ATODLEN 7Telerau gwasanaeth ar gyfer meddygon syʼn darparu gwasanaethau fferyllol

Corffori darpariaethau

2.

Mae unrhyw ddarpariaethau oʼr canlynol syʼn effeithio ar hawliau a rhwymedigaethau meddygon syʼn darparu gwasanaethau fferyllol yn ffurfio rhan oʼr telerau gwasanaeth—

(a)

y Rheoliadau,

(b)

y Tariff Cyffuriau iʼr graddau y maeʼn rhestru cyffuriau a chyfarpar at ddibenion adran 80 o Ddeddf 2006 (trefniadau ar gyfer gwasanaethau fferyllol),

(c)

cymaint o Ran 2 o Reoliadauʼr Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Pwyllgorau Gwasanaethau a’r Tribiwnlys) 1992 ag syʼn ymwneud â’r canlynol—

(i)

ymchwiliadau a wneir gan y pwyllgor disgyblu fferyllol aʼr cyd-bwyllgor disgyblu a chamau gweithredu y caiff y Bwrdd Iechyd Lleol eu cymryd o ganlyniad i ymchwiliadau oʼr fath, a

(ii)

apelau i Weinidogion Cymru yn erbyn penderfyniadauʼr Bwrdd Iechyd LleolF1.

F2(d)

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .