xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2020 Rhif 1080 (Cy. 243)

Iechyd Y Cyhoedd, Cymru

Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 13) 2020

Gwnaed

am 2.09 p.m. ar 2 Hydref 2020

Gosodwyd gerbron Senedd Cymru

am 3.50 p.m. ar 2 Hydref 2020

Yn dod i rym

am 4.00 a.m. ar 3 Hydref 2020

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adrannau 45B a 45P(2) o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984(1), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.

RHAN 1LL+CCyffredinol

Enwi, dod i rym a dehongliLL+C

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 13) 2020.

(2Daw’r Rheoliadau hyn i rym am 4.00 a.m. ar 3 Hydref 2020.

(3Yn y Rheoliadau hyn, ystyr y “Rheoliadau Teithio Rhyngwladol” yw Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) 2020(2).

Gwybodaeth Cychwyn

I1Rhl. 1 mewn grym ar 3.10.2020 am 4.00 a.m., gweler rhl. 1(2)

RHAN 2LL+CDiwygiadau i’r rhestr o wledydd esempt yn Atodlen 3 i’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol

Hepgor gwledydd a thiriogaethau o’r rhestr o wledydd a thiriogaethau esemptLL+C

2.  Yn Rhan 1 o Atodlen 3 i’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol (gwledydd a thiriogaethau esempt y tu allan i’r ardal deithio gyffredin), hepgorer—

Gwybodaeth Cychwyn

I2Rhl. 2 mewn grym ar 3.10.2020 am 4.00 a.m., gweler rhl. 1(2)

Darpariaeth drosiannol mewn cysylltiad â rheoliad 2LL+C

3.—(1Mae paragraff (2) yn gymwys pan fo person (“P”)—

(a)yn cyrraedd Cymru am 4:00 a.m. ar 3 Hydref 2020 neu wedi hynny, a

(b)wedi bod mewn gwlad neu diriogaeth a restrir yn rheoliad 2 ddiwethaf—

(i)o fewn y cyfnod o 14 o ddiwrnodau sy’n dod i ben â’r diwrnod y mae P yn cyrraedd Cymru, a

(ii)cyn 4.00 a.m. ar 3 Hydref 2020.

(2Mae P, yn rhinwedd y ffaith iddo fod mewn gwlad neu diriogaeth a restrir yn rheoliad 2, i’w drin at ddibenion rheoliadau 7(1) ac 8(1) o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol fel pe bai wedi cyrraedd Cymru o wlad neu diriogaeth nad yw’n esempt, neu fel pe bai wedi cyrraedd ar ôl bod mewn gwlad neu diriogaeth o’r fath.

Gwybodaeth Cychwyn

I3Rhl. 3 mewn grym ar 3.10.2020 am 4.00 a.m., gweler rhl. 1(2)

RHAN 3LL+CDiwygio Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 12) 2020

Diwygio pennawd rheoliad 3LL+C

4.  Yn Rhan 2 o Reoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 12) 2020(3), yn y testun Cymraeg, ym mhennawd rheoliad 3, yn lle “rheoliad 24” rhodder “rheoliad 2”.

Gwybodaeth Cychwyn

I4Rhl. 4 mewn grym ar 3.10.2020 am 4.00 a.m., gweler rhl. 1(2)

Vaughan Gething

Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru

Am 2.09 p.m. ar 2 Hydref 2020

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) 2020 (O.S. 2020/574 (Cy. 132)) (y “Rheoliadau Teithio Rhyngwladol”). Diwygiwyd y Rheoliadau Teithio Rhyngwladol yn flaenorol gan:

Mae’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol yn gosod gofynion ar bersonau sy’n dod i Gymru ar ôl bod dramor. Maent yn cynnwys gofyniad i bersonau sy’n cyrraedd Cymru ynysu am gyfnod i’w bennu yn unol â’r Rheoliadau. Mae gofynion y Rheoliadau Teithio Rhyngwladol yn ddarostyngedig i eithriadau, ac mae categorïau penodol o bersonau wedi eu hesemptio rhag gorfod cydymffurfio. Nid yw’n ofynnol i bersonau sy’n dod i Gymru ynysu ar ôl bod mewn un neu ragor o’r gwledydd a’r tiriogaethau a restrir yn Atodlen 3 i’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol. Cyfeirir at y gwledydd a’r tiriogaethau a restrir yn Atodlen 3 fel “gwledydd a thiriogaethau esempt”.

Mae Rhan 2 o’r Rheoliadau hyn yn diwygio’r rhestr o wledydd a thiriogaethau esempt.

Mae rheoliad 2 o’r Rheoliadau hyn yn diwygio’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol er mwyn hepgor Bonaire, Sint Eustatius a Saba, Gwlad Pwyl a Thwrci o’r rhestr o wledydd a thiriogaethau esempt.

Mae rheoliad 3 o’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth drosiannol mewn cysylltiad â’r newid yn statws y gwledydd a’r tiriogaethau hyn. Mae’r ddarpariaeth drosiannol yn ymdrin â maes a all fod yn destun amheuaeth o ran effaith y diwygiadau a wneir gan reoliad 2 o’r Rheoliadau hyn ar weithredu’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol.

Yn Rhan 3 o’r Rheoliadau hyn, mae rheoliad 4 yn cywiro gwall technegol a nodwyd yn y testun Cymraeg yn rheoliad 3 o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 12) 2020.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ni luniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.

(1)

1984 p. 22. Mewnosodwyd Rhan 2A gan adran 129 o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2008 (p. 14) Mae’r swyddogaeth o wneud rheoliadau o dan Ran 2A wedi ei rhoi i “the appropriate Minister”. O dan adran 45T(6) o Ddeddf 1984 y Gweinidog priodol, o ran Cymru, yw Gweinidogion Cymru.