RHAN 2Cyfyngiadau ar symud ac ymgynnull gydag eraill

Gofyniad i beidio ag ymgynnull gyda phobl eraill

4.—(1Pan na fo person yn y man lle y mae’n byw (yn rhinwedd bod ag esgus rhesymol o dan reoliad 3), ni chaiff y person hwnnw, heb esgus rhesymol, ymgynnull ag unrhyw berson arall ac eithrio—

(a)aelodau o’i aelwyd,

(b)ei ofalwr, neu

(c)person y mae’n darparu gofal iddo.

(2Mae esgus rhesymol yn cynnwys yr angen i wneud y canlynol—

(a)gweithio neu ddarparu gwasanaethau gwirfoddol neu elusennol, pan na fo’n rhesymol ymarferol gwneud hynny heb ymgynnull gydag eraill;

(b)cyflawni rhwymedigaeth gyfreithiol, gan gynnwys mynd i’r llys neu fodloni amodau mechnïaeth, neu gymryd rhan mewn achos cyfreithiol;

(c)cael gafael ar wasanaethau cyhoeddus neu gael y gwasanaethau hynny;

(d)cael gafael ar wasanaethau addysgol neu gael y gwasanaethau hynny, yn ddarostyngedig i reoliadau 6 a 7;

(e)darparu, cael neu gael gafael ar ofal neu gynhorthwy, gan gynnwys gofal plant neu ofal personol perthnasol o fewn ystyr “relevant personal care” ym mharagraff 7(3B) o Atodlen 4 i Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006, pan fo’r person sy’n cael y gofal yn berson hyglwyf;

(f)pan fo’r person yn athletwr elît, hyfforddi ar gyfer digwyddiad chwaraeon penodedig, paratoi ato neu gystadlu ynddo;

(g)darparu hyfforddiant a chymorth arall i athletwr elît mewn cysylltiad â digwyddiad chwaraeon penodedig;

(h)gwasanaethu fel swyddog mewn digwyddiad chwaraeon penodedig neu fel arall ymwneud â’i redeg;

(i)darparu neu gael cynhorthwy brys;

(j)mynd i weinyddiad priodas neu ffurfiad partneriaeth sifil—

(i)fel parti i’r briodas neu’r bartneriaeth sifil,

(ii)os caiff ei wahodd i fynd iddi, neu

(iii)fel gofalwr person sy’n mynd i’r briodas neu’r bartneriaeth sifil;

(k)mynd i angladd—

(i)fel person sy’n gyfrifol am drefnu’r angladd,

(ii)os caiff ei wahodd gan berson sy’n gyfrifol am drefnu’r angladd, neu

(iii)fel gofalwr person sy’n mynd i’r angladd.

(3Mae gan berson hefyd esgus rhesymol dros ymgynnull gyda pherson arall i fynd i ddigwyddiad i gadw Sul y Cofio—

(a)a gynhelir ar 7 neu 8 Tachwedd 2020;

(b)a gynhelir yn yr awyr agored;

(c)a chanddo ddim mwy na 30 o bobl yn bresennol.