10.—(1) Pan fo meddyg fferyllol—
(a)yn gontractwr GMC, neu wedi ei gymryd ymlaen neu ei gyflogi gan gontractwr GMC, y weithdrefn gwyno a sefydlir yn unol â thelerau contract GMC syʼn rhoi effaith i baragraffau 89A a 90 o Atodlen 6 iʼr Rheoliadau GMC (pryderon a chwynion);
(b)yn gontractwr GMDdA, neu wedi ei gymryd ymlaen neu ei gyflogi gan gontractwr GMDdA, y weithdrefn gwyno a sefydlir gan y contract GMDdA perthnasol i ymdrin â chwynion mewn perthynas â darparu gwasanaethau meddygol sylfaenol;
(c)wedi ei gyflogi neu ei gymryd ymlaen gan Fwrdd Iechyd Lleol at ddibenion darparu gwasanaethau fferyllol o fewn practis GMBILl, y weithdrefn gwyno a sefydlir gan y practis GMBILl hwnnw i ymdrin â chwynion mewn perthynas â darparu gwasanaethau meddygol sylfaenol,
syʼn gymwys mewn perthynas ag unrhyw fater sy’n gysylltiedig yn rhesymol â darparu gwasanaethau fferyllol, fel y maeʼn gymwys mewn cysylltiad â gwasanaethau a ddarperir o dan y contract hwnnw neuʼr cytundeb hwnnw, neu o fewn y practis hwnnw.
(2) Yn unol â hynny, mae contract GMC syʼn rhoi effaith i baragraff 95 o Atodlen 6 iʼr Rheoliadau GMC (cydweithredu ag ymchwiliadau) yn gymwys hefyd mewn perthynas â chwynion neu bryderon a hysbysir ynghylch materion oʼr fath.