- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
3.—(1) Ni chaiff unrhyw berson yng Nghymru, heb esgus rhesymol, ymadael â’r man lle y mae’n byw neu aros i ffwrdd o’r man hwnnw.
(2) Mae esgus rhesymol yn cynnwys yr angen i wneud y canlynol—
(a)cael cyflenwadau oddi wrth unrhyw fusnes neu wasanaeth a restrir yn Rhan 3 o Atodlen 1 gan gynnwys—
(i)bwyd a chyflenwadau meddygol ar gyfer y rheini ar yr un aelwyd (gan gynnwys anifeiliaid ar yr aelwyd) neu ar gyfer personau hyglwyf;
(ii)cyflenwadau ar gyfer cynnal, cynnal a chadw a gweithrediad hanfodol yr aelwyd, neu aelwyd person hyglwyf;
(b)ceisio neu ddarparu cynhorthwy meddygol, gan gynnwys cael gafael ar unrhyw un neu ragor o’r gwasanaethau y cyfeirir atynt ym mharagraff 47 o Ran 3 o Atodlen 1 neu gael gafael ar wasanaethau milfeddygol;
(c)darparu, cael neu gael gafael ar ofal neu gynhorthwy, gan gynnwys gofal plant neu ofal personol perthnasol o fewn ystyr “relevant personal care” ym mharagraff 7(3B) o Atodlen 4 i Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006(1), pan fo’r person sy’n cael y gofal yn berson hyglwyf;
(d)gweithio neu ddarparu gwasanaethau gwirfoddol neu elusennol, pan na fo’n rhesymol ymarferol gwneud hynny gartref;
(e)pan fo’r person yn athletwr elît, hyfforddi ar gyfer digwyddiad chwaraeon penodedig, paratoi ato a chystadlu ynddo;
(f)darparu hyfforddiant neu gymorth arall i athletwr elît mewn cysylltiad â digwyddiad chwaraeon penodedig;
(g)gwasanaethu fel swyddog mewn digwyddiad chwaraeon penodedig neu fel arall ymwneud â’i redeg;
(h)gwneud ymarfer corff, naill ai—
(i)ar ei ben ei hun,
(ii)gydag aelodau eraill o aelwyd y person, neu
(iii)gyda gofalwr y person;
(i)darparu neu gael cynhorthwy brys;
(j)mynd i weinyddiad priodas neu ffurfiad partneriaeth sifil—
(i)fel parti i’r briodas neu’r bartneriaeth sifil,
(ii)os caiff ei wahodd i fynd iddi, neu
(iii)fel gofalwr person sy’n mynd i’r briodas neu’r bartneriaeth sifil.
(k)mynd i angladd—
(i)fel person sy’n gyfrifol am drefnu’r angladd,
(ii)os caiff ei wahodd gan berson sy’n gyfrifol am drefnu’r angladd, neu
(iii)fel gofalwr person sy’n mynd i’r angladd;
(l)cyflawni rhwymedigaeth gyfreithiol, gan gynnwys mynd i’r llys neu fodloni amodau mechnïaeth, neu gymryd rhan mewn achos cyfreithiol;
(m)cael gafael ar wasanaethau cyhoeddus neu gael y gwasanaethau hynny;
(n)cael gafael ar wasanaethau addysgol neu gael y gwasanaethau hynny, yn ddarostyngedig i reoliadau 6 a 7;
(o)mewn perthynas â phlant nad ydynt yn byw ar yr un aelwyd â’u rhieni, neu un o’u rhieni, parhau â threfniadau presennol ar gyfer gweld rhieni a phlant, a chyswllt rhyngddynt, ac at ddibenion y paragraff hwn, mae “rhiant” yn cynnwys person nad yw’n rhiant i’r plentyn, ond sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn neu sydd â gofal drosto;
(p)cael arian oddi wrth unrhyw fusnes neu wasanaeth a restrir ym mharagraff 44 neu 45 o Ran 3 o Atodlen 1 neu adneuo arian gydag unrhyw fusnes neu wasanaeth o’r fath;
(q)symud cartref;
(r)paratoi eiddo preswyl i bersonau symud i mewn;
(s)osgoi anaf neu salwch neu ddianc rhag risg o niwed.
(3) Mae gan berson esgus rhesymol i ymadael â’r man lle y mae’n byw i fynd i ddigwyddiad i gadw Sul y Cofio—
(a)a gynhelir ar 7 neu 8 Tachwedd 2020;
(b)a gynhelir yn yr awyr agored;
(c)a chanddo ddim mwy na 30 o bobl yn bresennol.
(4) Ym mharagraff (2)(h)—
(a)rhaid i ymarfer corff ddechrau a gorffen yn y man lle y mae’r person yn byw, neu
(b)pan fo angen i’r person, am resymau salwch neu nam corfforol neu feddyliol, neu anabledd (o fewn yr ystyr a roddir i “disability” yn adran 6 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010(2)), wneud ymarfer corff mewn man arall, rhaid i ymarfer corff ddigwydd mewn ardal sy’n lleol i’r man lle y mae’r person yn byw.
(5) Nid yw paragraff (1) yn gymwys i unrhyw berson sy’n ddigartref.
2006 p. 47. Mewnosodwyd paragraff 7(3B) gan adran 66(2) o Ddeddf Diogelu Rhyddidau 2012 (p. 9).
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: