Rheoliadau Mabwysiadu a Maethu (Cymru) (Diwygiadau Amrywiol) (Coronafeirws) 2020

Offerynnau Statudol Cymru

2020 Rhif 1082 (Cy. 244)

Gofal Cymdeithasol, Cymru

Plant A Phobl Ifanc, Cymru

Rheoliadau Mabwysiadu a Maethu (Cymru) (Diwygiadau Amrywiol) (Coronafeirws) 2020

Gwnaed

5 Hydref 2020

Gosodwyd gerbron Senedd Cymru

7 Hydref 2020

Yn dod i rym

1 Tachwedd 2020

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 9(1)(a), 140(7) ac (8) a 142(5) o Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 2002(1) ac adrannau 87 a 196(2) o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014(2).

Enwi a chychwyn

1.—(1Enwʼr Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Mabwysiadu a Maethu (Cymru) (Diwygiadau Amrywiol) (Coronafeirws) 2020.

(2Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Tachwedd 2020.

Diwygio Rheoliadau Asiantaethau Mabwysiadu (Cymru) 2005

2.  Mae Rheoliadau Asiantaethau Mabwysiadu (Cymru) 2005(3) wedi eu diwygio yn unol â rheoliadau 3 i 6.

3.  Yn rheoliad 27 (penderfyniad cyn asesu)—

(a)ar ôl paragraff (1) mewnosoder—

(1A) Os na chafwyd yr wybodaeth eto sy’n ofynnol o dan reoliadau 25 a 26 caiff yr asiantaeth fabwysiadu benderfynu bwrw ymlaen fel pe bai wedi gwneud penderfyniad o dan baragraff (1)(a).;

(b)ym mharagraff (2), ar ôl “rhaid i’r asiantaeth” mewnosoder “, pan fo’n rhesymol ymarferol,”;

(c)ym mharagraff (4)—

(i)yn y geiriau agoriadol, ar ôl “i fabwysiadu plentyn,” mewnosoder “neu pan fo paragraff (1A) yn gymwys,”;

(ii)yn is-baragraff (b), ar ôl “rhaid iddo” mewnosoder “, pan fo’n rhesymol ymarferol,”.

4.  Yn rheoliad 28 (asesiad cam 2)—

(a)ym mharagraff (1)—

(i)yn lle “o fewn chwe mis i’r dyddiad yr hysbysodd yr asiantaeth y darpar fabwysiadydd” rhodder “yn dilyn hysbysiad”;

(ii)ar ôl “reoliad 27(4)” mewnosoder “neu pan fo rheoliad 27(1A) yn gymwys”;

(b)hepgorer paragraffau (2) a (3).

5.  Yn rheoliad 30 (adroddiad darpar fabwysiadydd)—

(a)ym mharagraff (2)(c), yn lle “26(d)” rhodder “26(d) neu (dd)”;

(b)ym mharagraff (6)(b), yn lle “26(b) i (d)” rhodder “26(b) i (dd)”.

6.  Yn rheoliad 30B (penderfyniad a hysbysiad gan yr asiantaeth fabwysiadu)—

(a)ym mharagraff (1), ar ôl “asiantaeth fabwysiadu” mewnosoder “, pan fo’n rhesymol ymarferol,”;

(b)ar ôl paragraff (1) mewnosoder—

(1A) Rhaid i’r asiantaeth fabwysiadu beidio â gwneud penderfyniad o dan baragraff (1) hyd nes ei bod wedi cael yr wybodaeth sy’n ofynnol o dan reoliadau 25 a 26.;

(c)ym mharagraff (2), hepgorer is-baragraff (a) a’r “neu” sydd yn union ar ei ôl;

(d)ym mharagraff (5)(c)(ii), ar y dechrau mewnosoder “yn ddarostyngedig i baragraff (5A),”;

(e)ar ôl paragraff (5) mewnosoder—

(5A) Pan fo rheoliad 27(1A) yn gymwys a bo’r asiantaeth fabwysiadu yn ystyried nad yw’r darpar fabwysiadydd yn addas i fabwysiadu plentyn oherwydd gwybodaeth a gafwyd o dan reoliad 25 neu reoliad 26, ni chaiff y darpar fabwysiadydd wneud cais i Weinidogion Cymru am adolygiad gan banel adolygu annibynnol o’r dyfarniad o gymhwyster.

Diwygio Rheoliadau Cynllunio Gofal, Lleoli ac Adolygu Achosion (Cymru) 2015

7.  Mae Rheoliadau Cynllunio Gofal, Lleoli ac Adolygu Achosion (Cymru) 2015(4) wedi eu diwygio yn unol â rheoliad 8.

8.  Yn rheoliad 26(1) (cymeradwyo dros dro berthynas, cyfaill neu berson arall sydd â chysylltiad ag C), yn lle “16 wythnos” rhodder “24 wythnos”.

Dod i ben

9.—(1Yn ddarostyngedig i reoliad 10, mae’r diwygiadau a wneir gan y Rheoliadau hyn yn peidio â chael effaith ar 31 Mawrth 2021.

(2Nid yw’r rheoliad hwn yn effeithio ar ddilysrwydd unrhyw beth a wneir yn unol â’r diwygiadau a wneir gan y Rheoliadau hyn cyn iddynt beidio â chael effaith.

Arbedion: asesiadau addasrwydd

10.  Mewn achos pan fo asiantaeth fabwysiadu, ar 31 Mawrth 2021, yn y broses o asesu addasrwydd darpar fabwysiadydd yn unol â Rhan 4 o Reoliadau Asiantaethau Mabwysiadu (Cymru) 2005, rhaid i’r asesiad hwnnw barhau fel pe bai’r diwygiadau a wneir gan y Rheoliadau hyn yn parhau mewn grym.

Julie Morgan

Y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol o dan awdurdod y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru

5 Hydref 2020

NODYN ESBONIADOL

(Nid ywʼr nodyn hwn yn rhan oʼr Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud diwygiadau i ddwy set o Reoliadau er mwyn llacio a diwygio gofynion a osodir odanynt. Mae’r diwygiadau yn cael eu gwneud er mwyn cynorthwyo’r sector gofal cymdeithasol i blant mewn ymateb i achosion a lledaeniad coronafeirws syndrom anadlol acíwt difrifol 2 (SARS-CoV-2) yng Nghymru ac maent yn peidio â chael effaith ar 31 Mawrth 2021.

Mae rheoliadau 3 i 6 yn gwneud diwygiadau i Reoliadau Asiantaethau Mabwysiadu (Cymru) 2005 (O.S. 2005/1313 (Cy. 95)), sy’n nodi’r broses ar gyfer asesu addasrwydd pobl i fabwysiadau plentyn ac addasrwydd plant i gael eu mabwysiadu. Maent yn gwneud diwygiadau i’r broses gymeradwyo ar gyfer darpar fabwysiadwyr i alluogi i wybodaeth y mae rhaid ei chasglu ar hyn o bryd yn ystod cam 1 o’r broses gymeradwyo gael ei chasglu yn ystod cam 2 ac yn llacio’r amserlen pan fo rhaid ymgymryd â gweithredoedd penodol. Mae rheoliad 5 yn cywiro gwallau teipograffyddol.

Mae rheoliad 8 yn diwygio Rheoliadau Cynllunio Gofal, Lleoli ac Adolygu Achosion (Cymru) 2015 (O.S. 2015/1818 (Cy. 261)) i estyn y cyfnod (o 16 i 24 o wythnosau) pan ganiateir i berson sy’n berthynas i blentyn neu sy’n gysylltiedig fel arall â phlentyn gael cymeradwyaeth dros dro i weithredu fel rhiant maeth awdurdod lleol ar gyfer y plentyn hwnnw.

Mae rheoliad 10 yn gwneud darpariaeth arbed i sicrhau bod rhai o’r diwygiadau a wneir gan y Rheoliadau hyn yn parhau i fod yn gymwys o dan amgylchiadau penodol ar ôl i’r diwygiadau ddod i ben ar 31 Mawrth 2021 yn unol â rheoliad 9.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.

(1)

2002 p. 38 (“Deddf 2002”). Gweler y diffiniadau o “regulations”, “appropriate Minister” a “the Assembly” yn adran 144(1) o Ddeddf 2002. Trosglwyddwyd y pŵer a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru i wneud rheoliadau o dan Ddeddf 2002 i Weinidogion Cymru yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32) a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi.

(2)

2014 dccc 4. Gweler adran 197(1) am y diffiniad o “penodedig”, “a bennir” ac “a bennwyd” a “rheoliadau”.

(3)

O.S. 2005/1313 (Cy. 95) (“Rheoliadau 2005”), a ddiwygiwyd gan O.S. 2020/163 (Cy. 31) (“Rheoliadau 2020”). Rhoddodd Rheoliadau 2020 Ran 4 newydd yn Rheoliadau 2005. Mae diwygiadau eraill nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

(4)

O.S. 2015/1818 (Cy. 261), y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.