cyfarpar yn unol â PPD fel y mae’n gymwys i ddarparu cyfarpar yn unol â ffurflen bresgripsiwn neu bresgripsiwn amlroddadwy (neu swp-ddyroddiad cysylltiedig), ac at y dibenion hyn, mae’r presgripsiwn at ddibenion ad-dalu cost y cynnyrch, fel y’i crybwyllir ym mharagraff 5(4)(a), yn cael ei drin fel y presgripsiwn y darperir y cyfarpar yn unol ag ef (er nad yw’r cyflenwi yn unol â’r presgripsiwn hwnnw).
Gwybodaeth Cychwyn
I1Atod. 6 para. 7 mewn grym ar 1.10.2020, gweler rhl. 1(2)(b)