RHAN 2LL+CCyfyngiadau ar symud ac ymgynnull gydag eraill
Gofyniad i aros gartrefLL+C
3.—(1) Ni chaiff unrhyw berson yng Nghymru, heb esgus rhesymol, ymadael â’r man lle y mae’n byw neu aros i ffwrdd o’r man hwnnw.
(2) Mae esgus rhesymol yn cynnwys yr angen i wneud y canlynol—
(a)cael cyflenwadau oddi wrth unrhyw fusnes neu wasanaeth a restrir yn Rhan 3 o Atodlen 1 gan gynnwys—
(i)bwyd a chyflenwadau meddygol ar gyfer y rheini ar yr un aelwyd (gan gynnwys anifeiliaid ar yr aelwyd) neu ar gyfer personau hyglwyf;
(ii)cyflenwadau ar gyfer cynnal, cynnal a chadw a gweithrediad hanfodol yr aelwyd, neu aelwyd person hyglwyf;
(b)ceisio neu ddarparu cynhorthwy meddygol, gan gynnwys cael gafael ar unrhyw un neu ragor o’r gwasanaethau y cyfeirir atynt ym mharagraff 47 o Ran 3 o Atodlen 1 neu gael gafael ar wasanaethau milfeddygol;
(c)darparu, cael neu gael gafael ar ofal neu gynhorthwy, gan gynnwys gofal plant neu ofal personol perthnasol o fewn ystyr “relevant personal care” ym mharagraff 7(3B) o Atodlen 4 i Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006(1), pan fo’r person sy’n cael y gofal yn berson hyglwyf;
(d)gweithio neu ddarparu gwasanaethau gwirfoddol neu elusennol, pan na fo’n rhesymol ymarferol gwneud hynny gartref;
(e)pan fo’r person yn athletwr elît, hyfforddi ar gyfer digwyddiad chwaraeon penodedig, paratoi ato a chystadlu ynddo;
(f)darparu hyfforddiant neu gymorth arall i athletwr elît mewn cysylltiad â digwyddiad chwaraeon penodedig;
(g)gwasanaethu fel swyddog mewn digwyddiad chwaraeon penodedig neu fel arall ymwneud â’i redeg;
(h)gwneud ymarfer corff, naill ai—
(i)ar ei ben ei hun,
(ii)gydag aelodau eraill o aelwyd y person, neu
(iii)gyda gofalwr y person;
(i)darparu neu gael cynhorthwy brys;
(j)mynd i weinyddiad priodas neu ffurfiad partneriaeth sifil—
(i)fel parti i’r briodas neu’r bartneriaeth sifil,
(ii)os caiff ei wahodd i fynd iddi, neu
(iii)fel gofalwr person sy’n mynd i’r briodas neu’r bartneriaeth sifil.
(k)mynd i angladd—
(i)fel person sy’n gyfrifol am drefnu’r angladd,
(ii)os caiff ei wahodd gan berson sy’n gyfrifol am drefnu’r angladd, neu
(iii)fel gofalwr person sy’n mynd i’r angladd;
(l)cyflawni rhwymedigaeth gyfreithiol, gan gynnwys mynd i’r llys neu fodloni amodau mechnïaeth, neu gymryd rhan mewn achos cyfreithiol;
(m)cael gafael ar wasanaethau cyhoeddus neu gael y gwasanaethau hynny;
(n)cael gafael ar wasanaethau addysgol neu gael y gwasanaethau hynny, yn ddarostyngedig i reoliadau 6 a 7;
(o)mewn perthynas â phlant nad ydynt yn byw ar yr un aelwyd â’u rhieni, neu un o’u rhieni, parhau â threfniadau presennol ar gyfer gweld rhieni a phlant, a chyswllt rhyngddynt, ac at ddibenion y paragraff hwn, mae “rhiant” yn cynnwys person nad yw’n rhiant i’r plentyn, ond sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn neu sydd â gofal drosto;
(p)cael arian oddi wrth unrhyw fusnes neu wasanaeth a restrir ym mharagraff 44 neu 45 o Ran 3 o Atodlen 1 neu adneuo arian gydag unrhyw fusnes neu wasanaeth o’r fath;
(q)symud cartref;
(r)paratoi eiddo preswyl i bersonau symud i mewn;
(s)osgoi anaf neu salwch neu ddianc rhag risg o niwed.
(3) Mae gan berson esgus rhesymol i ymadael â’r man lle y mae’n byw i fynd i ddigwyddiad i gadw Sul y Cofio—
(a)a gynhelir ar 7 neu 8 Tachwedd 2020;
(b)a gynhelir yn yr awyr agored;
(c)a chanddo ddim mwy na 30 o bobl yn bresennol.
(4) Ym mharagraff (2)(h)—
(a)rhaid i ymarfer corff ddechrau a gorffen yn y man lle y mae’r person yn byw, neu
(b)pan fo angen i’r person, am resymau salwch neu nam corfforol neu feddyliol, neu anabledd (o fewn yr ystyr a roddir i “disability” yn adran 6 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010(2)), wneud ymarfer corff mewn man arall, rhaid i ymarfer corff ddigwydd mewn ardal sy’n lleol i’r man lle y mae’r person yn byw.
(5) Nid yw paragraff (1) yn gymwys i unrhyw berson sy’n ddigartref.
Gofyniad i beidio ag ymgynnull gyda phobl eraillLL+C
4.—(1) Pan na fo person yn y man lle y mae’n byw (yn rhinwedd bod ag esgus rhesymol o dan reoliad 3), ni chaiff y person hwnnw, heb esgus rhesymol, ymgynnull ag unrhyw berson arall ac eithrio—
(a)aelodau o’i aelwyd,
(b)ei ofalwr, neu
(c)person y mae’n darparu gofal iddo.
(2) Mae esgus rhesymol yn cynnwys yr angen i wneud y canlynol—
(a)gweithio neu ddarparu gwasanaethau gwirfoddol neu elusennol, pan na fo’n rhesymol ymarferol gwneud hynny heb ymgynnull gydag eraill;
(b)cyflawni rhwymedigaeth gyfreithiol, gan gynnwys mynd i’r llys neu fodloni amodau mechnïaeth, neu gymryd rhan mewn achos cyfreithiol;
(c)cael gafael ar wasanaethau cyhoeddus neu gael y gwasanaethau hynny;
(d)cael gafael ar wasanaethau addysgol neu gael y gwasanaethau hynny, yn ddarostyngedig i reoliadau 6 a 7;
(e)darparu, cael neu gael gafael ar ofal neu gynhorthwy, gan gynnwys gofal plant neu ofal personol perthnasol o fewn ystyr “relevant personal care” ym mharagraff 7(3B) o Atodlen 4 i Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006, pan fo’r person sy’n cael y gofal yn berson hyglwyf;
(f)pan fo’r person yn athletwr elît, hyfforddi ar gyfer digwyddiad chwaraeon penodedig, paratoi ato neu gystadlu ynddo;
(g)darparu hyfforddiant a chymorth arall i athletwr elît mewn cysylltiad â digwyddiad chwaraeon penodedig;
(h)gwasanaethu fel swyddog mewn digwyddiad chwaraeon penodedig neu fel arall ymwneud â’i redeg;
(i)darparu neu gael cynhorthwy brys;
(j)mynd i weinyddiad priodas neu ffurfiad partneriaeth sifil—
(i)fel parti i’r briodas neu’r bartneriaeth sifil,
(ii)os caiff ei wahodd i fynd iddi, neu
(iii)fel gofalwr person sy’n mynd i’r briodas neu’r bartneriaeth sifil;
(k)mynd i angladd—
(i)fel person sy’n gyfrifol am drefnu’r angladd,
(ii)os caiff ei wahodd gan berson sy’n gyfrifol am drefnu’r angladd, neu
(iii)fel gofalwr person sy’n mynd i’r angladd.
(3) Mae gan berson hefyd esgus rhesymol dros ymgynnull gyda pherson arall i fynd i ddigwyddiad i gadw Sul y Cofio—
(a)a gynhelir ar 7 neu 8 Tachwedd 2020;
(b)a gynhelir yn yr awyr agored;
(c)a chanddo ddim mwy na 30 o bobl yn bresennol.
Cyfyngiad ar deithio i GymruLL+C
5.—(1) Ni chaiff unrhyw berson sy’n byw y tu allan i Gymru, heb esgus rhesymol, fynd i Gymru neu aros yng Nghymru.
(2) Mae esgus rhesymol yn cynnwys yr angen i wneud y canlynol yng Nghymru—
(a)cael—
(i)bwyd a chyflenwadau meddygol ar gyfer y rheini ar yr un aelwyd (gan gynnwys anifeiliaid ar yr aelwyd) neu ar gyfer personau hyglwyf;
(ii)cyflenwadau ar gyfer cynnal, cynnal a chadw a gweithrediad hanfodol yr aelwyd, neu aelwyd person hyglwyf;
(b)cael arian oddi wrth unrhyw fusnes neu wasanaeth a restrir ym mharagraff 44 neu 45 o Ran 3 o Atodlen 1 neu adneuo arian gydag unrhyw fusnes neu wasanaeth o’r fath;
(c)cael neu ddarparu cynhorthwy meddygol, gan gynnwys cael gafael ar unrhyw un neu ragor o’r gwasanaethau y cyfeirir atynt ym mharagraff 47 o Ran 3 o Atodlen 1 neu gael gafael ar wasanaethau milfeddygol;
(d)darparu, cael neu gael gafael ar ofal neu gynhorthwy, gan gynnwys gofal plant neu ofal personol perthnasol o fewn ystyr “relevant personal care” ym mharagraff 7(3B) o Atodlen 4 i Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006, pan fo’r person sy’n cael y gofal yn berson hyglwyf;
(e)gweithio neu ddarparu gwasanaethau gwirfoddol neu elusennol pan na fo’n rhesymol ymarferol gwneud y gwaith neu ddarparu’r gwasanaeth o’r tu allan i Gymru;
(f)pan fo’r person yn athletwr elît, hyfforddi ar gyfer digwyddiad chwaraeon penodedig, paratoi ato a chystadlu ynddo;
(g)darparu hyfforddiant neu gymorth arall i athletwr elît mewn cysylltiad â digwyddiad chwaraeon penodedig;
(h)gwasanaethu fel swyddog mewn digwyddiad chwaraeon penodedig neu fel arall ymwneud â’i redeg;
(i)darparu neu gael cynhorthwy brys;
(j)mynd i weinyddiad priodas neu ffurfiad partneriaeth sifil—
(i)fel parti i’r briodas neu’r bartneriaeth sifil,
(ii)os caiff ei wahodd i fynd iddi, neu
(iii)fel gofalwr person sy’n mynd i’r briodas neu’r bartneriaeth sifil;
(k)mynd i angladd—
(i)fel person sy’n gyfrifol am drefnu’r angladd,
(ii)os caiff ei wahodd gan berson sy’n gyfrifol am drefnu’r angladd, neu
(iii)fel gofalwr person sy’n mynd i’r angladd;
(l)cyflawni rhwymedigaeth gyfreithiol, gan gynnwys mynd i’r llys neu fodloni amodau mechnïaeth, neu gymryd rhan mewn achos cyfreithiol;
(m)cael gafael ar wasanaethau cyhoeddus neu gael y gwasanaethau hynny;
(n)cael gafael ar wasanaethau addysgol, yn ddarostyngedig i reoliadau 6 a 7;
(o)mewn perthynas â phlant nad ydynt yn byw ar yr un aelwyd â’u rhieni, neu un o’u rhieni, parhau â threfniadau presennol ar gyfer gweld rhieni a phlant, a chyswllt rhyngddynt, ac at ddibenion y paragraff hwn, mae “rhiant” yn cynnwys person nad yw’n rhiant i’r plentyn, ond sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn neu sydd â gofal drosto;
(p)symud cartref;
(q)osgoi anaf neu salwch neu ddianc rhag risg o niwed;
(r)teithio i gyrraedd man y tu allan i Gymru.
(3) At ddibenion paragraff (1), nid yw’n esgus rhesymol i berson fynd i Gymru neu aros yng Nghymru i wneud unrhyw beth os byddai’n rhesymol ymarferol i’r person wneud y peth hwnnw y tu allan i Gymru.
Cyfyngiad ar fynd i’r ysgolLL+C
6.—(1) Ni chaiff disgybl ym mlwyddyn 9 neu uwch fynd i fangre ysgol yng Nghymru.
(2) Ond nid yw paragraff (1) yn atal—
(a)disgybl rhag mynd i fangre ysgol—
(i)i wneud arholiad neu asesiad arall;
(ii)pan fo perchennog yr ysgol yn hysbysu rhiant y disgybl ei fod yn ystyried ei bod yn briodol i’r disgybl fynd yno oherwydd amgylchiadau eithriadol sy’n ymwneud â hyglwyfedd y disgybl;
(b)disgybl rhag mynd i fangre ysgol arbennig;
(c)disgybl rhag mynd i fangre uned cyfeirio disgyblion;
(d)disgybl rhag mynd i fangre uned mewn ysgol, lle—
(i)mae awdurdod lleol yn cydnabod bod yr uned wedi’i neilltuo ar gyfer disgyblion ag anghenion addysgol arbennig, a
(ii)bod y disgybl yn cael ei addysgu’n gyfan gwbl neu’n bennaf yn yr uned;
(e)disgybl sy’n ddisgybl preswyl—
(i)rhag preswylio mewn llety ym mangre’r ysgol;
(ii)rhag cael addysg yn y llety hwnnw.
Cyfyngiad ar fynd i addysg bellachLL+C
7.—(1) Ni chaiff myfyriwr fynd i fangre sefydliad addysg bellach yng Nghymru.
(2) Ond nid yw paragraff (1) yn atal myfyriwr rhag mynd i fangre—
(a)sefydliad addysg bellach i wneud arholiad neu asesiad arall;
(b)sefydliad yn y sector addysg bellach pan fo’r sefydliad yn hysbysu’r myfyriwr ei fod yn ystyried ei bod yn briodol i’r myfyriwr fynd yno oherwydd amgylchiadau eithriadol sy’n ymwneud â hyglwyfedd y myfyriwr.
Dehongli rheoliadau 6 a 7LL+C
8. At ddibenion rheoliadau 6 a 7—
(a)ystyr “Deddf 1996” yw Deddf Addysg 1996(3);
(b)mae i “disgybl preswyl” yr ystyr a roddir i “boarder” gan adran 579 o Ddeddf 1996;
(c)ystyr “sefydliad addysg bellach” yw—
(i)sefydliad yn y sector addysg bellach;
(ii)darparwr addysg neu hyfforddiant o fewn ystyr “education or training” yn adran 31(1)(a) neu (b) neu 32(1)(a) neu (b) o Ddeddf Dysgu a Sgiliau 2000(4)—
(aa)nad yw’n sefydliad o fewn ystyr paragraff (i);
(bb)nad yw’n sefydliad yn y sector addysg uwch o fewn ystyr “higher education sector” yn adran 91(5) o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992(5), ac
(cc)sy’n cael cyllid i ddarparu’r addysg honno neu’r hyfforddiant hwnnw oddi wrth Weinidogion Cymru neu awdurdod lleol;
ond nid yw’n cynnwys cyflogwr sy’n ddarparwr dim ond am fod y cyflogwr yn darparu addysg neu hyfforddiant o’r fath i’w gyflogeion;
(d)mae i “ysgol annibynnol” yr ystyr a roddir i “independent school” gan adran 463 o Ddeddf 1996;
(e)mae i “sefydliad o fewn y sector addysg bellach” yr ystyr a roddir i “institutions within the further education sector” gan adran 91(3) o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992;
(f)mae i “rhiant” yr ystyr a roddir i “parent” gan adran 576 o Ddeddf 1996;
(g)mae i “perchennog” yr ystyr a roddir i “proprietor” gan adran 579 o Ddeddf 1996;
(h)mae i “disgybl” yr ystyr a roddir i “pupil” gan adran 4 o Ddeddf 1996;
(i)mae i “uned cyfeirio disgyblion” yr ystyr a roddir i “pupil referral unit” gan adran 19 o Ddeddf 1996;
(j)mae i “anghenion addysgol arbennig” yr ystyr a roddir i “special educational needs” gan adran 312 o Ddeddf 1996;
(k)ystyr “ysgol arbennig” yw—
(i)ysgol arbennig o fewn yr ystyr a roddir i “special school” gan adran 337 o Ddeddf 1996;
(ii)ysgol annibynnol sy’n darparu’n gyfan gwbl neu’n bennaf addysg ar gyfer disgyblion ag anghenion addysgol arbennig;
(l)mae i “ysgol” yr ystyr a roddir i “school” gan adran 4 o Ddeddf 1996;
(m)ystyr “blwyddyn ysgol” yw’r cyfnod sy’n dechrau â’r tymor ysgol cyntaf i ddechrau ar ôl mis Gorffennaf ac sy’n dod i ben â dechrau’r tymor cyntaf o’r fath i ddechrau ar ôl y mis Gorffennaf canlynol;
(n)ystyr “blwyddyn 9” yw grŵp blwyddyn y bydd y rhan fwyaf o’r plant ynddo yn cyrraedd 14 oed yn ystod y flwyddyn ysgol;
(o)ystyr “grŵp blwyddyn” yw grŵp o blant mewn ysgol y bydd y rhan fwyaf ohonynt yn cyrraedd yr un oedran mewn blwyddyn ysgol benodol.
Gwaharddiad ar drefnu digwyddiadau cerddorol penodol sydd heb eu trwyddeduLL+C
9.—(1) Ni chaiff unrhyw berson ymwneud â threfnu digwyddiad cerddorol perthnasol sydd heb ei drwyddedu.
(2) At ddibenion y rheoliad hwn, ystyr “digwyddiad cerddorol perthnasol sydd heb ei drwyddedu” yw digwyddiad—
(a)sy’n cynnwys mwy na 30 o bobl,
(b)lle y mae pobl yn ymgynnull yn groes i reoliad 4(1),
(c)lle y mae cerddoriaeth yn cael ei chwarae neu ei pherfformio at ddiben adloniant, neu at ddibenion sy’n cynnwys y diben hwnnw, a
(d)lle o ran chwarae neu berfformio cerddoriaeth—
(i)y mae’n weithgarwch trwyddedadwy (o fewn ystyr Deddf Trwyddedu 2003(6)), a
(ii)nas cynhelir o dan awdurdodiad nac yn unol ag awdurdodiad (o fewn yr ystyr a roddir i “authorisation” gan adran 136(5) o’r Ddeddf honno).
(3) At ddibenion y rheoliad hwn, nid yw person yn ymwneud â threfnu digwyddiad cerddorol perthnasol sydd heb ei drwyddedu os nad yw’r person ond yn ymwneud â’r digwyddiad, neu na fyddai ond yn ymwneud â’r digwyddiad, drwy fynd iddo.
[F1Cyfyngiadau sy’n ymwneud â phersonau sydd wedi bod yn Nenmarc yn ddiweddarLL+C
9A.—(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo person (“P”)—
(a)yng Nghymru am 4.00 a.m. ar 7 Tachwedd 2020,
(b)wedi cyrraedd Cymru o fewn y cyfnod o 14 o ddiwrnodau sy’n dod i ben yn union cyn 4.00 a.m. ar 7 Tachwedd 2020, ac
(c)wedi bod yn Nenmarc o fewn y cyfnod hwnnw.
(2) Nid yw rheoliadau 3 i 7 yn gymwys i P nac i unrhyw berson sy’n byw ar yr un aelwyd â P.
(3) Ni chaiff P, nac unrhyw berson sy’n byw ar yr un aelwyd â P, adael y man lle maent yn byw tan ddiwedd y cyfnod o 14 diwrnod sy’n dechrau ar y diwrnod y cyrhaeddodd P Cymru.
(4) Ond gall P, neu berson sy’n byw ar yr un aelwyd â P, adael y man lle maent yn byw—
(a)i geisio cynhorthwy meddygol, pan fo angen y cynhorthwy hwnnw ar frys neu yn unol â chyngor ymarferydd meddygol cofrestredig;
(b)os yw cwnstabl yn dweud fod yn rhaid gwneud hynny;
(c)er mwyn osgoi salwch difrifol, anaf difrifol neu risg arall o niwed difrifol.]
Diwygiadau Testunol
F1Rhl. 9A wedi ei fewnosod (7.11.2020 am 4.00 a.m.) gan Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol a Chyfyngiadau) (Diwygio) (Cymru) 2020 (O.S. 2020/1237), rhlau. 1(2), 3(2)
2006 p. 47. Mewnosodwyd paragraff 7(3B) gan adran 66(2) o Ddeddf Diogelu Rhyddidau 2012 (p. 9).