RHAN 4Lleihau’r risg o ddod i gysylltiad â’r coronafeirws
Gofyniad i gymryd mesurau ataliol mewn mangre reoleiddiedig i leihau risgI417
1
At ddibenion paragraff (2)—
a
ystyr “mangre reoleiddiedig” yw—
i
mangre y caniateir i’r cyhoedd gael mynediad iddi yn rhinwedd rheoliad 11(2), 12(2), 13(2) neu 14(2), (3) neu (4);
ii
mangre busnes neu wasanaeth a gaiff barhau i fod ar agor yn rhinwedd rheoliad 15;
iii
cerbyd a ddefnyddir i ddarparu gwasanaeth trafnidiaeth gyhoeddus;
iv
mangre arall lle y mae gwaith yn cael ei wneud, a
b
ystyr y “person cyfrifol” yw—
i
mewn perthynas â mangre reoleiddiedig y cyfeirir ati yn is-baragraff (a)(i), (ii) neu (iii), y person sy’n gyfrifol am y fangre,
ii
mewn perthynas â mangre reoleiddiedig o’r math y cyfeirir ato yn is-baragraff (a)(iv), y person sy’n gyfrifol am y gwaith sy’n cael ei wneud yn y fangre.
2
At ddibenion lleihau’r risg o ddod i gysylltiad â’r coronafeirws mewn mangre reoleiddiedig, neu ledaenu’r coronafeirws gan y rheini sydd wedi bod mewn mangre reoleiddiedig, rhaid i’r person cyfrifol—
a
cymryd pob mesur rhesymol i sicrhau—
i
y cynhelir pellter o 2 fetr rhwng unrhyw bersonau yn y fangre (ac eithrio rhwng dau aelod o’r un aelwyd, neu rhwng gofalwr a’r person sy’n cael ei gynorthwyo gan y gofalwr);
ii
pan fo’n ofynnol i bersonau aros i fynd i’r fangre, y cynhelir pellter o 2 fetr rhyngddynt (ac eithrio rhwng dau aelod o’r un aelwyd, neu rhwng gofalwr a’r person sy’n cael ei gynorthwyo gan y gofalwr),
b
cymryd unrhyw fesurau rhesymol eraill at y diben hwnnw, er enghraifft mesurau sy’n cyfyngu ar ryngweithio agos wyneb yn wyneb ac yn cynnal hylendid megis—
i
newid trefn mangre gan gynnwys lleoliad dodrefn a gweithfannau;
ii
rheoli’r defnydd o fynedfeydd, tramwyfeydd, grisiau a lifftiau;
iii
rheoli’r defnydd o gyfleusterau a rennir megis toiledau a cheginau;
iv
rheoli’r defnydd o unrhyw ran arall o’r fangre neu fynediad iddi fel arall;
v
gosod rhwystrau neu sgriniau;
vi
darparu, neu’n ei gwneud yn ofynnol defnyddio, cyfarpar diogelu personol, ac
c
darparu gwybodaeth i’r rheini sy’n mynd i’r fangre neu’n gweithio ynddi ynglŷn â sut i leihau’r risg o ddod i gysylltiad â’r coronafeirws.
3
Mae mesurau y gellir eu cymryd o dan baragraff (2) hefyd yn cynnwys—
a
peidio â gwneud gweithgareddau penodol;
b
cau rhan o’r fangre;
c
caniatáu a galluogi i berson sydd fel arfer yn gweithio yn y fangre ynysu am gyfnod penodedig oherwydd profi’n bositif am y coronafeirws neu am ei fod wedi dod i gysylltiad agos â rhywun sydd wedi profi’n bositif, pan ofynnwyd i’r person hwnnw wneud hynny gan—
i
Gweinidogion Cymru;
ii
swyddog iechyd cyhoeddus;
iii
swyddog i Fwrdd Iechyd lleol;
iv
person sydd wedi ei ddynodi gan awdurdod lleol at ddibenion cysylltu â phersonau a all fod wedi dod i gysylltiad â’r coronafeirws;
d
casglu gwybodaeth gyswllt oddi wrth bob person yn y fangre neu, mewn perthynas â phersonau o’r un aelwyd, oddi wrth un ohonynt, a’i chadw am 21 o ddiwrnodau at ddiben ei darparu i unrhyw un o’r canlynol, ar eu cais neu ar ei gais—
i
Gweinidogion Cymru,
ii
swyddog iechyd cyhoeddus,
iii
person sydd wedi ei ddynodi gan awdurdod lleol i brosesu gwybodaeth at ddibenion cysylltu â phersonau a all fod wedi dod i gysylltiad â’r coronafeirws.
4
Yn y rheoliad hwn—
a
ystyr “gwybodaeth gyswllt”, mewn perthynas â pherson yn y fangre, yw enw’r person a gwybodaeth sy’n ddigonol i allu cysylltu â’r person, i roi gwybod iddo y gall fod wedi dod i gysylltiad â’r coronafeirws yn y fangre (gan gynnwys rhif ffôn a’r dyddiad a’r amser yr oedd y person yn y fangre);
b
mae i “swyddog iechyd cyhoeddus” yr un ystyr ag a roddir i “public health officer” ym mharagraff 3(2)(c) o Atodlen 21 i Ddeddf y Coronafeirws 20208;
c
mae i “Bwrdd Iechyd Lleol” yr ystyr a roddir i “Local Health Board” gan adran 11 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 20069.
Gofyniad i wisgo gorchudd wyneb ar drafnidiaeth gyhoeddusI218
1
Rhaid i berson (“P”) sy’n teithio fel teithiwr mewn cerbyd a ddefnyddir i ddarparu gwasanaeth trafnidiaeth gyhoeddus wisgo gorchudd wyneb.
2
Ond nid yw hyn yn ofynnol—
a
pan fo esemptiad yn gymwys o dan baragraff (3);
b
pan fo gan P esgus rhesymol dros beidio â gwisgo gorchudd wyneb, ac o ran hynny gweler paragraff (4).
3
Mae esemptiad i’r gofyniad i wisgo gorchudd wyneb yn gymwys—
a
pan fo P yn blentyn o dan 11 oed;
b
mewn cerbyd sy’n darparu gwasanaeth cludiant i’r ysgol;
c
ar fferi—
i
pan fo’r rhan o’r fferi sydd ar agor i deithwyr yn yr awyr agored yn gyfan gwbl, neu
ii
pan ellir cynnal pellter o 2 fetr o leiaf rhwng personau ar y rhan o’r fferi sydd ar agor i deithwyr;
d
ar long fordeithio;
e
pan ddyrennir caban, man cysgu neu lety tebyg arall i P yn y cerbyd, ar unrhyw adeg pan yw P yn y llety hwnnw—
i
ar ei ben ei hunan, neu
ii
gydag aelodau o aelwyd P neu ofalwr i aelod o’r aelwyd yn unig;
f
pan—
i
caniateir i P, neu pan fo’n ofynnol fel arfer i P, fynd i gerbyd ac aros ynddo wrth ddefnyddio’r gwasanaeth trafnidiaeth gyhoeddus,
ii
na fo’r cerbyd ei hunan yn cael ei ddefnyddio ar gyfer darparu gwasanaeth trafnidiaeth gyhoeddus, a
iii
bo P yn aros yn y cerbyd hwnnw;
g
ar gerbyd awyr na chychwynnodd o fan yng Nghymru, nac sydd i lanio mewn man yng Nghymru;
h
ar lestr nad yw’n docio mewn porthladd yng Nghymru.
4
Mae’r amgylchiadau pan fo gan P esgus rhesymol dros beidio â gwisgo gorchudd wyneb yn cynnwys—
a
pan na fo P yn gallu rhoi gorchudd am ei wyneb, neu wisgo neu dynnu gorchudd wyneb, oherwydd salwch neu nam corfforol neu feddyliol, neu anabledd (o fewn yr ystyr a roddir i “disability” yn adran 6 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010);
b
pan fo P yn gorfod tynnu’r gorchudd wyneb er mwyn cyfathrebu â pherson arall sy’n cael anhawster i gyfathrebu (mewn perthynas â lleferydd, iaith neu fel arall);
c
pan fo P yn gorfod tynnu’r gorchudd wyneb er mwyn osgoi niwed neu anaf, neu’r risg o niwed neu anaf, i P ei hunan neu i eraill;
d
pan fo P yn teithio i osgoi anaf, neu i ddianc rhag risg o niwed, ac nad oes gan P orchudd wyneb;
e
pan fo P yn gorfod tynnu’r gorchudd wyneb i—
i
cymryd meddyginiaeth;
ii
bwyta neu yfed, os caniateir gwneud hyn yn y cerbyd a bod hynny’n rhesymol angenrheidiol (er enghraifft oherwydd hyd y daith);
f
pan ofynnir i P dynnu’r gorchudd wyneb gan—
i
swyddog gorfodaeth, neu
ii
gweithredwr y gwasanaeth trafnidiaeth gyhoeddus, cyflogai i’r gweithredwr neu berson sydd wedi ei awdurdodi gan y gweithredwr.
5
Rhaid i weithredwr gwasanaeth trafnidiaeth gyhoeddus y mae paragraff (1) yn gymwys iddo ddarparu gwybodaeth i deithwyr am y gofyniad i wisgo gorchuddion wyneb yn ei gerbydau.
6
At ddibenion y rheoliad hwn ystyr “gwasanaeth cludiant i’r ysgol” yw unrhyw gludiant nad yw ond yn cael ei ddarparu at ddiben—
a
cludo person i’r ysgol ac o’r ysgol neu’r man arall y mae’r person yn cael addysg neu hyfforddiant ynddo, neu
b
hwyluso fel arall bresenoldeb person mewn ysgol neu fan arall y mae’r person yn cael addysg neu hyfforddiant ynddo.
Gofyniad i wisgo gorchudd wyneb mewn mannau cyhoeddus penodol o dan doI119
1
Rhaid i berson (“P”) wisgo gorchudd wyneb yn ardaloedd cyhoeddus o dan do mangreoedd y mae gan y cyhoedd fynediad iddynt neu y caniateir i’r cyhoedd gael mynediad iddynt, pa un ai drwy dalu neu fel arall.
2
Ond nid yw hyn yn ofynnol—
a
pan fo P yn blentyn o dan 11 oed;
b
pan fo gan P esgus rhesymol dros beidio â gwisgo gorchudd wyneb, ac o ran hynny gweler paragraff (3).
3
Mae’r amgylchiadau pan fo gan P esgus rhesymol dros beidio â gwisgo gorchudd wyneb yn cynnwys—
a
pan na fo P yn gallu rhoi gorchudd am ei wyneb, neu wisgo neu dynnu gorchudd wyneb, oherwydd salwch neu nam corfforol neu feddyliol, neu anabledd (o fewn yr ystyr a roddir i “disability” yn adran 6 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010);
b
pan fo P yn ymgymryd â gweithgaredd ac y gellir ystyried yn rhesymol fod gwisgo gorchudd wyneb yn ystod y gweithgaredd hwnnw yn peri risg i iechyd P;
c
pan fo P yn gorfod tynnu’r gorchudd wyneb i gyfathrebu â pherson arall sy’n cael anhawster i gyfathrebu (mewn perthynas â lleferydd, iaith neu fel arall);
d
pan fo P yn gorfod tynnu’r gorchudd wyneb er mwyn osgoi niwed neu anaf, neu’r risg o niwed neu anaf, i P ei hunan neu i eraill;
e
pan fo P yn y fangre i osgoi anaf, neu i ddianc rhag risg o niwed, ac nad oes gan P orchudd wyneb;
f
pan fo P yn gorfod tynnu’r gorchudd wyneb i—
i
cymryd meddyginiaeth;
ii
bwyta neu yfed, pan fo’n rhesymol angenrheidiol;
g
pan ofynnir i P dynnu’r gorchudd wyneb gan swyddog gorfodaeth.
Canllawiau ar leihau dod i gysylltiad â’r coronafeirwsI320
1
Rhaid i berson y mae’n ofynnol iddo gymryd mesurau rhesymol o dan reoliad 17(2) roi sylw i ganllawiau a ddyroddir gan Weinidogion Cymru ynghylch y mesurau hynny.
2
Rhaid i weithredwr gwasanaeth trafnidiaeth gyhoeddus y mae rheoliad 18 yn gymwys iddo roi sylw i ganllawiau a ddyroddir gan Weinidogion Cymru ynghylch—
a
y gofyniad i wisgo gorchudd wyneb yn unol â pharagraffau (1) i (4) o reoliad 18 a gorfodi’r gofyniad hwnnw o dan reoliad 25;
b
darparu gwybodaeth i deithwyr yn unol â pharagraff (5) o reoliad 18.
3
O ran Gweinidogion Cymru——
b
rhaid iddynt gyhoeddi’r canllawiau (ac unrhyw ddiwygiadau).
4
Caiff canllawiau o dan y rheoliad hwn gynnwys (drwy gyfeirio neu drosi) ganllawiau, codau ymarfer neu ddogfennau eraill a gyhoeddir gan berson arall (er enghraifft, cymdeithas fasnach, corff sy’n cynrychioli aelodau o ddiwydiant neu undeb llafur).