xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
17.—(1) At ddibenion paragraff (2)—
(a)ystyr “mangre reoleiddiedig” yw—
(i)mangre y caniateir i’r cyhoedd gael mynediad iddi yn rhinwedd rheoliad 11(2), 12(2), 13(2) neu 14(2), (3) neu (4);
(ii)mangre busnes neu wasanaeth a gaiff barhau i fod ar agor yn rhinwedd rheoliad 15;
(iii)cerbyd a ddefnyddir i ddarparu gwasanaeth trafnidiaeth gyhoeddus;
(iv)mangre arall lle y mae gwaith yn cael ei wneud, a
(b)ystyr y “person cyfrifol” yw—
(i)mewn perthynas â mangre reoleiddiedig y cyfeirir ati yn is-baragraff (a)(i), (ii) neu (iii), y person sy’n gyfrifol am y fangre,
(ii)mewn perthynas â mangre reoleiddiedig o’r math y cyfeirir ato yn is-baragraff (a)(iv), y person sy’n gyfrifol am y gwaith sy’n cael ei wneud yn y fangre.
(2) At ddibenion lleihau’r risg o ddod i gysylltiad â’r coronafeirws mewn mangre reoleiddiedig, neu ledaenu’r coronafeirws gan y rheini sydd wedi bod mewn mangre reoleiddiedig, rhaid i’r person cyfrifol—
(a)cymryd pob mesur rhesymol i sicrhau—
(i)y cynhelir pellter o 2 fetr rhwng unrhyw bersonau yn y fangre (ac eithrio rhwng dau aelod o’r un aelwyd, neu rhwng gofalwr a’r person sy’n cael ei gynorthwyo gan y gofalwr);
(ii)pan fo’n ofynnol i bersonau aros i fynd i’r fangre, y cynhelir pellter o 2 fetr rhyngddynt (ac eithrio rhwng dau aelod o’r un aelwyd, neu rhwng gofalwr a’r person sy’n cael ei gynorthwyo gan y gofalwr),
(b)cymryd unrhyw fesurau rhesymol eraill at y diben hwnnw, er enghraifft mesurau sy’n cyfyngu ar ryngweithio agos wyneb yn wyneb ac yn cynnal hylendid megis—
(i)newid trefn mangre gan gynnwys lleoliad dodrefn a gweithfannau;
(ii)rheoli’r defnydd o fynedfeydd, tramwyfeydd, grisiau a lifftiau;
(iii)rheoli’r defnydd o gyfleusterau a rennir megis toiledau a cheginau;
(iv)rheoli’r defnydd o unrhyw ran arall o’r fangre neu fynediad iddi fel arall;
(v)gosod rhwystrau neu sgriniau;
(vi)darparu, neu’n ei gwneud yn ofynnol defnyddio, cyfarpar diogelu personol, ac
(c)darparu gwybodaeth i’r rheini sy’n mynd i’r fangre neu’n gweithio ynddi ynglŷn â sut i leihau’r risg o ddod i gysylltiad â’r coronafeirws.
(3) Mae mesurau y gellir eu cymryd o dan baragraff (2) hefyd yn cynnwys—
(a)peidio â gwneud gweithgareddau penodol;
(b)cau rhan o’r fangre;
(c)caniatáu a galluogi i berson sydd fel arfer yn gweithio yn y fangre ynysu am gyfnod penodedig oherwydd profi’n bositif am y coronafeirws neu am ei fod wedi dod i gysylltiad agos â rhywun sydd wedi profi’n bositif, pan ofynnwyd i’r person hwnnw wneud hynny gan—
(i)Gweinidogion Cymru;
(ii)swyddog iechyd cyhoeddus;
(iii)swyddog i Fwrdd Iechyd lleol;
(iv)person sydd wedi ei ddynodi gan awdurdod lleol at ddibenion cysylltu â phersonau a all fod wedi dod i gysylltiad â’r coronafeirws;
(d)casglu gwybodaeth gyswllt oddi wrth bob person yn y fangre neu, mewn perthynas â phersonau o’r un aelwyd, oddi wrth un ohonynt, a’i chadw am 21 o ddiwrnodau at ddiben ei darparu i unrhyw un o’r canlynol, ar eu cais neu ar ei gais—
(i)Gweinidogion Cymru,
(ii)swyddog iechyd cyhoeddus,
(iii)person sydd wedi ei ddynodi gan awdurdod lleol i brosesu gwybodaeth at ddibenion cysylltu â phersonau a all fod wedi dod i gysylltiad â’r coronafeirws.
(4) Yn y rheoliad hwn—
(a)ystyr “gwybodaeth gyswllt”, mewn perthynas â pherson yn y fangre, yw enw’r person a gwybodaeth sy’n ddigonol i allu cysylltu â’r person, i roi gwybod iddo y gall fod wedi dod i gysylltiad â’r coronafeirws yn y fangre (gan gynnwys rhif ffôn a’r dyddiad a’r amser yr oedd y person yn y fangre);
(b)mae i “swyddog iechyd cyhoeddus” yr un ystyr ag a roddir i “public health officer” ym mharagraff 3(2)(c) o Atodlen 21 i Ddeddf y Coronafeirws 2020(1);
(c)mae i “Bwrdd Iechyd Lleol” yr ystyr a roddir i “Local Health Board” gan adran 11 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006(2).