RHAN 3LL+CCyfyngiadau ar fusnesau a gwasanaethau y mae eu mangreoedd fel arfer ar agor i’r cyhoedd

PENNOD 1LL+CTrosolwg

Cyfeiriadau at “mangre” a throsolwgLL+C

10.—(1Yn y Rhan hon, mae cyfeiriadau at “mangre” yn gyfeiriadau at fangre busnes neu wasanaeth—

(a)sydd yng Nghymru, a

(b)y mae gan y cyhoedd fynediad iddi neu y caniateir i’r cyhoedd gael mynediad iddi, pa un ai drwy dalu neu fel arall.

(2Mae Pennod 2 yn gwneud darpariaeth ynghylch busnesau neu wasanaethau y mae rhaid i’w mangreoedd gau.

(3Mae Pennod 3 yn gwneud darpariaeth ynghylch busnesau neu wasanaethau y mae rhaid i’w mangreoedd gau ond y caniateir mynediad cyfyngedig iddynt.

(4Mae Pennod 4 yn gwneud darpariaeth ynghylch busnesau neu wasanaethau y caiff eu mangreoedd barhau i fod ar agor.

(5Gweler rheoliad 17 am ddarpariaeth bellach ynghylch mangreoedd a gaiff barhau i fod ar agor neu a gaeir ond y caniateir mynediad cyfyngedig iddynt yn unol â’r Rhan hon.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Rhl. 10 mewn grym ar 23.10.2020 am 6.00 p.m., gweler rhl. 1(3)

PENNOD 2LL+CBusnesau a gwasanaethau y mae rhaid i’w mangreoedd gau

Cau mangreoedd a ddefnyddir gan fusnesau a gwasanaethau penodolLL+C

11.—(1O ran person sy’n gyfrifol am gynnal busnes neu ddarparu gwasanaeth a restrir yn Rhan 1 o Atodlen 1—

(a)rhaid iddo gau i aelodau’r cyhoedd unrhyw fangre a weithredir fel rhan o’r busnes neu’r gwasanaeth, a

(b)ni chaiff gynnal y busnes neu’r gwasanaeth yn y fangre honno ac eithrio yn unol â’r rheoliad hwn.

(2Nid yw paragraff (1) yn atal—

(a)gwneud gwaith cynnal a chadw ac atgyweirio neu waith arall i sicrhau bod mangre yn addas i’w defnyddio pan na fydd paragraff (1) yn gymwys i’r fangre mwyach;

(b)defnyddio mangre at unrhyw ddiben y mae Gweinidogion Cymru neu awdurdod lleol yn gofyn amdano neu’n ei awdurdodi;

(c)defnyddio mangre i ddarlledu heb gynulleidfa yn bresennol yn y fangre (pa un ai dros y rhyngrwyd neu fel rhan o ddarllediad radio neu deledu);

(d)defnyddio mangre ar gyfer darparu gwasanaethau neu wybodaeth (gan gynnwys gwerthu, llogi neu ddanfon nwyddau neu wasanaethau)—

(i)drwy wefan, neu fel arall drwy gyfathrebiad ar lein,

(ii)dros y ffôn, gan gynnwys drwy neges destun, neu

(iii)drwy’r post.

Gwybodaeth Cychwyn

I2Rhl. 11 mewn grym ar 23.10.2020 am 6.00 p.m., gweler rhl. 1(3)

PENNOD 3LL+CBusnesau a gwasanaethau y mae rhaid cau eu mangreoedd ond y caniateir mynediad cyfyngedig iddynt

Cau bariau a bwytai etc.LL+C

12.—(1O ran person sy’n gyfrifol am gynnal busnes a restrir ym mharagraffau 22 i 25 o Atodlen 1—

(a)rhaid iddo gau i aelodau’r cyhoedd unrhyw fangre a weithredir fel rhan o’r busnes, a

(b)ni chaiff gynnal busnes yn y fangre honno ac eithrio yn unol â’r rheoliad hwn.

(2Nid yw paragraff (1) yn atal—

(a)defnyddio mangre ar gyfer—

(i)gwerthu bwyd a diod i’w fwyta neu i’w hyfed oddi ar y fangre, neu

(ii)gwasanaethau sy’n darparu bwyd neu ddiod i bobl ddigartref;

(b)darparu gwasanaeth ystafell mewn gwesty neu lety arall (pan fo’r gwesty neu’r llety arall yn parhau i weithredu yn unol â’r eithriadau cyfyngedig a ganiateir gan reoliad 13);

(c)ffreutur yn y gweithle rhag bod ar agor pan na fo dewis ymarferol arall i staff yn y gweithle hwnnw gael bwyd;

(d)gwneud gwaith cynnal a chadw ac atgyweirio neu waith arall i sicrhau bod mangre yn addas i’w defnyddio pan na fydd paragraff (1) yn gymwys i’r fangre mwyach.

(3At ddibenion paragraff (1), mae ardal o dan do sy’n gyfagos i fangre’r busnes lle y mae seddau yn cael eu rhoi ar gael i gwsmeriaid y busnes (pa un ai gan y busnes ai peidio) i’w thrin fel rhan o fangre’r busnes hwnnw.

Gwybodaeth Cychwyn

I3Rhl. 12 mewn grym ar 23.10.2020 am 6.00 p.m., gweler rhl. 1(3)

Cau llety gwyliauLL+C

13.—(1O ran person sy’n gyfrifol am gynnal busnes a restrir ym mharagraffau 26 i 29 o Atodlen 1—

(a)rhaid iddo gau i aelodau’r cyhoedd unrhyw fangre a weithredir fel rhan o’r busnes, a

(b)ni chaiff gynnal busnes yn y fangre honno ac eithrio yn unol â’r rheoliad hwn.

(2Nid yw paragraff (1) yn atal—

(a)defnyddio mangre at unrhyw ddiben y mae Gweinidogion Cymru neu awdurdod lleol yn gofyn amdano neu’n ei awdurdodi;

(b)darparu llety ar gyfer unrhyw bersonau sy’n aros yn y llety hwnnw pan ddaw’r Rheoliadau hyn i rym ac—

(i)nad ydynt yn gallu dychwelyd i’w prif breswylfa, neu

(ii)sy’n defnyddio’r llety fel eu prif breswylfa;

(c)defnyddio mangre i gynnal y busnes drwy ddarparu gwybodaeth neu wasanaethau eraill—

(i)drwy wefan, neu fel arall drwy gyfathrebiad ar lein,

(ii)dros y ffôn, gan gynnwys ymholiadau drwy neges destun, neu

(iii)drwy’r post;

(d)gwneud gwaith cynnal a chadw ac atgyweirio neu waith arall i sicrhau bod mangre yn addas i’w defnyddio pan nad yw paragraff (1) yn gymwys mwyach i’r fangre.

Gwybodaeth Cychwyn

I4Rhl. 13 mewn grym ar 23.10.2020 am 6.00 p.m., gweler rhl. 1(3)

Cau addoldai, canolfannau cymunedol ac amlosgfeyddLL+C

14.—(1Rhaid i berson sy’n gyfrifol am fangre o fath a restrir ym mharagraffau 30 i 32 o Atodlen 1 sicrhau bod y fangre ar gau i aelodau’r cyhoedd, ac eithrio ar gyfer y defnydd a ganiateir gan baragraffau (2), (3) a (4).

(2Caiff addoldy fod ar agor—

(a)ar gyfer angladdau;

(b)ar gyfer gweinyddu priodas neu ffurfio partneriaeth sifil;

(c)i ddarlledu (heb gynulleidfa) weithred addoli, angladd neu weinyddiad priodas neu ffurfiad partneriaeth sifil (pa un ai dros y rhyngrwyd neu fel rhan o ddarllediad radio neu deledu);

(d)i ddarparu gwasanaethau gwirfoddol hanfodol;

(e)i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus ar gais Gweinidogion Cymru neu awdurdod lleol.

(3Caiff canolfan gymunedol fod ar agor—

(a)i ddarparu gwasanaethau gwirfoddol hanfodol, neu

(b)i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus ar gais Gweinidogion Cymru neu awdurdod lleol.

(4Caiff amlosgfa agor i aelodau’r cyhoedd ar gyfer angladdau neu gladdu (ac i ddarlledu angladd neu gladdu pa un ai dros y rhyngrwyd neu fel arall).

(5Ond nid yw paragraff (1) yn gymwys i’r tir o amgylch amlosgfa, gan gynnwys unrhyw gladdfa neu ardd goffa.

(6Yn y rheoliad hwn, mae “gwasanaethau cyhoeddus” yn cynnwys darparu banciau bwyd neu gymorth arall ar gyfer pobl ddigartref neu bobl hyglwyf, gofal plant, sesiynau rhoi gwaed neu gymorth mewn argyfwng.

Gwybodaeth Cychwyn

I5Rhl. 14 mewn grym ar 23.10.2020 am 6.00 p.m., gweler rhl. 1(3)

PENNOD 4LL+CBusnesau a gwasanaethau y caiff eu mangreoedd fod ar agor

Mangreoedd agoredLL+C

15.—(1Er gwaethaf darpariaethau blaenorol y Rhan hon, caiff mangreoedd a weithredir gan fusnesau neu wasanaethau a restrir yn Rhan 3 o Atodlen 1 barhau i fod ar agor.

(2A chaiff canolfannau siopa, arcedau siopa a marchnadoedd fod ar agor i’r cyhoedd i’r graddau y mae hyn yn ofynnol i gael gafael ar fusnes neu wasanaeth a restrir yn Rhan 3 o Atodlen 1.

(3Ond ni chaiff person sy’n gyfrifol am fangre sydd wedi ei hawdurdodi ar gyfer gwerthu neu gyflenwi alcohol i’w yfed oddi ar y fangre werthu na chyflenwi alcohol rhwng 10.00 p.m. a 6.00 a.m.

(4Nid yw paragraff (3) yn caniatáu i’r person sy’n gyfrifol am y fangre werthu na chyflenwi alcohol, yn groes i awdurdodiad a ganiateir neu a roddir mewn cysylltiad â’r fangre.

Gwybodaeth Cychwyn

I6Rhl. 15 mewn grym ar 23.10.2020 am 6.00 p.m., gweler rhl. 1(3)