- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 3) (Cymru) 2020, Adran 31.
Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Ar hyn o bryd mae unrhyw newidiadau neu effeithiau hysbys a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol wedi'u gwneud i destun y ddeddfwriaeth yr ydych yn edrych arni gan y tîm golygyddol. Gweler 'Cwestiynau Cyffredin' am fanylion ynglŷn â'r amserlenni ar gyfer nodi a chofnodi effeithiau newydd ar y safle hwn.
31.—(1) Caiff swyddog gorfodaeth ddyroddi hysbysiad cosb benodedig i unrhyw un y mae’r swyddog yn credu’n rhesymol—
(a)ei fod wedi cyflawni trosedd o dan y Rheoliadau hyn (ac eithrio trosedd o dan reoliad 29(3)(a)), a
(b)ei fod yn 18 oed neu drosodd.
(2) Hysbysiad yw hysbysiad cosb benodedig sy’n cynnig i’r person y’i dyroddir iddo y cyfle i gael ei ryddhau o unrhyw atebolrwydd am euogfarn am y drosedd drwy dalu cosb benodedig i—
(a)awdurdod lleol, neu
(b)person sydd wedi ei ddynodi gan Weinidogion Cymru at ddibenion cael taliad o dan y rheoliad hwn,
a bennir yn yr hysbysiad.
(3) Caiff Gweinidogion Cymru eu dynodi hwy eu hunain o dan baragraff (2)(b).
(4) Mae person sydd wedi ei ddynodi gan Weinidogion Cymru at ddibenion cael taliad o dan reoliad 13 o Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) 2020 neu reoliad 21 o Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) 2020 i’w drin fel pe bai wedi ei ddynodi at ddibenion cael taliad o dan y rheoliad hwn.
(5) Pan fo awdurdod lleol wedi ei bennu yn yr hysbysiad rhaid iddo fod yn awdurdod (neu yn ôl y digwydd, unrhyw un o’r awdurdodau) yr honnir bod y drosedd wedi ei chyflawni yn ei ardal.
(6) Pan ddyroddir hysbysiad i berson o dan y rheoliad hwn mewn cysylltiad â throsedd—
(a)ni chaniateir dwyn unrhyw achos am y drosedd cyn diwedd y cyfnod o 28 o ddiwrnodau ar ôl y dyddiad y dyroddir yr hysbysiad;
(b)ni chaniateir euogfarnu’r person o’r drosedd os yw’r person yn talu’r gosb benodedig cyn diwedd y cyfnod hwnnw.
(7) Rhaid i hysbysiad cosb benodedig—
(a)rhoi manylion rhesymol fanwl am yr amgylchiadau yr honnir eu bod yn ffurfio’r drosedd;
(b)datgan y cyfnod pryd (oherwydd paragraff (6)(a)) na ddygir achos am y drosedd;
(c)pennu swm y gosb benodedig;
(d)datgan enw a chyfeiriad y person y caniateir talu’r gosb benodedig iddo;
(e)pennu dulliau o dalu a ganiateir.
(8) Pan ddyroddir yr hysbysiad mewn cysylltiad â throsedd honedig o dorri rheoliad 9(1), rhaid i’r swm a bennir o dan baragraff (7)(c) fod yn £10,000 (ac nid yw paragraffau (10) ac (11) yn gymwys).
(9) Mewn unrhyw achos arall, rhaid i’r swm a bennir o dan baragraff (7)(c) fod yn £60 (yn ddarostyngedig i baragraffau (10) ac (11)).
(10) Caiff hysbysiad cosb benodedig bennu, os telir £30 cyn diwedd y cyfnod o 14 o ddiwrnodau yn dilyn dyddiad yr hysbysiad, mai dyna swm y gosb benodedig.
(11) Os yw’r person y dyroddir hysbysiad cosb benodedig iddo eisoes wedi cael hysbysiad cosb benodedig o dan y Rheoliadau hyn neu Reoliadau a grybwyllir ym mharagraff (12)—
(a)nid yw paragraff (10) yn gymwys, a
(b)rhaid i’r swm a bennir fel y gosb benodedig fod—
(i)yn achos yr ail hysbysiad cosb benodedig a geir, £120;
(ii)yn achos y trydydd hysbysiad cosb benodedig a geir, £240;
(iii)yn achos y pedwerydd hysbysiad cosb benodedig a geir, £480;
(iv)yn achos y pumed hysbysiad cosb benodedig a geir, £960;
(v)yn achos y chweched hysbysiad cosb benodedig a geir, ac unrhyw hysbysiad cosb benodedig a geir wedi hynny, £1920.
(12) Wrth gyfrifo nifer yr hysbysiadau cosb benodedig y mae person wedi eu cael, mae hysbysiadau cosb benodedig a ddyroddir i’r person hwnnw o dan—
(a)Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) 2020,
(b)Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) 2020, ac
(c)Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Swyddogaethau Awdurdodau Lleol etc.) (Cymru) 2020(1).
i’w hystyried, ond nid oes unrhyw ystyriaeth i’w rhoi i unrhyw hysbysiad cosb benodedig a ddyroddir i’r person hwnnw mewn cysylltiad â throsedd honedig o dorri rheoliad 14B(1) o Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) 2020 neu reoliad 9(1) o’r Rheoliadau hyn.
(13) Beth bynnag y bo unrhyw ddull arall a bennir o dan baragraff (7)(e), caniateir talu cosb benodedig drwy dalu ymlaen llaw a phostio llythyr sy’n cynnwys swm y gosb (mewn arian parod neu fel arall) i’r person y nodir ei enw o dan baragraff (7)(d) i’r cyfeiriad a nodir.
(14) Pan fo llythyr yn cael ei anfon fel y’i crybwyllir ym mharagraff (13), ystyrir bod taliad wedi ei wneud ar yr adeg y byddai’r llythyr hwnnw wedi cael ei ddanfon yn nhrefn arferol y post.
(15) Mewn unrhyw achos, mae tystysgrif—
(a)sy’n honni ei bod wedi ei llofnodi gan neu ar ran y person a chanddo gyfrifoldeb am faterion ariannol—
(i)yr awdurdod lleol, neu
(ii)y person sydd wedi ei ddynodi o dan baragraff (2)(b),
a bennir yn yr hysbysiad cosb benodedig y mae’r achos yn ymwneud ag ef, a
(b)sy’n datgan bod y taliad am gosb benodedig wedi dod i law, neu heb ddod i law, erbyn y dyddiad a bennir yn y dystysgrif,
yn dystiolaeth o’r ffeithiau a nodwyd.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Geographical Extent: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.
Show Timeline of Changes: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: