ATODLEN 1Busnesau a gwasanaethau y mae eu mangreoedd yn ddarostyngedig i gyfyngiadau neu i’w cau

Rheoliadau 11 i 15

RHAN 1Busnesau neu wasanaethau y mae rhaid cau eu mangreoedd

I11

Unrhyw fusnes sy’n gwerthu nwyddau neu wasanaethau ar gyfer eu gwerthu neu eu hurio mewn siop, gan gynnwys—

a

siopau nwyddau i’r cartref;

b

salonau ewinedd a harddwch;

c

sefydliadau sy’n darparu gwasanaethau lliw haul, gwasanaethau tylino, tyllu’r corff, tatŵio, electrolysis neu aciwbigo;

d

tai arwerthiant;

e

delwriaethau ceir;

f

marchnadoedd;

g

siopau betio;

h

salonau gwallt a barbwyr;

i

canolfannau garddio a meithrinfeydd planhigion.

I22

Canolfannau siopa ac arcedau siopa.

I33

Sinemâu.

I44

Theatrau.

I55

Clybiau nos, disgos, neuaddau dawnsio neu leoliadau eraill lle y darperir cerddoriaeth fyw neu wedi ei recordio i aelodau’r cyhoedd neu aelodau’r lleoliad ddawnsio.

I66

Lleoliadau adloniant rhywiol (o fewn yr ystyr a roddir i “sexual entertainment venue” gan baragraff 2A o Atodlen 3 i Ddeddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 198241).

I77

Neuaddau bingo.

I88

Neuaddau cyngerdd.

I99

Casinos.

I1010

Canolfannau sglefrio.

I1111

Pyllau nofio.

I1212

Canolfannau hamdden a chyfleusterau hamdden gan gynnwys stiwdios ffitrwydd o dan do, campfeydd a sbaon.

I1313

Cyrtiau chwaraeon, parciau sglefrio, lawntiau bowlio, cyrsiau golff a meysydd neu leiniau chwaraeon amgaeedig (boed yn yr awyr agored neu o dan do).

I1414

Alïau bowlio, arcedau diddanu a mannau chwarae o dan do.

I1515

Amgueddfeydd, orielau a gwasanaethau archifau.

I1616

Ffeiriau pleser, parciau diddanu a pharciau thema.

I1717

Atyniadau i ymwelwyr a busnesau gwyliau, gweithgareddau hamdden neu ddigwyddiadau.

I1818

Canolfannau ailgylchu.

I1919

Llyfrgelloedd.

I2020

Asiantau eiddo neu asiantau gosod eiddo, swyddfeydd gwerthiant datblygwyr a chartrefi arddangos.

I2121

Lleoliadau ar gyfer digwyddiadau neu gynadleddau (gan gynnwys lleoliadau ar gyfer priodasau heblaw am fannau addoli a swyddfeydd cofrestru).

RHAN 2Busnesau neu wasanaethau y mae rhaid cau eu mangreoedd ond y caniateir mynediad cyfyngedig iddynt

PENNOD 1Mangreoedd sy’n gwerthu bwyd a diod i’w bwyta ac i’w hyfed yn y fangre

I2222

Bwytai, gan gynnwys bwytai ac ystafelloedd bwyta mewn clybiau aelodau ac ym mangreoedd busnesau a restrir ym Mhennod 2 o’r Rhan hon.

I2323

Caffis, gan gynnwys ffreuturau yn y gweithle a chaffis ym mangreoedd busnesau a restrir ym Mhennod 2 o’r Rhan hon.

I2424

Bariau, gan gynnwys bariau mewn clybiau aelodau ac ym mangreoedd busnesau a restrir ym Mhennod 2 o’r Rhan hon.

I2525

Tafarndai.

PENNOD 2Gwestai a llety gwyliau

I2626

Safleoedd gwyliau.

I2727

Safleoedd gwersylla.

I2828

Gwestai a llety gwely a brecwast.

I2929

Llety gwyliau arall (gan gynnwys fflatiau gwyliau, hostelau a thai byrddio).

PENNOD 3Eraill

I3030

Mannau addoli.

I3131

Canolfannau cymunedol.

I3232

Amlosgfeydd.

RHAN 3Busnesau a gwasanaethau y caniateir i’w mangreoedd fod ar agor

I3333

Manwerthwyr bwyd, gan gynnwys marchnadoedd bwyd, archfarchnadoedd, siopau cyfleustra, siopau cornel a sefydliadau sy’n gwerthu bwyd neu ddiod i’w fwyta neu i’w hyfed oddi ar y fangre (gan gynnwys mangreoedd sydd wedi eu hawdurdodi ar gyfer gwerthu neu gyflenwi alcohol i’w yfed oddi ar y fangre).

I3434

Caffis a ffreuturau mewn ysbyty, cartref gofal, ysgol neu mewn llety a ddarperir ar gyfer myfyrwyr.

I3535

Ffreuturau mewn carchar neu sefydliad y bwriedir iddo gael ei ddefnyddio at ddibenion y llynges, y fyddin neu’r llu awyr neu at ddibenion Adran yr Ysgrifennydd Gwladol sy’n gyfrifol am amddiffyn.

I3636

Llyfrgelloedd ysbytai a llyfrgelloedd mewn sefydliadau addysgol.

I3737

Siopau papurau newydd.

I3838

Siopau cyflenwadau adeiladu ac offer.

I3939

Fferyllfeydd (yn cynnwys fferyllfeydd nad ydynt yn darparu cyffuriau ar bresgripsiwn) a siopau cemist.

I4040

Siopau beiciau.

I4141

Gorsafoedd petrol.

I4242

Gwasanaethau trwsio ceir ac MOT.

I4343

Busnesau tacsi neu logi cerbydau.

I4444

Banciau, cymdeithasau adeiladu, undebau credyd, darparwyr benthyciadau tymor byr, clybiau cynilo, peiriannau arian parod ac ymgymeriadau sydd, o ran eu busnes, yn gweithredu swyddfeydd cyfnewid arian cyfred, yn trawsyrru arian (neu unrhyw gynrychiolaeth o arian) drwy unrhyw ddull neu sieciau arian parod sydd wedi eu gwneud yn daladwy i gwsmeriaid.

I4545

Swyddfeydd post.

I4646

Golchdai a siopau glanhau dillad.

I4747

Gwasanaethau deintyddol, optegwyr, gwasanaethau awdioleg, trin traed, ceiropractyddion, osteopathiaid a gwasanaethau meddygol neu iechyd eraill, gan gynnwys gwasanaethau sy’n ymwneud ag iechyd meddwl.

I4848

Milfeddygon a siopau anifeiliaid anwes.

I4949

Siopau cyflenwadau amaethyddol neu ddyframaethu.

I5050

Marchnadoedd neu arwerthiannau da byw.

I5151

Trefnwyr angladdau.

RHAN 4Dehongli

I5252

1

At ddibenion yr Atodlen hon, ystyr “safle gwyliau” yw unrhyw dir yng Nghymru lle y gosodir cartref symudol neu garafán at ddibenion byw gan bobl (gan gynnwys unrhyw dir yng Nghymru a ddefnyddir ar y cyd â’r tir hwnnw), y mae’r caniatâd cynllunio perthnasol neu’r drwydded safle ar gyfer y tir mewn cysylltiad ag ef—

a

wedi ei fynegi i’w roi neu wedi ei mynegi i’w rhoi at ddefnydd gwyliau yn unig, neu

b

yn ei gwneud yn ofynnol bod adegau o’r flwyddyn pan na chaniateir gosod unrhyw gartref symudol neu garafán ar y safle i bobl fyw ynddo neu ynddi.

2

At ddibenion penderfynu a yw safle yn safle gwyliau ai peidio, mae unrhyw ddarpariaeth yn y caniatâd cynllunio perthnasol neu yn y drwydded safle sy’n caniatáu gosod cartref symudol ar y tir i bobl fyw ynddo drwy gydol y flwyddyn i’w hanwybyddu os yw wedi ei hawdurdodi i’r canlynol feddiannu’r cartref symudol—

a

y person sy’n berchennog ar y safle, neu

b

person sydd wedi ei gyflogi gan y person hwnnw ond nad yw’n meddiannu’r cartref symudol o dan gytundeb y mae Rhan 4 o Ddeddf Cartrefi Symudol (Cymru) 201342 yn gymwys iddo.