2020 Rhif 1191 (Cy. 269)
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 17) 2020
Gwnaed
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru
Yn dod i rym
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adrannau 45B a 45P(2) o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 19841, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.
RHAN 1Cyffredinol
Enwi, dod i rym a dehongliI11
1
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 17) 2020.
2
Daw’r Rheoliadau hyn i rym am 4.00 a.m. ar 1 Tachwedd 2020.
3
Yn y Rheoliadau hyn, ystyr y “Rheoliadau Teithio Rhyngwladol” yw Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) 20202.
RHAN 2Diwygiadau i’r rhestr o wledydd a thiriogaethau esempt yn Atodlen 3 i’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol
Hepgor gwledydd o’r rhestr o wledydd a thiriogaethau esemptI22
Yn Rhan 1 o Atodlen 3 i’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol (gwledydd a thiriogaethau esempt y tu allan i’r ardal deithio gyffredin), hepgorer y cofnodion a ganlyn—
Cyprus
Lithiwania
Darpariaeth drosiannol mewn cysylltiad â rheoliad 2I33
1
Mae paragraff (2) yn gymwys pan fo person (“P”)—
a
yn cyrraedd Cymru am 4:00 a.m. ar 1 Tachwedd 2020 neu wedi hynny, a
b
wedi bod yng Nghyprus neu yn Lithiwania ddiwethaf—
i
o fewn y cyfnod o 14 o ddiwrnodau sy’n dod i ben â’r diwrnod y mae P yn cyrraedd Cymru, a
ii
cyn 4.00 a.m. ar 1 Tachwedd 2020.
2
Mae P, yn rhinwedd y ffaith iddo fod yng Nghyprus neu yn Lithiwania, i’w drin at ddibenion rheoliadau 7(1) ac 8(1) o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol fel pe bai wedi cyrraedd Cymru o wlad neu diriogaeth nad yw’n esempt, neu fel pe bai wedi cyrraedd ar ôl bod mewn gwlad neu diriogaeth o’r fath.
RHAN 3Diwygiadau i’r rhestr o ddigwyddiadau chwaraeon yn Atodlen 4 i’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol
Ychwanegiadau at y rhestr o ddigwyddiadau chwaraeon penodedigI44
1
Mae Atodlen 4 (digwyddiadau chwaraeon penodedig) i’r Rheoliadau Teithio Ryngwladol wedi ei diwygio fel a ganlyn.
2
Ym mharagraff 3, ar y diwedd mewnosoder—
m
Y Gorfforaeth Ddartiau Broffesiynol – Gemau Cymhwyso Pencampwriaeth y Byd PDPA.
3
Ym mharagraff 6, ar y diwedd mewnosoder —
i
Cyfarfod mis Tachwedd, Cheltenham;
j
Churchill Stakes;
k
Lancashire Chase;
l
Cyfarfod Cwpan Ladbrokes;
m
Tingle Creek Chase;
n
Becher Chase;
o
Y Cyfarfod Rhyngwladol, Cheltenham;
p
Long Walk Hurdle;
q
Cyfarfod King George VI;
r
Ras Fawr Genedlaethol Cymru Coral;
s
Cyfarfod Dydd Calan, Cheltenham;
t
Classic Chase;
u
Clarence House Chase;
v
Festival Trials Day, Cheltenham.
4
Ym mharagraff 7, ar y diwedd mewnosoder—
j
Motorsport UK – Cwpan Walter Hayes;
k
Pencampwriaeth Rasio Tryciau BTRA;
l
Her Porsche Prydain Fawr.
5
Ym mharagraff 14, ar y diwedd mewnosoder —
i
Hennessy Sports – Gemau Pencampwriaeth Bocsio Rhyngwladol;
j
Gemau Pencampwriaeth Bocsio Rhyngwladol – MTK Promotions.
6
Ym mharagraff 15—
a
daw’r geiriau o “Twrnamaint” hyd at y diwedd yn is-baragraff (a);
b
ar ôl yr is-baragraff hwnnw mewnosoder—
b
Pencampwriaethau Sboncen Agored Prydain 2020 Allam.
7
Ym mharagraff 17—
a
daw’r geiriau o “Twrnamaint” hyd at y diwedd yn is-baragraff (a);
b
ar ôl yr is-baragraff hwnnw mewnosoder —
b
Pencampwriaeth Pŵl y Byd Matchroom.
8
Yn lle paragraff 19 rhodder—
19
Crefft Ymladd a Chrefft Ymladd Cymysg—
a
Cyfres “The Trilogy” Cage Warriors;
b
Noson Ymladd Taekwondo Prydain Fawr I – Digwyddiad Rhyngwladol Taekwondo, Para Taekwondo a Karate;
c
Noson Ymladd Taekwondo Prydain Fawr II – Digwyddiad Rhyngwladol Taekwondo, Para Taekwondo a Karate.
9
Ar y diwedd mewnosoder—
21
Badminton—
a
Pencampwriaethau Badminton Tîm Cymysg Ewrop – Digwyddiad Cymhwyso Grŵp 1;
b
Pencampwriaethau Badminton Agored Lloegr Gyfan Yonex.
22
Cwrlo – Uwch-gyfres Cwrlo Ewrop.
23
Jiwdo – Cystadleuaeth Wahodd Gaeedig Hŷn Prydain.
24
Ping Pong –– Pencampwriaeth Ping Pong y Byd Matchroom.
RHAN 4Diwygiadau amrywiol i Atodlenni 1 a 2 i’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol
Diwygiadau i Atodlen 1 (gwybodaeth am deithiwr)I55
1
Mae Atodlen 1 i’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol wedi ei diwygio fel a ganlyn.
2
Ym mharagraff 2 (manylion y daith)—
a
yn is-baragraff (e), yn lle “cyfeirnod yr archeb deithio” rhodder “rhif y sedd”;
b
ar ôl is-baragraff (e) mewnosoder—
ea
rhif eu coets,
c
yn is-baragraff (f), yn lle “, rhif y trên, neu rif y tocyn (fel y bo’n briodol)” rhodder “neu enw’r llestr”;
d
yn is-baragraff (k)(iv), yn lle “cyfeirnod archeb deithio’r” rhodder “rhif sedd y”;
e
yn is-baragraff (k)(v), yn lle “, rhif y trên, neu rif y tocyn (fel y bo’n briodol)” rhodder “neu enw’r llestr”;
f
ar ôl is-baragraff (k)(v) mewnosoder—
vi
rhif y goets ar gyfer y daith sy’n dilyn.
Diwygiadau i Atodlen 2 (personau esempt)I66
1
Mae Atodlen 2 i’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol wedi ei diwygio fel a ganlyn.
2
Yn lle paragraff 3(2)(b) rhodder—
b
ystyr “llu ar ymweliad” yw unrhyw gorfflu, criw neu adran o luoedd gwlad, sy’n gorfflu, criw neu adran o luoedd sy’n bresennol am y tro yn y Deyrnas Unedig (gan gynnwys dyfroedd tiriogaethol y Deyrnas Unedig), ar wahoddiad Llywodraeth Ei Mawrhydi yn y Deyrnas Unedig.
3
Ar ddiwedd paragraff 13(1), yn eiriau cloi o dan baragraff (c), mewnosoder—
pan fônt wedi teithio i’r Deyrnas Unedig yng nghwrs eu gwaith.
4
Ym mharagraff 24(1), yn lle “14 o ddiwrnodau ar ôl cyrraedd y Deyrnas Unedig” rhodder “y cyfnod pan fyddent, oni bai am y paragraff hwn, wedi bod yn ddarostyngedig i ofyniad i ynysu (o fewn ystyr rheoliad 10(2) o’r Rheoliadau hyn)”.
5
Ar ddiwedd paragraff 24(1), yn eiriau cloi o dan baragraff (d), mewnosoder—
pan fônt wedi teithio i’r Deyrnas Unedig yng nghwrs eu gwaith.
6
Ym mharagraff 38, yn lle is-baragraff (2)(a)(ii) a (iii) rhodder—
ii
sydd wedi ei ddynodi felly at ddibenion y Rheoliadau hyn gan Gyngor Chwaraeon Cymru,
iii
sydd wedi ei ddynodi felly at ddibenion Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) 20203 (er gwaethaf dirymu’r Rheoliadau hynny), neu
iv
nad yw’n dod o fewn is-baragraff (i), (ii) na (iii) sy’n cymryd rhan yng nghynghrair Pencampwyr UEFA neu gynghrair Europa UEFA.
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)