ATODLEN 8Mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol

Rheoliadauʼr Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Pwyllgorau Gwasanaethau a’r Tribiwnlys) 1992

1.

Yn rheoliad 2 o Reoliadauʼr Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Pwyllgorau Gwasanaethau a’r Tribiwnlys) 199254 (dehongli)—

(a)

ym mharagraff (1), yn y diffiniad o “Pharmaceutical Regulations”, yn lle “National Health Service (Pharmaceutical Services) (Wales) Regulations 2013” rhodder “National Health Service (Pharmaceutical Services) (Wales) Regulations 2020”, a

(b)

ym mharagraff (4)(c)55, yn lle “paragraph 33 of Schedule 4 to, or paragraph 21 of Schedule 5 to” rhodder “paragraph 33 of Schedule 5 to, or paragraph 22 of Schedule 6 to”.