RHAN 1Cyflwyniad
Enwi, cychwyn a dod i rymI11
1
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 3) (Cymru) 2020.
2
Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
3
Daw’r Rheoliadau hyn i rym am 6.00 p.m. ar 23 Hydref 2020.
Dod i benI22
1
Daw’r Rheoliadau hyn i ben ar ddiwedd y dydd ar 8 Tachwedd 2020.
2
Nid yw’r rheoliad hwn yn effeithio ar ddilysrwydd unrhyw beth a wneir yn unol â’r Rheoliadau hyn cyn iddynt ddod i ben.
RHAN 2Cyfyngiadau ar symud ac ymgynnull gydag eraill
Gofyniad i aros gartrefI33
1
Ni chaiff unrhyw berson yng Nghymru, heb esgus rhesymol, ymadael â’r man lle y mae’n byw neu aros i ffwrdd o’r man hwnnw.
2
Mae esgus rhesymol yn cynnwys yr angen i wneud y canlynol—
a
cael cyflenwadau oddi wrth unrhyw fusnes neu wasanaeth a restrir yn Rhan 3 o Atodlen 1 gan gynnwys—
i
bwyd a chyflenwadau meddygol ar gyfer y rheini ar yr un aelwyd (gan gynnwys anifeiliaid ar yr aelwyd) neu ar gyfer personau hyglwyf;
ii
cyflenwadau ar gyfer cynnal, cynnal a chadw a gweithrediad hanfodol yr aelwyd, neu aelwyd person hyglwyf;
b
ceisio neu ddarparu cynhorthwy meddygol, gan gynnwys cael gafael ar unrhyw un neu ragor o’r gwasanaethau y cyfeirir atynt ym mharagraff 47 o Ran 3 o Atodlen 1 neu gael gafael ar wasanaethau milfeddygol;
c
darparu, cael neu gael gafael ar ofal neu gynhorthwy, gan gynnwys gofal plant neu ofal personol perthnasol o fewn ystyr “relevant personal care” ym mharagraff 7(3B) o Atodlen 4 i Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 20062, pan fo’r person sy’n cael y gofal yn berson hyglwyf;
d
gweithio neu ddarparu gwasanaethau gwirfoddol neu elusennol, pan na fo’n rhesymol ymarferol gwneud hynny gartref;
e
pan fo’r person yn athletwr elît, hyfforddi ar gyfer digwyddiad chwaraeon penodedig, paratoi ato a chystadlu ynddo;
f
darparu hyfforddiant neu gymorth arall i athletwr elît mewn cysylltiad â digwyddiad chwaraeon penodedig;
g
gwasanaethu fel swyddog mewn digwyddiad chwaraeon penodedig neu fel arall ymwneud â’i redeg;
h
gwneud ymarfer corff, naill ai—
i
ar ei ben ei hun,
ii
gydag aelodau eraill o aelwyd y person, neu
iii
gyda gofalwr y person;
i
darparu neu gael cynhorthwy brys;
j
mynd i weinyddiad priodas neu ffurfiad partneriaeth sifil—
i
fel parti i’r briodas neu’r bartneriaeth sifil,
ii
os caiff ei wahodd i fynd iddi, neu
iii
fel gofalwr person sy’n mynd i’r briodas neu’r bartneriaeth sifil.
k
mynd i angladd—
i
fel person sy’n gyfrifol am drefnu’r angladd,
ii
os caiff ei wahodd gan berson sy’n gyfrifol am drefnu’r angladd, neu
iii
fel gofalwr person sy’n mynd i’r angladd;
l
cyflawni rhwymedigaeth gyfreithiol, gan gynnwys mynd i’r llys neu fodloni amodau mechnïaeth, neu gymryd rhan mewn achos cyfreithiol;
m
cael gafael ar wasanaethau cyhoeddus neu gael y gwasanaethau hynny;
n
cael gafael ar wasanaethau addysgol neu gael y gwasanaethau hynny, yn ddarostyngedig i reoliadau 6 a 7;
o
mewn perthynas â phlant nad ydynt yn byw ar yr un aelwyd â’u rhieni, neu un o’u rhieni, parhau â threfniadau presennol ar gyfer gweld rhieni a phlant, a chyswllt rhyngddynt, ac at ddibenion y paragraff hwn, mae “rhiant” yn cynnwys person nad yw’n rhiant i’r plentyn, ond sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn neu sydd â gofal drosto;
p
cael arian oddi wrth unrhyw fusnes neu wasanaeth a restrir ym mharagraff 44 neu 45 o Ran 3 o Atodlen 1 neu adneuo arian gydag unrhyw fusnes neu wasanaeth o’r fath;
q
symud cartref;
r
paratoi eiddo preswyl i bersonau symud i mewn;
s
osgoi anaf neu salwch neu ddianc rhag risg o niwed.
3
Mae gan berson esgus rhesymol i ymadael â’r man lle y mae’n byw i fynd i ddigwyddiad i gadw Sul y Cofio—
a
a gynhelir ar 7 neu 8 Tachwedd 2020;
b
a gynhelir yn yr awyr agored;
c
a chanddo ddim mwy na 30 o bobl yn bresennol.
4
Ym mharagraff (2)(h)—
a
rhaid i ymarfer corff ddechrau a gorffen yn y man lle y mae’r person yn byw, neu
b
pan fo angen i’r person, am resymau salwch neu nam corfforol neu feddyliol, neu anabledd (o fewn yr ystyr a roddir i “disability” yn adran 6 o Ddeddf Cydraddoldeb 20103), wneud ymarfer corff mewn man arall, rhaid i ymarfer corff ddigwydd mewn ardal sy’n lleol i’r man lle y mae’r person yn byw.
5
Nid yw paragraff (1) yn gymwys i unrhyw berson sy’n ddigartref.
Gofyniad i beidio ag ymgynnull gyda phobl eraillI44
1
Pan na fo person yn y man lle y mae’n byw (yn rhinwedd bod ag esgus rhesymol o dan reoliad 3), ni chaiff y person hwnnw, heb esgus rhesymol, ymgynnull ag unrhyw berson arall ac eithrio—
a
aelodau o’i aelwyd,
b
ei ofalwr, neu
c
person y mae’n darparu gofal iddo.
2
Mae esgus rhesymol yn cynnwys yr angen i wneud y canlynol—
a
gweithio neu ddarparu gwasanaethau gwirfoddol neu elusennol, pan na fo’n rhesymol ymarferol gwneud hynny heb ymgynnull gydag eraill;
b
cyflawni rhwymedigaeth gyfreithiol, gan gynnwys mynd i’r llys neu fodloni amodau mechnïaeth, neu gymryd rhan mewn achos cyfreithiol;
c
cael gafael ar wasanaethau cyhoeddus neu gael y gwasanaethau hynny;
d
cael gafael ar wasanaethau addysgol neu gael y gwasanaethau hynny, yn ddarostyngedig i reoliadau 6 a 7;
e
darparu, cael neu gael gafael ar ofal neu gynhorthwy, gan gynnwys gofal plant neu ofal personol perthnasol o fewn ystyr “relevant personal care” ym mharagraff 7(3B) o Atodlen 4 i Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006, pan fo’r person sy’n cael y gofal yn berson hyglwyf;
f
pan fo’r person yn athletwr elît, hyfforddi ar gyfer digwyddiad chwaraeon penodedig, paratoi ato neu gystadlu ynddo;
g
darparu hyfforddiant a chymorth arall i athletwr elît mewn cysylltiad â digwyddiad chwaraeon penodedig;
h
gwasanaethu fel swyddog mewn digwyddiad chwaraeon penodedig neu fel arall ymwneud â’i redeg;
i
darparu neu gael cynhorthwy brys;
j
mynd i weinyddiad priodas neu ffurfiad partneriaeth sifil—
i
fel parti i’r briodas neu’r bartneriaeth sifil,
ii
os caiff ei wahodd i fynd iddi, neu
iii
fel gofalwr person sy’n mynd i’r briodas neu’r bartneriaeth sifil;
k
mynd i angladd—
i
fel person sy’n gyfrifol am drefnu’r angladd,
ii
os caiff ei wahodd gan berson sy’n gyfrifol am drefnu’r angladd, neu
iii
fel gofalwr person sy’n mynd i’r angladd.
3
Mae gan berson hefyd esgus rhesymol dros ymgynnull gyda pherson arall i fynd i ddigwyddiad i gadw Sul y Cofio—
a
a gynhelir ar 7 neu 8 Tachwedd 2020;
b
a gynhelir yn yr awyr agored;
c
a chanddo ddim mwy na 30 o bobl yn bresennol.
Cyfyngiad ar deithio i GymruI55
1
Ni chaiff unrhyw berson sy’n byw y tu allan i Gymru, heb esgus rhesymol, fynd i Gymru neu aros yng Nghymru.
2
Mae esgus rhesymol yn cynnwys yr angen i wneud y canlynol yng Nghymru—
a
cael—
i
bwyd a chyflenwadau meddygol ar gyfer y rheini ar yr un aelwyd (gan gynnwys anifeiliaid ar yr aelwyd) neu ar gyfer personau hyglwyf;
ii
cyflenwadau ar gyfer cynnal, cynnal a chadw a gweithrediad hanfodol yr aelwyd, neu aelwyd person hyglwyf;
b
cael arian oddi wrth unrhyw fusnes neu wasanaeth a restrir ym mharagraff 44 neu 45 o Ran 3 o Atodlen 1 neu adneuo arian gydag unrhyw fusnes neu wasanaeth o’r fath;
c
cael neu ddarparu cynhorthwy meddygol, gan gynnwys cael gafael ar unrhyw un neu ragor o’r gwasanaethau y cyfeirir atynt ym mharagraff 47 o Ran 3 o Atodlen 1 neu gael gafael ar wasanaethau milfeddygol;
d
darparu, cael neu gael gafael ar ofal neu gynhorthwy, gan gynnwys gofal plant neu ofal personol perthnasol o fewn ystyr “relevant personal care” ym mharagraff 7(3B) o Atodlen 4 i Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006, pan fo’r person sy’n cael y gofal yn berson hyglwyf;
e
gweithio neu ddarparu gwasanaethau gwirfoddol neu elusennol pan na fo’n rhesymol ymarferol gwneud y gwaith neu ddarparu’r gwasanaeth o’r tu allan i Gymru;
f
pan fo’r person yn athletwr elît, hyfforddi ar gyfer digwyddiad chwaraeon penodedig, paratoi ato a chystadlu ynddo;
g
darparu hyfforddiant neu gymorth arall i athletwr elît mewn cysylltiad â digwyddiad chwaraeon penodedig;
h
gwasanaethu fel swyddog mewn digwyddiad chwaraeon penodedig neu fel arall ymwneud â’i redeg;
i
darparu neu gael cynhorthwy brys;
j
mynd i weinyddiad priodas neu ffurfiad partneriaeth sifil—
i
fel parti i’r briodas neu’r bartneriaeth sifil,
ii
os caiff ei wahodd i fynd iddi, neu
iii
fel gofalwr person sy’n mynd i’r briodas neu’r bartneriaeth sifil;
k
mynd i angladd—
i
fel person sy’n gyfrifol am drefnu’r angladd,
ii
os caiff ei wahodd gan berson sy’n gyfrifol am drefnu’r angladd, neu
iii
fel gofalwr person sy’n mynd i’r angladd;
l
cyflawni rhwymedigaeth gyfreithiol, gan gynnwys mynd i’r llys neu fodloni amodau mechnïaeth, neu gymryd rhan mewn achos cyfreithiol;
m
cael gafael ar wasanaethau cyhoeddus neu gael y gwasanaethau hynny;
n
cael gafael ar wasanaethau addysgol, yn ddarostyngedig i reoliadau 6 a 7;
o
mewn perthynas â phlant nad ydynt yn byw ar yr un aelwyd â’u rhieni, neu un o’u rhieni, parhau â threfniadau presennol ar gyfer gweld rhieni a phlant, a chyswllt rhyngddynt, ac at ddibenion y paragraff hwn, mae “rhiant” yn cynnwys person nad yw’n rhiant i’r plentyn, ond sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn neu sydd â gofal drosto;
p
symud cartref;
q
osgoi anaf neu salwch neu ddianc rhag risg o niwed;
r
teithio i gyrraedd man y tu allan i Gymru.
3
At ddibenion paragraff (1), nid yw’n esgus rhesymol i berson fynd i Gymru neu aros yng Nghymru i wneud unrhyw beth os byddai’n rhesymol ymarferol i’r person wneud y peth hwnnw y tu allan i Gymru.
Cyfyngiad ar fynd i’r ysgolI66
1
Ni chaiff disgybl ym mlwyddyn 9 neu uwch fynd i fangre ysgol yng Nghymru.
2
Ond nid yw paragraff (1) yn atal—
a
disgybl rhag mynd i fangre ysgol—
i
i wneud arholiad neu asesiad arall;
ii
pan fo perchennog yr ysgol yn hysbysu rhiant y disgybl ei fod yn ystyried ei bod yn briodol i’r disgybl fynd yno oherwydd amgylchiadau eithriadol sy’n ymwneud â hyglwyfedd y disgybl;
b
disgybl rhag mynd i fangre ysgol arbennig;
c
disgybl rhag mynd i fangre uned cyfeirio disgyblion;
d
disgybl rhag mynd i fangre uned mewn ysgol, lle—
i
mae awdurdod lleol yn cydnabod bod yr uned wedi’i neilltuo ar gyfer disgyblion ag anghenion addysgol arbennig, a
ii
bod y disgybl yn cael ei addysgu’n gyfan gwbl neu’n bennaf yn yr uned;
e
disgybl sy’n ddisgybl preswyl—
i
rhag preswylio mewn llety ym mangre’r ysgol;
ii
rhag cael addysg yn y llety hwnnw.
Cyfyngiad ar fynd i addysg bellachI77
1
Ni chaiff myfyriwr fynd i fangre sefydliad addysg bellach yng Nghymru.
2
Ond nid yw paragraff (1) yn atal myfyriwr rhag mynd i fangre—
a
sefydliad addysg bellach i wneud arholiad neu asesiad arall;
b
sefydliad yn y sector addysg bellach pan fo’r sefydliad yn hysbysu’r myfyriwr ei fod yn ystyried ei bod yn briodol i’r myfyriwr fynd yno oherwydd amgylchiadau eithriadol sy’n ymwneud â hyglwyfedd y myfyriwr.
Dehongli rheoliadau 6 a 7I88
At ddibenion rheoliadau 6 a 7—
a
ystyr “Deddf 1996” yw Deddf Addysg 19964;
b
mae i “disgybl preswyl” yr ystyr a roddir i “boarder” gan adran 579 o Ddeddf 1996;
c
ystyr “sefydliad addysg bellach” yw—
i
sefydliad yn y sector addysg bellach;
ii
darparwr addysg neu hyfforddiant o fewn ystyr “education or training” yn adran 31(1)(a) neu (b) neu 32(1)(a) neu (b) o Ddeddf Dysgu a Sgiliau 20005—
aa
nad yw’n sefydliad o fewn ystyr paragraff (i);
bb
nad yw’n sefydliad yn y sector addysg uwch o fewn ystyr “higher education sector” yn adran 91(5) o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 19926, ac
cc
sy’n cael cyllid i ddarparu’r addysg honno neu’r hyfforddiant hwnnw oddi wrth Weinidogion Cymru neu awdurdod lleol;
ond nid yw’n cynnwys cyflogwr sy’n ddarparwr dim ond am fod y cyflogwr yn darparu addysg neu hyfforddiant o’r fath i’w gyflogeion;
d
mae i “ysgol annibynnol” yr ystyr a roddir i “independent school” gan adran 463 o Ddeddf 1996;
e
mae i “sefydliad o fewn y sector addysg bellach” yr ystyr a roddir i “institutions within the further education sector” gan adran 91(3) o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992;
f
mae i “rhiant” yr ystyr a roddir i “parent” gan adran 576 o Ddeddf 1996;
g
mae i “perchennog” yr ystyr a roddir i “proprietor” gan adran 579 o Ddeddf 1996;
h
mae i “disgybl” yr ystyr a roddir i “pupil” gan adran 4 o Ddeddf 1996;
i
mae i “uned cyfeirio disgyblion” yr ystyr a roddir i “pupil referral unit” gan adran 19 o Ddeddf 1996;
j
mae i “anghenion addysgol arbennig” yr ystyr a roddir i “special educational needs” gan adran 312 o Ddeddf 1996;
k
ystyr “ysgol arbennig” yw—
i
ysgol arbennig o fewn yr ystyr a roddir i “special school” gan adran 337 o Ddeddf 1996;
ii
ysgol annibynnol sy’n darparu’n gyfan gwbl neu’n bennaf addysg ar gyfer disgyblion ag anghenion addysgol arbennig;
l
mae i “ysgol” yr ystyr a roddir i “school” gan adran 4 o Ddeddf 1996;
m
ystyr “blwyddyn ysgol” yw’r cyfnod sy’n dechrau â’r tymor ysgol cyntaf i ddechrau ar ôl mis Gorffennaf ac sy’n dod i ben â dechrau’r tymor cyntaf o’r fath i ddechrau ar ôl y mis Gorffennaf canlynol;
n
ystyr “blwyddyn 9” yw grŵp blwyddyn y bydd y rhan fwyaf o’r plant ynddo yn cyrraedd 14 oed yn ystod y flwyddyn ysgol;
o
ystyr “grŵp blwyddyn” yw grŵp o blant mewn ysgol y bydd y rhan fwyaf ohonynt yn cyrraedd yr un oedran mewn blwyddyn ysgol benodol.
Gwaharddiad ar drefnu digwyddiadau cerddorol penodol sydd heb eu trwyddeduI99
1
Ni chaiff unrhyw berson ymwneud â threfnu digwyddiad cerddorol perthnasol sydd heb ei drwyddedu.
2
At ddibenion y rheoliad hwn, ystyr “digwyddiad cerddorol perthnasol sydd heb ei drwyddedu” yw digwyddiad—
a
sy’n cynnwys mwy na 30 o bobl,
b
lle y mae pobl yn ymgynnull yn groes i reoliad 4(1),
c
lle y mae cerddoriaeth yn cael ei chwarae neu ei pherfformio at ddiben adloniant, neu at ddibenion sy’n cynnwys y diben hwnnw, a
d
lle o ran chwarae neu berfformio cerddoriaeth—
i
y mae’n weithgarwch trwyddedadwy (o fewn ystyr Deddf Trwyddedu 20037), a
ii
nas cynhelir o dan awdurdodiad nac yn unol ag awdurdodiad (o fewn yr ystyr a roddir i “authorisation” gan adran 136(5) o’r Ddeddf honno).
3
At ddibenion y rheoliad hwn, nid yw person yn ymwneud â threfnu digwyddiad cerddorol perthnasol sydd heb ei drwyddedu os nad yw’r person ond yn ymwneud â’r digwyddiad, neu na fyddai ond yn ymwneud â’r digwyddiad, drwy fynd iddo.
RHAN 3Cyfyngiadau ar fusnesau a gwasanaethau y mae eu mangreoedd fel arfer ar agor i’r cyhoedd
PENNOD 1Trosolwg
Cyfeiriadau at “mangre” a throsolwgI1010
1
Yn y Rhan hon, mae cyfeiriadau at “mangre” yn gyfeiriadau at fangre busnes neu wasanaeth—
a
sydd yng Nghymru, a
b
y mae gan y cyhoedd fynediad iddi neu y caniateir i’r cyhoedd gael mynediad iddi, pa un ai drwy dalu neu fel arall.
2
Mae Pennod 2 yn gwneud darpariaeth ynghylch busnesau neu wasanaethau y mae rhaid i’w mangreoedd gau.
3
Mae Pennod 3 yn gwneud darpariaeth ynghylch busnesau neu wasanaethau y mae rhaid i’w mangreoedd gau ond y caniateir mynediad cyfyngedig iddynt.
4
Mae Pennod 4 yn gwneud darpariaeth ynghylch busnesau neu wasanaethau y caiff eu mangreoedd barhau i fod ar agor.
5
Gweler rheoliad 17 am ddarpariaeth bellach ynghylch mangreoedd a gaiff barhau i fod ar agor neu a gaeir ond y caniateir mynediad cyfyngedig iddynt yn unol â’r Rhan hon.
PENNOD 2Busnesau a gwasanaethau y mae rhaid i’w mangreoedd gau
Cau mangreoedd a ddefnyddir gan fusnesau a gwasanaethau penodolI1111
1
O ran person sy’n gyfrifol am gynnal busnes neu ddarparu gwasanaeth a restrir yn Rhan 1 o Atodlen 1—
a
rhaid iddo gau i aelodau’r cyhoedd unrhyw fangre a weithredir fel rhan o’r busnes neu’r gwasanaeth, a
b
ni chaiff gynnal y busnes neu’r gwasanaeth yn y fangre honno ac eithrio yn unol â’r rheoliad hwn.
2
Nid yw paragraff (1) yn atal—
a
gwneud gwaith cynnal a chadw ac atgyweirio neu waith arall i sicrhau bod mangre yn addas i’w defnyddio pan na fydd paragraff (1) yn gymwys i’r fangre mwyach;
b
defnyddio mangre at unrhyw ddiben y mae Gweinidogion Cymru neu awdurdod lleol yn gofyn amdano neu’n ei awdurdodi;
c
defnyddio mangre i ddarlledu heb gynulleidfa yn bresennol yn y fangre (pa un ai dros y rhyngrwyd neu fel rhan o ddarllediad radio neu deledu);
d
defnyddio mangre ar gyfer darparu gwasanaethau neu wybodaeth (gan gynnwys gwerthu, llogi neu ddanfon nwyddau neu wasanaethau)—
i
drwy wefan, neu fel arall drwy gyfathrebiad ar lein,
ii
dros y ffôn, gan gynnwys drwy neges destun, neu
iii
drwy’r post.
PENNOD 3Busnesau a gwasanaethau y mae rhaid cau eu mangreoedd ond y caniateir mynediad cyfyngedig iddynt
Cau bariau a bwytai etc.I1212
1
O ran person sy’n gyfrifol am gynnal busnes a restrir ym mharagraffau 22 i 25 o Atodlen 1—
a
rhaid iddo gau i aelodau’r cyhoedd unrhyw fangre a weithredir fel rhan o’r busnes, a
b
ni chaiff gynnal busnes yn y fangre honno ac eithrio yn unol â’r rheoliad hwn.
2
Nid yw paragraff (1) yn atal—
a
defnyddio mangre ar gyfer—
i
gwerthu bwyd a diod i’w fwyta neu i’w hyfed oddi ar y fangre, neu
ii
gwasanaethau sy’n darparu bwyd neu ddiod i bobl ddigartref;
b
darparu gwasanaeth ystafell mewn gwesty neu lety arall (pan fo’r gwesty neu’r llety arall yn parhau i weithredu yn unol â’r eithriadau cyfyngedig a ganiateir gan reoliad 13);
c
ffreutur yn y gweithle rhag bod ar agor pan na fo dewis ymarferol arall i staff yn y gweithle hwnnw gael bwyd;
d
gwneud gwaith cynnal a chadw ac atgyweirio neu waith arall i sicrhau bod mangre yn addas i’w defnyddio pan na fydd paragraff (1) yn gymwys i’r fangre mwyach.
3
At ddibenion paragraff (1), mae ardal o dan do sy’n gyfagos i fangre’r busnes lle y mae seddau yn cael eu rhoi ar gael i gwsmeriaid y busnes (pa un ai gan y busnes ai peidio) i’w thrin fel rhan o fangre’r busnes hwnnw.
Cau llety gwyliauI1313
1
O ran person sy’n gyfrifol am gynnal busnes a restrir ym mharagraffau 26 i 29 o Atodlen 1—
a
rhaid iddo gau i aelodau’r cyhoedd unrhyw fangre a weithredir fel rhan o’r busnes, a
b
ni chaiff gynnal busnes yn y fangre honno ac eithrio yn unol â’r rheoliad hwn.
2
Nid yw paragraff (1) yn atal—
a
defnyddio mangre at unrhyw ddiben y mae Gweinidogion Cymru neu awdurdod lleol yn gofyn amdano neu’n ei awdurdodi;
b
darparu llety ar gyfer unrhyw bersonau sy’n aros yn y llety hwnnw pan ddaw’r Rheoliadau hyn i rym ac—
i
nad ydynt yn gallu dychwelyd i’w prif breswylfa, neu
ii
sy’n defnyddio’r llety fel eu prif breswylfa;
c
defnyddio mangre i gynnal y busnes drwy ddarparu gwybodaeth neu wasanaethau eraill—
i
drwy wefan, neu fel arall drwy gyfathrebiad ar lein,
ii
dros y ffôn, gan gynnwys ymholiadau drwy neges destun, neu
iii
drwy’r post;
d
gwneud gwaith cynnal a chadw ac atgyweirio neu waith arall i sicrhau bod mangre yn addas i’w defnyddio pan nad yw paragraff (1) yn gymwys mwyach i’r fangre.
Cau addoldai, canolfannau cymunedol ac amlosgfeyddI1414
1
2
Caiff addoldy fod ar agor—
a
ar gyfer angladdau;
b
ar gyfer gweinyddu priodas neu ffurfio partneriaeth sifil;
c
i ddarlledu (heb gynulleidfa) weithred addoli, angladd neu weinyddiad priodas neu ffurfiad partneriaeth sifil (pa un ai dros y rhyngrwyd neu fel rhan o ddarllediad radio neu deledu);
d
i ddarparu gwasanaethau gwirfoddol hanfodol;
e
i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus ar gais Gweinidogion Cymru neu awdurdod lleol.
3
Caiff canolfan gymunedol fod ar agor—
a
i ddarparu gwasanaethau gwirfoddol hanfodol, neu
b
i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus ar gais Gweinidogion Cymru neu awdurdod lleol.
4
Caiff amlosgfa agor i aelodau’r cyhoedd ar gyfer angladdau neu gladdu (ac i ddarlledu angladd neu gladdu pa un ai dros y rhyngrwyd neu fel arall).
5
Ond nid yw paragraff (1) yn gymwys i’r tir o amgylch amlosgfa, gan gynnwys unrhyw gladdfa neu ardd goffa.
6
Yn y rheoliad hwn, mae “gwasanaethau cyhoeddus” yn cynnwys darparu banciau bwyd neu gymorth arall ar gyfer pobl ddigartref neu bobl hyglwyf, gofal plant, sesiynau rhoi gwaed neu gymorth mewn argyfwng.
PENNOD 4Busnesau a gwasanaethau y caiff eu mangreoedd fod ar agor
Mangreoedd agoredI1515
1
Er gwaethaf darpariaethau blaenorol y Rhan hon, caiff mangreoedd a weithredir gan fusnesau neu wasanaethau a restrir yn Rhan 3 o Atodlen 1 barhau i fod ar agor.
2
A chaiff canolfannau siopa, arcedau siopa a marchnadoedd fod ar agor i’r cyhoedd i’r graddau y mae hyn yn ofynnol i gael gafael ar fusnes neu wasanaeth a restrir yn Rhan 3 o Atodlen 1.
3
Ond ni chaiff person sy’n gyfrifol am fangre sydd wedi ei hawdurdodi ar gyfer gwerthu neu gyflenwi alcohol i’w yfed oddi ar y fangre werthu na chyflenwi alcohol rhwng 10.00 p.m. a 6.00 a.m.
4
Nid yw paragraff (3) yn caniatáu i’r person sy’n gyfrifol am y fangre werthu na chyflenwi alcohol, yn groes i awdurdodiad a ganiateir neu a roddir mewn cysylltiad â’r fangre.
PENNOD 5Busnesau cymysg
Busnesau cymysgI1616
1
Pan—
a
bo’n ofynnol i berson sy’n gyfrifol am gynnal busnes (“busnes A”), yn rhinwedd rheoliad 11(1), 12(1) neu 13(1), beidio â chynnal busnes A mewn mangre, a
b
bo busnes A yn ffurfio rhan o fusnes mwy (“busnes B”),
cydymffurfir â’r gofyniad yn rheoliad 11(1), 12(1) neu 13(1) os yw’r person sy’n gyfrifol am gynnal busnes B yn peidio â chynnal busnes A yn y fangre.
2
Felly er mwyn osgoi amheuaeth, pan—
a
caiff mangre a weithredir gan fusnes neu wasanaeth barhau i fod ar agor yn rhinwedd rheoliad 15(1), a
b
bo’r busnes hwnnw neu’r gwasanaeth hwnnw yn ffurfio rhan o ymgymeriad mwy sy’n cynnwys cynnal busnes neu wasanaeth arall yn yr un fangre,
rhaid i’r person sy’n gyfrifol am y busnes arall hwnnw neu’r gwasanaeth arall hwnnw beidio â’i gynnal os yw’n ofynnol iddo wneud hynny yn rhinwedd rheoliad 11(1), 12(1) neu 13(1).
RHAN 4Lleihau’r risg o ddod i gysylltiad â’r coronafeirws
Gofyniad i gymryd mesurau ataliol mewn mangre reoleiddiedig i leihau risgI1717
1
At ddibenion paragraff (2)—
a
ystyr “mangre reoleiddiedig” yw—
i
mangre y caniateir i’r cyhoedd gael mynediad iddi yn rhinwedd rheoliad 11(2), 12(2), 13(2) neu 14(2), (3) neu (4);
ii
mangre busnes neu wasanaeth a gaiff barhau i fod ar agor yn rhinwedd rheoliad 15;
iii
cerbyd a ddefnyddir i ddarparu gwasanaeth trafnidiaeth gyhoeddus;
iv
mangre arall lle y mae gwaith yn cael ei wneud, a
b
ystyr y “person cyfrifol” yw—
i
mewn perthynas â mangre reoleiddiedig y cyfeirir ati yn is-baragraff (a)(i), (ii) neu (iii), y person sy’n gyfrifol am y fangre,
ii
mewn perthynas â mangre reoleiddiedig o’r math y cyfeirir ato yn is-baragraff (a)(iv), y person sy’n gyfrifol am y gwaith sy’n cael ei wneud yn y fangre.
2
At ddibenion lleihau’r risg o ddod i gysylltiad â’r coronafeirws mewn mangre reoleiddiedig, neu ledaenu’r coronafeirws gan y rheini sydd wedi bod mewn mangre reoleiddiedig, rhaid i’r person cyfrifol—
a
cymryd pob mesur rhesymol i sicrhau—
i
y cynhelir pellter o 2 fetr rhwng unrhyw bersonau yn y fangre (ac eithrio rhwng dau aelod o’r un aelwyd, neu rhwng gofalwr a’r person sy’n cael ei gynorthwyo gan y gofalwr);
ii
pan fo’n ofynnol i bersonau aros i fynd i’r fangre, y cynhelir pellter o 2 fetr rhyngddynt (ac eithrio rhwng dau aelod o’r un aelwyd, neu rhwng gofalwr a’r person sy’n cael ei gynorthwyo gan y gofalwr),
b
cymryd unrhyw fesurau rhesymol eraill at y diben hwnnw, er enghraifft mesurau sy’n cyfyngu ar ryngweithio agos wyneb yn wyneb ac yn cynnal hylendid megis—
i
newid trefn mangre gan gynnwys lleoliad dodrefn a gweithfannau;
ii
rheoli’r defnydd o fynedfeydd, tramwyfeydd, grisiau a lifftiau;
iii
rheoli’r defnydd o gyfleusterau a rennir megis toiledau a cheginau;
iv
rheoli’r defnydd o unrhyw ran arall o’r fangre neu fynediad iddi fel arall;
v
gosod rhwystrau neu sgriniau;
vi
darparu, neu’n ei gwneud yn ofynnol defnyddio, cyfarpar diogelu personol, ac
c
darparu gwybodaeth i’r rheini sy’n mynd i’r fangre neu’n gweithio ynddi ynglŷn â sut i leihau’r risg o ddod i gysylltiad â’r coronafeirws.
3
Mae mesurau y gellir eu cymryd o dan baragraff (2) hefyd yn cynnwys—
a
peidio â gwneud gweithgareddau penodol;
b
cau rhan o’r fangre;
c
caniatáu a galluogi i berson sydd fel arfer yn gweithio yn y fangre ynysu am gyfnod penodedig oherwydd profi’n bositif am y coronafeirws neu am ei fod wedi dod i gysylltiad agos â rhywun sydd wedi profi’n bositif, pan ofynnwyd i’r person hwnnw wneud hynny gan—
i
Gweinidogion Cymru;
ii
swyddog iechyd cyhoeddus;
iii
swyddog i Fwrdd Iechyd lleol;
iv
person sydd wedi ei ddynodi gan awdurdod lleol at ddibenion cysylltu â phersonau a all fod wedi dod i gysylltiad â’r coronafeirws;
d
casglu gwybodaeth gyswllt oddi wrth bob person yn y fangre neu, mewn perthynas â phersonau o’r un aelwyd, oddi wrth un ohonynt, a’i chadw am 21 o ddiwrnodau at ddiben ei darparu i unrhyw un o’r canlynol, ar eu cais neu ar ei gais—
i
Gweinidogion Cymru,
ii
swyddog iechyd cyhoeddus,
iii
person sydd wedi ei ddynodi gan awdurdod lleol i brosesu gwybodaeth at ddibenion cysylltu â phersonau a all fod wedi dod i gysylltiad â’r coronafeirws.
4
Yn y rheoliad hwn—
a
ystyr “gwybodaeth gyswllt”, mewn perthynas â pherson yn y fangre, yw enw’r person a gwybodaeth sy’n ddigonol i allu cysylltu â’r person, i roi gwybod iddo y gall fod wedi dod i gysylltiad â’r coronafeirws yn y fangre (gan gynnwys rhif ffôn a’r dyddiad a’r amser yr oedd y person yn y fangre);
b
mae i “swyddog iechyd cyhoeddus” yr un ystyr ag a roddir i “public health officer” ym mharagraff 3(2)(c) o Atodlen 21 i Ddeddf y Coronafeirws 20208;
c
mae i “Bwrdd Iechyd Lleol” yr ystyr a roddir i “Local Health Board” gan adran 11 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 20069.
Gofyniad i wisgo gorchudd wyneb ar drafnidiaeth gyhoeddusI1818
1
Rhaid i berson (“P”) sy’n teithio fel teithiwr mewn cerbyd a ddefnyddir i ddarparu gwasanaeth trafnidiaeth gyhoeddus wisgo gorchudd wyneb.
2
Ond nid yw hyn yn ofynnol—
a
pan fo esemptiad yn gymwys o dan baragraff (3);
b
pan fo gan P esgus rhesymol dros beidio â gwisgo gorchudd wyneb, ac o ran hynny gweler paragraff (4).
3
Mae esemptiad i’r gofyniad i wisgo gorchudd wyneb yn gymwys—
a
pan fo P yn blentyn o dan 11 oed;
b
mewn cerbyd sy’n darparu gwasanaeth cludiant i’r ysgol;
c
ar fferi—
i
pan fo’r rhan o’r fferi sydd ar agor i deithwyr yn yr awyr agored yn gyfan gwbl, neu
ii
pan ellir cynnal pellter o 2 fetr o leiaf rhwng personau ar y rhan o’r fferi sydd ar agor i deithwyr;
d
ar long fordeithio;
e
pan ddyrennir caban, man cysgu neu lety tebyg arall i P yn y cerbyd, ar unrhyw adeg pan yw P yn y llety hwnnw—
i
ar ei ben ei hunan, neu
ii
gydag aelodau o aelwyd P neu ofalwr i aelod o’r aelwyd yn unig;
f
pan—
i
caniateir i P, neu pan fo’n ofynnol fel arfer i P, fynd i gerbyd ac aros ynddo wrth ddefnyddio’r gwasanaeth trafnidiaeth gyhoeddus,
ii
na fo’r cerbyd ei hunan yn cael ei ddefnyddio ar gyfer darparu gwasanaeth trafnidiaeth gyhoeddus, a
iii
bo P yn aros yn y cerbyd hwnnw;
g
ar gerbyd awyr na chychwynnodd o fan yng Nghymru, nac sydd i lanio mewn man yng Nghymru;
h
ar lestr nad yw’n docio mewn porthladd yng Nghymru.
4
Mae’r amgylchiadau pan fo gan P esgus rhesymol dros beidio â gwisgo gorchudd wyneb yn cynnwys—
a
pan na fo P yn gallu rhoi gorchudd am ei wyneb, neu wisgo neu dynnu gorchudd wyneb, oherwydd salwch neu nam corfforol neu feddyliol, neu anabledd (o fewn yr ystyr a roddir i “disability” yn adran 6 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010);
b
pan fo P yn gorfod tynnu’r gorchudd wyneb er mwyn cyfathrebu â pherson arall sy’n cael anhawster i gyfathrebu (mewn perthynas â lleferydd, iaith neu fel arall);
c
pan fo P yn gorfod tynnu’r gorchudd wyneb er mwyn osgoi niwed neu anaf, neu’r risg o niwed neu anaf, i P ei hunan neu i eraill;
d
pan fo P yn teithio i osgoi anaf, neu i ddianc rhag risg o niwed, ac nad oes gan P orchudd wyneb;
e
pan fo P yn gorfod tynnu’r gorchudd wyneb i—
i
cymryd meddyginiaeth;
ii
bwyta neu yfed, os caniateir gwneud hyn yn y cerbyd a bod hynny’n rhesymol angenrheidiol (er enghraifft oherwydd hyd y daith);
f
pan ofynnir i P dynnu’r gorchudd wyneb gan—
i
swyddog gorfodaeth, neu
ii
gweithredwr y gwasanaeth trafnidiaeth gyhoeddus, cyflogai i’r gweithredwr neu berson sydd wedi ei awdurdodi gan y gweithredwr.
5
Rhaid i weithredwr gwasanaeth trafnidiaeth gyhoeddus y mae paragraff (1) yn gymwys iddo ddarparu gwybodaeth i deithwyr am y gofyniad i wisgo gorchuddion wyneb yn ei gerbydau.
6
At ddibenion y rheoliad hwn ystyr “gwasanaeth cludiant i’r ysgol” yw unrhyw gludiant nad yw ond yn cael ei ddarparu at ddiben—
a
cludo person i’r ysgol ac o’r ysgol neu’r man arall y mae’r person yn cael addysg neu hyfforddiant ynddo, neu
b
hwyluso fel arall bresenoldeb person mewn ysgol neu fan arall y mae’r person yn cael addysg neu hyfforddiant ynddo.
Gofyniad i wisgo gorchudd wyneb mewn mannau cyhoeddus penodol o dan doI1919
1
Rhaid i berson (“P”) wisgo gorchudd wyneb yn ardaloedd cyhoeddus o dan do mangreoedd y mae gan y cyhoedd fynediad iddynt neu y caniateir i’r cyhoedd gael mynediad iddynt, pa un ai drwy dalu neu fel arall.
2
Ond nid yw hyn yn ofynnol—
a
pan fo P yn blentyn o dan 11 oed;
b
pan fo gan P esgus rhesymol dros beidio â gwisgo gorchudd wyneb, ac o ran hynny gweler paragraff (3).
3
Mae’r amgylchiadau pan fo gan P esgus rhesymol dros beidio â gwisgo gorchudd wyneb yn cynnwys—
a
pan na fo P yn gallu rhoi gorchudd am ei wyneb, neu wisgo neu dynnu gorchudd wyneb, oherwydd salwch neu nam corfforol neu feddyliol, neu anabledd (o fewn yr ystyr a roddir i “disability” yn adran 6 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010);
b
pan fo P yn ymgymryd â gweithgaredd ac y gellir ystyried yn rhesymol fod gwisgo gorchudd wyneb yn ystod y gweithgaredd hwnnw yn peri risg i iechyd P;
c
pan fo P yn gorfod tynnu’r gorchudd wyneb i gyfathrebu â pherson arall sy’n cael anhawster i gyfathrebu (mewn perthynas â lleferydd, iaith neu fel arall);
d
pan fo P yn gorfod tynnu’r gorchudd wyneb er mwyn osgoi niwed neu anaf, neu’r risg o niwed neu anaf, i P ei hunan neu i eraill;
e
pan fo P yn y fangre i osgoi anaf, neu i ddianc rhag risg o niwed, ac nad oes gan P orchudd wyneb;
f
pan fo P yn gorfod tynnu’r gorchudd wyneb i—
i
cymryd meddyginiaeth;
ii
bwyta neu yfed, pan fo’n rhesymol angenrheidiol;
g
pan ofynnir i P dynnu’r gorchudd wyneb gan swyddog gorfodaeth.
Canllawiau ar leihau dod i gysylltiad â’r coronafeirwsI2020
1
Rhaid i berson y mae’n ofynnol iddo gymryd mesurau rhesymol o dan reoliad 17(2) roi sylw i ganllawiau a ddyroddir gan Weinidogion Cymru ynghylch y mesurau hynny.
2
Rhaid i weithredwr gwasanaeth trafnidiaeth gyhoeddus y mae rheoliad 18 yn gymwys iddo roi sylw i ganllawiau a ddyroddir gan Weinidogion Cymru ynghylch—
a
y gofyniad i wisgo gorchudd wyneb yn unol â pharagraffau (1) i (4) o reoliad 18 a gorfodi’r gofyniad hwnnw o dan reoliad 25;
b
darparu gwybodaeth i deithwyr yn unol â pharagraff (5) o reoliad 18.
3
O ran Gweinidogion Cymru——
b
rhaid iddynt gyhoeddi’r canllawiau (ac unrhyw ddiwygiadau).
4
Caiff canllawiau o dan y rheoliad hwn gynnwys (drwy gyfeirio neu drosi) ganllawiau, codau ymarfer neu ddogfennau eraill a gyhoeddir gan berson arall (er enghraifft, cymdeithas fasnach, corff sy’n cynrychioli aelodau o ddiwydiant neu undeb llafur).
RHAN 5Gorfodi
Swyddogion gorfodaethI2121
1
At ddibenion rheoliad 22 ac Atodlen 2, ystyr “swyddog gorfodaeth” yw person sydd wedi ei ddynodi gan awdurdod lleol at ddibenion y Rheoliadau hyn.
2
At ddibenion rheoliadau 23 i 31, ystyr “swyddog gorfodaeth” yw—
a
cwnstabl,
b
swyddog cymorth cymunedol yr heddlu,
c
person sydd wedi ei ddynodi gan—
i
Gweinidogion Cymru, neu
ii
awdurdod lleol,
at ddibenion y Rheoliadau hyn (ond gweler paragraff (3)), neu
d
person sydd wedi ei ddynodi gan Weinidogion Cymru neu awdurdod lleol o dan—
i
rheoliad 17(1) o Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) 202010 at ddibenion y Rheoliadau hynny, neu
ii
rheoliad 10(11)(c) o Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) 202011 yn berson perthnasol (o fewn yr ystyr a roddir gan y rheoliad hwnnw),
(ond gweler paragraff (3)).
Gorfodi’r gofyniad i gymryd mesurau ataliolI2222
Mae Atodlenni 2 a 3 yn gwneud darpariaeth ar gyfer rhoi swyddogaethau i swyddogion gorfodaeth at ddiben gorfodi rheoliad 17(2) ac mewn cysylltiad â rhoi’r swyddogaethau hynny.
Hysbysiadau cydymffurfioI2323
1
2
Caiff hysbysiad cydymffurfio bennu mesurau y mae rhaid i’r person y’i rhoddir iddo eu cymryd cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol er mwyn atal y person hwnnw rhag parhau i dorri’r gofyniad.
Pwerau symud a gwasgaruI2424
1
Pan fo gan swyddog gorfodaeth sail resymol dros amau bod person (“P”) yn torri rheoliad 3(1), caiff y swyddog—
a
cyfarwyddo P i ddychwelyd i’r man lle y mae P yn byw;
b
symud P i’r man hwnnw.
2
Pan fo gan swyddog gorfodaeth sail resymol dros amau bod pobl wedi ymgynnull yn groes i reoliad 4(1), caiff y swyddog—
a
cyfarwyddo’r cynulliad i wasgaru;
b
cyfarwyddo unrhyw berson yn y cynulliad i ddychwelyd i’r man lle y mae’n byw;
c
symud unrhyw berson yn y cynulliad i’r man lle y mae’n byw.
3
Pan fo gan swyddog gorfodaeth sail resymol dros amau bod person (“P”) yn torri rheoliad 5(1), caiff y swyddog gyfarwyddo P i ymadael â Chymru.
4
5
Pan fo gan swyddog gorfodaeth sail resymol dros amau bod person (“P”) yn torri, neu ar fin torri, rheoliad 9(1), caiff y swyddog—
a
cyfarwyddo P i ddilyn unrhyw gyfarwyddiadau y mae’r swyddog yn ystyried eu bod yn angenrheidiol er mwyn stopio neu atal y toriad;
b
symud P o leoliad neu leoliad arfaethedig y digwyddiad y mae’r swyddog yn amau ei fod yn cael, neu ar fin cael, ei drefnu yn groes i reoliad 9(1).
Gorfodi gofynion gorchuddion wynebI2525
1
Pan fo gan swyddog gorfodaeth sail resymol dros amau bod person (“P”) yn torri (neu ar fin torri) rheoliad 18(1), caiff y swyddog—
a
cyfarwyddo P i beidio â mynd i’r cerbyd sy’n darparu’r gwasanaeth trafnidiaeth gyhoeddus o dan sylw;
b
symud P o’r cerbyd.
2
Pan fo gan—
a
gweithredwr gwasanaeth trafnidiaeth gyhoeddus,
b
cyflogai i’r gweithredwr, neu
c
person sydd wedi ei awdurdodi gan y gweithredwr,
sail resymol dros amau bod person (“P”) ar fin torri rheoliad 18(1), caiff y gweithredwr, y cyflogai neu’r person awdurdodedig gyfarwyddo P i beidio â mynd i’r cerbyd sy’n darparu’r gwasanaeth trafnidiaeth gyhoeddus o dan sylw.
3
Pan fo gan swyddog gorfodaeth sail resymol dros amau bod person (“P”) yn torri (neu ar fin torri) rheoliad 19(1), caiff y swyddog—
a
cyfarwyddo P i beidio â mynd i’r fangre;
b
symud P o’r fangre.
Gorfodi: plantI2626
1
Pan fo gan swyddog gorfodaeth sail resymol dros amau bod person (“P”) yn torri rheoliad 3(1) neu’n ymgynnull yn groes i reoliad 4(1) a’i fod yn blentyn gydag unigolyn (“U”) a chanddo gyfrifoldeb dros P—
a
caiff y swyddog gyfarwyddo U i fynd â P i’r man lle y mae P yn byw, a
b
rhaid i U, i’r graddau y mae’n rhesymol ymarferol, sicrhau bod P yn cydymffurfio ag unrhyw gyfarwyddyd neu gyfarwyddiad a roddir gan y swyddog i P.
2
Pan fo gan swyddog gorfodaeth sail resymol dros amau bod person (“P”) yn torri rheoliad 5(1) a’i fod yn blentyn gydag unigolyn (“U”) a chanddo gyfrifoldeb dros P—
a
caiff y swyddog gyfarwyddo U i fynd â P i fan y tu allan i Gymru, a
b
rhaid i U, i’r graddau y mae’n rhesymol ymarferol, sicrhau bod P yn cydymffurfio ag unrhyw gyfarwyddyd neu gyfarwyddiad a roddir gan y swyddog i P.
3
Pan fo gan swyddog gorfodaeth sail resymol dros amau bod plentyn yn methu â chydymffurfio â gofyniad yn rheoliad 18(1) neu 19(1), caiff y swyddog gyfarwyddo unrhyw unigolyn (“U”) a chanddo gyfrifoldeb dros y plentyn i sicrhau, i’r graddau y mae’n rhesymol ymarferol, fod y plentyn yn cydymffurfio â’r gofyniad.
Pŵer mynediadI2727
1
Caiff swyddog gorfodaeth fynd i fangre—
a
os oes gan y swyddog sail resymol dros amau bod gofyniad a osodir gan y Rheoliadau hyn yn cael, wedi cael, neu ar fin cael ei dorri yn y fangre, a
b
os yw’r swyddog yn ystyried ei bod yn angenrheidiol mynd i’r fangre at ddiben canfod a yw’r gofyniad yn cael, wedi cael, neu ar fin cael ei dorri.
2
Caiff swyddog gorfodaeth sy’n mynd i fangre yn unol â pharagraff (1) gymryd unrhyw bersonau eraill, cyfarpar a deunyddiau i’r fangre y mae’n ymddangos i’r swyddog eu bod yn briodol.
3
Rhaid i swyddog gorfodaeth sy’n mynd i fangre yn unol â pharagraff (1)—
a
os gofynnir iddo gan berson yn y fangre, ddangos tystiolaeth o bwy yw’r swyddog ac amlinellu’r diben yr arferir y pŵer ato;
b
os nad yw’r fangre wedi ei meddiannu neu os yw’r meddiannydd yn absennol dros dro, adael y fangre wedi ei diogelu rhag mynediad anawdurdodedig yr un mor effeithiol ag yr oedd pan aeth y swyddog iddi.
Gorfodi: darpariaeth atodolI2828
1
Caiff swyddog gorfodaeth gymryd camau gweithredu eraill i hwyluso arfer pŵer a roddir i’r swyddog gan y Rhan hon.
3
Ni chaiff swyddog gorfodaeth ond arfer pŵer o dan y Rhan hon os yw’r swyddog yn ystyried ei bod yn angenrheidiol ac yn gymesur gwneud hynny.
4
Yn y Rhan hon mae cyfeiriadau at ofyniad yn cynnwys cyfeiriadau at gyfyngiad.
RHAN 6Troseddau a chosbau
Troseddau a chosbauI2929
1
Mae person sydd—
yn cyflawni trosedd.
2
Mae person sy’n rhwystro, heb esgus rhesymol, unrhyw berson rhag cyflawni swyddogaeth o dan y Rheoliadau hyn yn cyflawni trosedd.
3
Mae person sydd—
a
heb esgus rhesymol, yn torri paragraff 3(1) o Atodlen 2,
b
yn torri paragraff 3(2) o’r Atodlen honno, neu
c
heb esgus rhesymol, yn tynnu, yn cuddio neu’n difrodi hysbysiad neu arwydd y mae’n ofynnol ei arddangos o dan baragraff 7(2) o’r Atodlen honno,
yn cyflawni trosedd.
4
Mae person sydd, heb esgus rhesymol—
a
yn torri cyfarwyddyd a roddir—
i
gan swyddog gorfodaeth o dan Ran 5, neu
ii
gan weithredwr gwasanaeth trafnidiaeth gyhoeddus, cyflogai i’r gweithredwr, neu berson sydd wedi ei awdurdodi gan y gweithredwr, o dan reoliad 25(2), neu
b
yn methu â chydymffurfio â hysbysiad cydymffurfio a roddir gan swyddog gorfodaeth o dan reoliad 23(1),
yn cyflawni trosedd.
5
Mae trosedd o dan y Rheoliadau hyn i’w chosbi ar euogfarn ddiannod drwy ddirwy.
6
Mae adran 24 o Ddeddf yr Heddlu a Thystiolaeth Droseddol 198412 yn gymwys mewn perthynas â throsedd o dan y rheoliad hwn fel petai’r rhesymau yn is-adran (5) yn cynnwys—
a
cynnal iechyd y cyhoedd;
b
cynnal trefn gyhoeddus.
Troseddau a gyflawnwyd gan gyrff corfforedig etc.I3030
1
Os profir bod trosedd o dan y Rheoliadau hyn a gyflawnwyd gan gorff corfforedig—
a
wedi ei chyflawni â chydsyniad neu ymoddefiad swyddog i’r corff hwnnw, neu
b
i’w phriodoli i unrhyw esgeulustod ar ran swyddog o’r fath,
mae’r swyddog (yn ogystal â’r corff corfforedig) yn euog o’r drosedd ac yn agored i gael ei erlyn, i gael achos yn ei erbyn a’i gosbi yn unol â hynny.
2
Ym mharagraff (1), ystyr “swyddog”, mewn perthynas â chorff corfforedig, yw cyfarwyddwr, rheolwr, ysgrifennydd neu swyddog tebyg arall i’r corff corfforedig.
3
Caniateir i achos am drosedd o dan y Rheoliadau hyn yr honnir ei bod wedi ei chyflawni gan bartneriaeth gael ei ddwyn yn enw’r bartneriaeth yn hytrach nag yn enw unrhyw un neu ragor o’r partneriaid.
4
Caniateir i achos am drosedd o dan y Rheoliadau hyn yr honnir ei bod wedi ei chyflawni gan gorff anghorfforedig ac eithrio partneriaeth gael ei ddwyn yn enw’r corff yn hytrach nag yn enw unrhyw un neu ragor o’i aelodau ac, at ddibenion unrhyw achos o’r fath, mae unrhyw reolau llys sy’n ymwneud â chyflwyno dogfennau yn cael effaith fel pe bai’r corff hwnnw yn gorff corfforedig.
5
6
Mae dirwy a osodir ar bartneriaeth ar ei heuogfarnu o drosedd o dan y Rheoliadau hyn i’w thalu o asedau’r bartneriaeth.
7
Mae dirwy a osodir ar gymdeithas anghorfforedig ac eithrio partneriaeth ar ei heuogfarnu o drosedd o dan y Rheoliadau hyn i’w thalu o gronfeydd y gymdeithas.
Hysbysiadau cosb benodedigI3131
1
Caiff swyddog gorfodaeth ddyroddi hysbysiad cosb benodedig i unrhyw un y mae’r swyddog yn credu’n rhesymol—
a
ei fod wedi cyflawni trosedd o dan y Rheoliadau hyn (ac eithrio trosedd o dan reoliad 29(3)(a)), a
b
ei fod yn 18 oed neu drosodd.
2
Hysbysiad yw hysbysiad cosb benodedig sy’n cynnig i’r person y’i dyroddir iddo y cyfle i gael ei ryddhau o unrhyw atebolrwydd am euogfarn am y drosedd drwy dalu cosb benodedig i—
a
awdurdod lleol, neu
b
person sydd wedi ei ddynodi gan Weinidogion Cymru at ddibenion cael taliad o dan y rheoliad hwn,
a bennir yn yr hysbysiad.
3
Caiff Gweinidogion Cymru eu dynodi hwy eu hunain o dan baragraff (2)(b).
4
Mae person sydd wedi ei ddynodi gan Weinidogion Cymru at ddibenion cael taliad o dan reoliad 13 o Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) 2020 neu reoliad 21 o Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) 2020 i’w drin fel pe bai wedi ei ddynodi at ddibenion cael taliad o dan y rheoliad hwn.
5
Pan fo awdurdod lleol wedi ei bennu yn yr hysbysiad rhaid iddo fod yn awdurdod (neu yn ôl y digwydd, unrhyw un o’r awdurdodau) yr honnir bod y drosedd wedi ei chyflawni yn ei ardal.
6
Pan ddyroddir hysbysiad i berson o dan y rheoliad hwn mewn cysylltiad â throsedd—
a
ni chaniateir dwyn unrhyw achos am y drosedd cyn diwedd y cyfnod o 28 o ddiwrnodau ar ôl y dyddiad y dyroddir yr hysbysiad;
b
ni chaniateir euogfarnu’r person o’r drosedd os yw’r person yn talu’r gosb benodedig cyn diwedd y cyfnod hwnnw.
7
Rhaid i hysbysiad cosb benodedig—
a
rhoi manylion rhesymol fanwl am yr amgylchiadau yr honnir eu bod yn ffurfio’r drosedd;
b
datgan y cyfnod pryd (oherwydd paragraff (6)(a)) na ddygir achos am y drosedd;
c
pennu swm y gosb benodedig;
d
datgan enw a chyfeiriad y person y caniateir talu’r gosb benodedig iddo;
e
pennu dulliau o dalu a ganiateir.
8
9
10
Caiff hysbysiad cosb benodedig bennu, os telir £30 cyn diwedd y cyfnod o 14 o ddiwrnodau yn dilyn dyddiad yr hysbysiad, mai dyna swm y gosb benodedig.
11
Os yw’r person y dyroddir hysbysiad cosb benodedig iddo eisoes wedi cael hysbysiad cosb benodedig o dan y Rheoliadau hyn neu Reoliadau a grybwyllir ym mharagraff (12)—
a
nid yw paragraff (10) yn gymwys, a
b
rhaid i’r swm a bennir fel y gosb benodedig fod—
i
yn achos yr ail hysbysiad cosb benodedig a geir, £120;
ii
yn achos y trydydd hysbysiad cosb benodedig a geir, £240;
iii
yn achos y pedwerydd hysbysiad cosb benodedig a geir, £480;
iv
yn achos y pumed hysbysiad cosb benodedig a geir, £960;
v
yn achos y chweched hysbysiad cosb benodedig a geir, ac unrhyw hysbysiad cosb benodedig a geir wedi hynny, £1920.
12
Wrth gyfrifo nifer yr hysbysiadau cosb benodedig y mae person wedi eu cael, mae hysbysiadau cosb benodedig a ddyroddir i’r person hwnnw o dan—
a
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) 2020,
b
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) 2020, ac
c
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Swyddogaethau Awdurdodau Lleol etc.) (Cymru) 202015.
i’w hystyried, ond nid oes unrhyw ystyriaeth i’w rhoi i unrhyw hysbysiad cosb benodedig a ddyroddir i’r person hwnnw mewn cysylltiad â throsedd honedig o dorri rheoliad 14B(1) o Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) 2020 neu reoliad 9(1) o’r Rheoliadau hyn.
13
14
Pan fo llythyr yn cael ei anfon fel y’i crybwyllir ym mharagraff (13), ystyrir bod taliad wedi ei wneud ar yr adeg y byddai’r llythyr hwnnw wedi cael ei ddanfon yn nhrefn arferol y post.
15
Mewn unrhyw achos, mae tystysgrif—
a
sy’n honni ei bod wedi ei llofnodi gan neu ar ran y person a chanddo gyfrifoldeb am faterion ariannol—
i
yr awdurdod lleol, neu
ii
y person sydd wedi ei ddynodi o dan baragraff (2)(b),
a bennir yn yr hysbysiad cosb benodedig y mae’r achos yn ymwneud ag ef, a
b
sy’n datgan bod y taliad am gosb benodedig wedi dod i law, neu heb ddod i law, erbyn y dyddiad a bennir yn y dystysgrif,
yn dystiolaeth o’r ffeithiau a nodwyd.
ErlynI3232
1
Ni chaniateir dwyn achos am drosedd o dan y Rheoliadau hyn ond gan—
a
y Cyfarwyddwr Erlyniadau Cyhoeddus,
b
unrhyw berson sydd wedi ei ddynodi gan Weinidogion Cymru, neu
2
Mae person sydd wedi ei ddynodi gan Weinidogion Cymru o dan reoliad 14 o Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) 2020 neu reoliad 22 o Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) 2020 i’w drin fel pe bai wedi ei ddynodi o dan y rheoliad hwn.
RHAN 7Cyffredinol
DehongliI3333
1
Yn y Rheoliadau hyn—
a
mae “claddu” yn cynnwys rhoi lludw person marw yn y ddaear;
b
ystyr “cartref gofal” yw mangre y mae “gwasanaeth cartref gofal” o fewn yr ystyr a roddir gan baragraff 1 o Atodlen 1 i Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 201616 yn cael ei ddarparu ynddi;
c
ystyr “gofalwr” yw person sy’n darparu gofal ar gyfer y person a gynorthwyir pan—
i
bo hawlogaeth gan y gofalwr i asesiad o dan adran 24 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 201417,
ii
bo’r gofal yn rhan o’r ddarpariaeth o wasanaethau gofal cymunedol o dan Ran 4 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, neu
iii
bo’r gofal wedi ei ddarparu gan ddarparwr gofal sydd wedi ei gofrestru o dan Ran 1 o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016;
d
ystyr “plentyn” yw person sydd o dan 18 oed;
e
ystyr “coronafeirws” yw coronafeirws syndrom anadlol acíwt difrifol 2 (SARS-CoV-2);
f
ystyr “athletwr elît” yw unigolyn sydd wedi ei ddynodi felly at ddibenion y Rheoliadau hyn gan Gyngor Chwaraeon Cymru;
g
ystyr “gorchudd wyneb” yw gorchudd o unrhyw fath sy’n gorchuddio trwyn a cheg person;
h
ystyr “awdurdod lleol” yw cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol yng Nghymru;
i
mae i “Bwrdd Iechyd Lleol” yr ystyr a roddir gan reoliad 17(4)(c);
j
mae i “cyfrifoldeb rhiant” yr un ystyr ag a roddir i “parental responsibility” yn Neddf Plant 198918;
k
mae “person sy’n gyfrifol am gynnal busnes” yn cynnwys perchennog a rheolwr y busnes hwnnw;
l
mae “mangre” yn cynnwys unrhyw adeilad neu strwythur ac unrhyw dir;
m
ystyr “gwasanaeth trafnidiaeth gyhoeddus” yw gwasanaeth a ddarperir ar gyfer cludo teithwyr ar ffordd, ar reilffordd, ar dramffordd, yn yr awyr neu ar y dŵr;
n
mae i “mangre reoleiddiedig” yr ystyr a roddir gan reoliad 17(1);
o
“digwyddiadau chwaraeon penodedig” yw’r canlynol—
i
gêm pêl-droed Cymru v Norwy, gêm gymhwysol merched Pencampwriaethau Ewropeaidd UEFA ar 27 Hydref 2020;
ii
gêm rygbi Cymru v yr Alban, Twrnamaint merched y 6 Gwlad ar 1 Tachwedd 2020;
iii
gêm Cynghrair Pencampwyr UEFA sy’n cynnwys Merched Dinas Abertawe AFC sydd i’w chynnal ar 3 neu 4 Tachwedd 2020;
p
mae “cerbyd” yn cynnwys awyren, car cebl, trên, tram a llestr;
q
mae “person hyglwyf” yn cynnwys—
i
unrhyw berson sy’n 70 oed neu’n hŷn;
ii
unrhyw berson o dan 70 oed sydd â chyflwr iechyd isorweddol;
iii
unrhyw berson sy’n feichiog;
iv
unrhyw blentyn;
v
unrhyw berson sy’n oedolyn hyglwyf o fewn yr ystyr a roddir i “vulnerable adult” gan adran 60(1) o Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 200619.
2
At ddibenion y Rheoliadau hyn—
a
mae cynulliad pan fydd dau neu ragor o bobl yn yr un man er mwyn gwneud rhywbeth gyda’i gilydd;
b
mae mangre o dan do os yw’n gaeedig neu’n sylweddol gaeedig o fewn yr ystyr a roddir gan reoliad 2 o Reoliadau Mangreoedd etc. Di-fwg (Cymru) 200720.
3
Os yw aelwyd sy’n cynnwys dim mwy nag un oedolyn (ac unrhyw nifer o blant) ac aelwyd arall yn cytuno i gael eu trin fel un aelwyd (estynedig) at ddibenion y Rheoliadau hyn, mae unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn (ac eithrio ym mharagraffau (4) i (6)) at “aelwyd” i’w ddarllen fel pe bai’n cynnwys y ddwy aelwyd.
4
Er mwyn cytuno i gael eu trin fel un aelwyd rhaid i bob oedolyn ar y ddwy aelwyd gytuno.
5
Ond—
a
dim ond gydag un aelwyd arall y caiff aelwyd gytuno i gael ei thrin fel un aelwyd, a
b
os yw’r ddwy aelwyd yn peidio â chytuno i gael eu trin fel un aelwyd, ni chaiff y naill aelwyd na’r llall gytuno i gael ei thrin fel un aelwyd o dan baragraff (3) gydag unrhyw aelwyd arall.
6
Os yw dwy aelwyd wedi cytuno i gael eu trin fel aelwyd estynedig dros dro yn unol â pharagraff 2 o Atodlen 4A i Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) ((Cymru) 202021 maent i’w trin fel pe baent hefyd wedi cytuno i hi gael eu trin fel un aelwyd (estynedig) at ddibenion y Rheoliadau hyn.
7
At ddibenion y Rheoliadau hyn, mae mangre wedi ei hawdurdodi ar gyfer gwerthu neu gyflenwi alcohol pan fo awdurdodiad wedi ei ganiatáu neu ei roi i’r fangre o dan Ddeddf Trwyddedu 2003, ac mae i “awdurdodiad” yr ystyr a roddir i “authorisation” gan adran 136(5) o’r Ddeddf honno.
DirymuI3434
1
Mae’r Rheoliadau a ganlyn wedi eu dirymu—
a
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) 2020;
b
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) 202022;
c
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 202023;
d
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 3) 202024;
e
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 4) 202025;
f
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 5) 202026;
g
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 6) 202027;
h
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 7) 202028;
i
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 8) (Caerffili) 202029;
j
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 9) 202030;
k
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 10) (Rhondda Cynon Taf) 202031;
l
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 11) (Blaenau Gwent, Casnewydd, Merthyr Tudful a Phen-y-bont ar Ogwr etc.) 202032;
m
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 12) 202033;
n
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 13) (Llanelli etc.) 202034;
o
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 14) (Abertawe a Chaerdydd) 202035;
p
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 15) (Bro Morgannwg, Castell-nedd Port Talbot a Thorfaen) 202036;
q
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 16) (Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint a Wrecsam) 202037;
r
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 17) 202038;
s
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 18) (Bangor) 202039;
t
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 19) 202040.
2
Er gwaethaf dirymu’r Rheoliadau hynny, maent yn parhau mewn grym mewn perthynas ag unrhyw drosedd a gyflawnwyd, neu unrhyw hysbysiad a roddwyd neu a ddyroddwyd, o dan Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) 2020 cyn i’r Rheoliadau hyn ddod i rym.
Diwygiad canlyniadolI3535
1
Yn rheoliad 19(10) o Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Swyddogaethau Awdurdodau Lleol etc.) (Cymru) 2020, ar ôl is-baragraff (b) mewnosoder—
c
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 3) (Cymru) 2020.