2020 Rhif 1082 (Cy. 244)

Gofal Cymdeithasol, Cymru
Plant A Phobl Ifanc, Cymru

Rheoliadau Mabwysiadu a Maethu (Cymru) (Diwygiadau Amrywiol) (Coronafeirws) 2020

Gwnaed

Gosodwyd gerbron Senedd Cymru

Yn dod i rym

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 9(1)(a), 140(7) ac (8) a 142(5) o Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 20021 ac adrannau 87 a 196(2) o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 20142.