xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

ATODLEN 1Busnesau a gwasanaethau y mae eu mangreoedd yn ddarostyngedig i gyfyngiadau neu i’w cau

RHAN 2Busnesau neu wasanaethau y mae rhaid cau eu mangreoedd ond y caniateir mynediad cyfyngedig iddynt

PENNOD 1Mangreoedd sy’n gwerthu bwyd a diod i’w bwyta ac i’w hyfed yn y fangre

22.  Bwytai, gan gynnwys bwytai ac ystafelloedd bwyta mewn clybiau aelodau ac ym mangreoedd busnesau a restrir ym Mhennod 2 o’r Rhan hon.

23.  Caffis, gan gynnwys ffreuturau yn y gweithle a chaffis ym mangreoedd busnesau a restrir ym Mhennod 2 o’r Rhan hon.

24.  Bariau, gan gynnwys bariau mewn clybiau aelodau ac ym mangreoedd busnesau a restrir ym Mhennod 2 o’r Rhan hon.

25.  Tafarndai.

PENNOD 2Gwestai a llety gwyliau

26.  Safleoedd gwyliau.

27.  Safleoedd gwersylla.

28.  Gwestai a llety gwely a brecwast.

29.  Llety gwyliau arall (gan gynnwys fflatiau gwyliau, hostelau a thai byrddio).

PENNOD 3Eraill

30.  Mannau addoli.

31.  Canolfannau cymunedol.

32.  Amlosgfeydd.