- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 3) (Cymru) 2020, RHAN 3.
Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Ar hyn o bryd mae unrhyw newidiadau neu effeithiau hysbys a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol wedi'u gwneud i destun y ddeddfwriaeth yr ydych yn edrych arni gan y tîm golygyddol. Gweler 'Cwestiynau Cyffredin' am fanylion ynglŷn â'r amserlenni ar gyfer nodi a chofnodi effeithiau newydd ar y safle hwn.
10.—(1) Yn y Rhan hon, mae cyfeiriadau at “mangre” yn gyfeiriadau at fangre busnes neu wasanaeth—
(a)sydd yng Nghymru, a
(b)y mae gan y cyhoedd fynediad iddi neu y caniateir i’r cyhoedd gael mynediad iddi, pa un ai drwy dalu neu fel arall.
(2) Mae Pennod 2 yn gwneud darpariaeth ynghylch busnesau neu wasanaethau y mae rhaid i’w mangreoedd gau.
(3) Mae Pennod 3 yn gwneud darpariaeth ynghylch busnesau neu wasanaethau y mae rhaid i’w mangreoedd gau ond y caniateir mynediad cyfyngedig iddynt.
(4) Mae Pennod 4 yn gwneud darpariaeth ynghylch busnesau neu wasanaethau y caiff eu mangreoedd barhau i fod ar agor.
(5) Gweler rheoliad 17 am ddarpariaeth bellach ynghylch mangreoedd a gaiff barhau i fod ar agor neu a gaeir ond y caniateir mynediad cyfyngedig iddynt yn unol â’r Rhan hon.
11.—(1) O ran person sy’n gyfrifol am gynnal busnes neu ddarparu gwasanaeth a restrir yn Rhan 1 o Atodlen 1—
(a)rhaid iddo gau i aelodau’r cyhoedd unrhyw fangre a weithredir fel rhan o’r busnes neu’r gwasanaeth, a
(b)ni chaiff gynnal y busnes neu’r gwasanaeth yn y fangre honno ac eithrio yn unol â’r rheoliad hwn.
(2) Nid yw paragraff (1) yn atal—
(a)gwneud gwaith cynnal a chadw ac atgyweirio neu waith arall i sicrhau bod mangre yn addas i’w defnyddio pan na fydd paragraff (1) yn gymwys i’r fangre mwyach;
(b)defnyddio mangre at unrhyw ddiben y mae Gweinidogion Cymru neu awdurdod lleol yn gofyn amdano neu’n ei awdurdodi;
(c)defnyddio mangre i ddarlledu heb gynulleidfa yn bresennol yn y fangre (pa un ai dros y rhyngrwyd neu fel rhan o ddarllediad radio neu deledu);
(d)defnyddio mangre ar gyfer darparu gwasanaethau neu wybodaeth (gan gynnwys gwerthu, llogi neu ddanfon nwyddau neu wasanaethau)—
(i)drwy wefan, neu fel arall drwy gyfathrebiad ar lein,
(ii)dros y ffôn, gan gynnwys drwy neges destun, neu
(iii)drwy’r post.
12.—(1) O ran person sy’n gyfrifol am gynnal busnes a restrir ym mharagraffau 22 i 25 o Atodlen 1—
(a)rhaid iddo gau i aelodau’r cyhoedd unrhyw fangre a weithredir fel rhan o’r busnes, a
(b)ni chaiff gynnal busnes yn y fangre honno ac eithrio yn unol â’r rheoliad hwn.
(2) Nid yw paragraff (1) yn atal—
(a)defnyddio mangre ar gyfer—
(i)gwerthu bwyd a diod i’w fwyta neu i’w hyfed oddi ar y fangre, neu
(ii)gwasanaethau sy’n darparu bwyd neu ddiod i bobl ddigartref;
(b)darparu gwasanaeth ystafell mewn gwesty neu lety arall (pan fo’r gwesty neu’r llety arall yn parhau i weithredu yn unol â’r eithriadau cyfyngedig a ganiateir gan reoliad 13);
(c)ffreutur yn y gweithle rhag bod ar agor pan na fo dewis ymarferol arall i staff yn y gweithle hwnnw gael bwyd;
(d)gwneud gwaith cynnal a chadw ac atgyweirio neu waith arall i sicrhau bod mangre yn addas i’w defnyddio pan na fydd paragraff (1) yn gymwys i’r fangre mwyach.
(3) At ddibenion paragraff (1), mae ardal o dan do sy’n gyfagos i fangre’r busnes lle y mae seddau yn cael eu rhoi ar gael i gwsmeriaid y busnes (pa un ai gan y busnes ai peidio) i’w thrin fel rhan o fangre’r busnes hwnnw.
13.—(1) O ran person sy’n gyfrifol am gynnal busnes a restrir ym mharagraffau 26 i 29 o Atodlen 1—
(a)rhaid iddo gau i aelodau’r cyhoedd unrhyw fangre a weithredir fel rhan o’r busnes, a
(b)ni chaiff gynnal busnes yn y fangre honno ac eithrio yn unol â’r rheoliad hwn.
(2) Nid yw paragraff (1) yn atal—
(a)defnyddio mangre at unrhyw ddiben y mae Gweinidogion Cymru neu awdurdod lleol yn gofyn amdano neu’n ei awdurdodi;
(b)darparu llety ar gyfer unrhyw bersonau sy’n aros yn y llety hwnnw pan ddaw’r Rheoliadau hyn i rym ac—
(i)nad ydynt yn gallu dychwelyd i’w prif breswylfa, neu
(ii)sy’n defnyddio’r llety fel eu prif breswylfa;
(c)defnyddio mangre i gynnal y busnes drwy ddarparu gwybodaeth neu wasanaethau eraill—
(i)drwy wefan, neu fel arall drwy gyfathrebiad ar lein,
(ii)dros y ffôn, gan gynnwys ymholiadau drwy neges destun, neu
(iii)drwy’r post;
(d)gwneud gwaith cynnal a chadw ac atgyweirio neu waith arall i sicrhau bod mangre yn addas i’w defnyddio pan nad yw paragraff (1) yn gymwys mwyach i’r fangre.
14.—(1) Rhaid i berson sy’n gyfrifol am fangre o fath a restrir ym mharagraffau 30 i 32 o Atodlen 1 sicrhau bod y fangre ar gau i aelodau’r cyhoedd, ac eithrio ar gyfer y defnydd a ganiateir gan baragraffau (2), (3) a (4).
(2) Caiff addoldy fod ar agor—
(a)ar gyfer angladdau;
(b)ar gyfer gweinyddu priodas neu ffurfio partneriaeth sifil;
(c)i ddarlledu (heb gynulleidfa) weithred addoli, angladd neu weinyddiad priodas neu ffurfiad partneriaeth sifil (pa un ai dros y rhyngrwyd neu fel rhan o ddarllediad radio neu deledu);
(d)i ddarparu gwasanaethau gwirfoddol hanfodol;
(e)i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus ar gais Gweinidogion Cymru neu awdurdod lleol.
(3) Caiff canolfan gymunedol fod ar agor—
(a)i ddarparu gwasanaethau gwirfoddol hanfodol, neu
(b)i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus ar gais Gweinidogion Cymru neu awdurdod lleol.
(4) Caiff amlosgfa agor i aelodau’r cyhoedd ar gyfer angladdau neu gladdu (ac i ddarlledu angladd neu gladdu pa un ai dros y rhyngrwyd neu fel arall).
(5) Ond nid yw paragraff (1) yn gymwys i’r tir o amgylch amlosgfa, gan gynnwys unrhyw gladdfa neu ardd goffa.
(6) Yn y rheoliad hwn, mae “gwasanaethau cyhoeddus” yn cynnwys darparu banciau bwyd neu gymorth arall ar gyfer pobl ddigartref neu bobl hyglwyf, gofal plant, sesiynau rhoi gwaed neu gymorth mewn argyfwng.
15.—(1) Er gwaethaf darpariaethau blaenorol y Rhan hon, caiff mangreoedd a weithredir gan fusnesau neu wasanaethau a restrir yn Rhan 3 o Atodlen 1 barhau i fod ar agor.
(2) A chaiff canolfannau siopa, arcedau siopa a marchnadoedd fod ar agor i’r cyhoedd i’r graddau y mae hyn yn ofynnol i gael gafael ar fusnes neu wasanaeth a restrir yn Rhan 3 o Atodlen 1.
(3) Ond ni chaiff person sy’n gyfrifol am fangre sydd wedi ei hawdurdodi ar gyfer gwerthu neu gyflenwi alcohol i’w yfed oddi ar y fangre werthu na chyflenwi alcohol rhwng 10.00 p.m. a 6.00 a.m.
(4) Nid yw paragraff (3) yn caniatáu i’r person sy’n gyfrifol am y fangre werthu na chyflenwi alcohol, yn groes i awdurdodiad a ganiateir neu a roddir mewn cysylltiad â’r fangre.
16.—(1) Pan—
(a)bo’n ofynnol i berson sy’n gyfrifol am gynnal busnes (“busnes A”), yn rhinwedd rheoliad 11(1), 12(1) neu 13(1), beidio â chynnal busnes A mewn mangre, a
(b)bo busnes A yn ffurfio rhan o fusnes mwy (“busnes B”),
cydymffurfir â’r gofyniad yn rheoliad 11(1), 12(1) neu 13(1) os yw’r person sy’n gyfrifol am gynnal busnes B yn peidio â chynnal busnes A yn y fangre.
(2) Felly er mwyn osgoi amheuaeth, pan—
(a)caiff mangre a weithredir gan fusnes neu wasanaeth barhau i fod ar agor yn rhinwedd rheoliad 15(1), a
(b)bo’r busnes hwnnw neu’r gwasanaeth hwnnw yn ffurfio rhan o ymgymeriad mwy sy’n cynnwys cynnal busnes neu wasanaeth arall yn yr un fangre,
rhaid i’r person sy’n gyfrifol am y busnes arall hwnnw neu’r gwasanaeth arall hwnnw beidio â’i gynnal os yw’n ofynnol iddo wneud hynny yn rhinwedd rheoliad 11(1), 12(1) neu 13(1).
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Geographical Extent: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.
Show Timeline of Changes: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: