Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 17) 2020

Offerynnau Statudol Cymru

2020 Rhif 1191 (Cy. 269)

Iechyd Y Cyhoedd, Cymru

Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 17) 2020

Gwnaed

am 11.50 a.m. ar 30 Hydref 2020

Gosodwyd gerbron Senedd Cymru

am 3.00 p.m. ar 30 Hydref 2020

Yn dod i rym

am 4.00 a.m. ar 1 Tachwedd 2020

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adrannau 45B a 45P(2) o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984(1), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.

RHAN 1LL+CCyffredinol

Enwi, dod i rym a dehongliLL+C

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 17) 2020.

(2Daw’r Rheoliadau hyn i rym am 4.00 a.m. ar 1 Tachwedd 2020.

(3Yn y Rheoliadau hyn, ystyr y “Rheoliadau Teithio Rhyngwladol” yw Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) 2020(2).

Gwybodaeth Cychwyn

I1Rhl. 1 mewn grym ar 1.11.2020 am 4.00 a.m., gweler rhl. 1(2)

RHAN 2LL+CDiwygiadau i’r rhestr o wledydd a thiriogaethau esempt yn Atodlen 3 i’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol

Hepgor gwledydd o’r rhestr o wledydd a thiriogaethau esemptLL+C

2.  Yn Rhan 1 o Atodlen 3 i’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol (gwledydd a thiriogaethau esempt y tu allan i’r ardal deithio gyffredin), hepgorer y cofnodion a ganlyn—

Cyprus;

Lithiwania.

Gwybodaeth Cychwyn

I2Rhl. 2 mewn grym ar 1.11.2020 am 4.00 a.m., gweler rhl. 1(2)

Darpariaeth drosiannol mewn cysylltiad â rheoliad 2LL+C

3.—(1Mae paragraff (2) yn gymwys pan fo person (“P”)—

(a)yn cyrraedd Cymru am 4:00 a.m. ar 1 Tachwedd 2020 neu wedi hynny, a

(b)wedi bod yng Nghyprus neu yn Lithiwania ddiwethaf—

(i)o fewn y cyfnod o 14 o ddiwrnodau sy’n dod i ben â’r diwrnod y mae P yn cyrraedd Cymru, a

(ii)cyn 4.00 a.m. ar 1 Tachwedd 2020.

(2Mae P, yn rhinwedd y ffaith iddo fod yng Nghyprus neu yn Lithiwania, i’w drin at ddibenion rheoliadau 7(1) ac 8(1) o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol fel pe bai wedi cyrraedd Cymru o wlad neu diriogaeth nad yw’n esempt, neu fel pe bai wedi cyrraedd ar ôl bod mewn gwlad neu diriogaeth o’r fath.

Gwybodaeth Cychwyn

I3Rhl. 3 mewn grym ar 1.11.2020 am 4.00 a.m., gweler rhl. 1(2)

RHAN 3LL+CDiwygiadau i’r rhestr o ddigwyddiadau chwaraeon yn Atodlen 4 i’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol

Ychwanegiadau at y rhestr o ddigwyddiadau chwaraeon penodedigLL+C

4.—(1Mae Atodlen 4 (digwyddiadau chwaraeon penodedig) i’r Rheoliadau Teithio Ryngwladol wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2Ym mharagraff 3, ar y diwedd mewnosoder—

(m)Y Gorfforaeth Ddartiau Broffesiynol – Gemau Cymhwyso Pencampwriaeth y Byd PDPA.

(3Ym mharagraff 6, ar y diwedd mewnosoder —

(i)Cyfarfod mis Tachwedd, Cheltenham;

(j)Churchill Stakes;

(k)Lancashire Chase;

(l)Cyfarfod Cwpan Ladbrokes;

(m)Tingle Creek Chase;

(n)Becher Chase;

(o)Y Cyfarfod Rhyngwladol, Cheltenham;

(p)Long Walk Hurdle;

(q)Cyfarfod King George VI;

(r)Ras Fawr Genedlaethol Cymru Coral;

(s)Cyfarfod Dydd Calan, Cheltenham;

(t)Classic Chase;

(u)Clarence House Chase;

(v)Festival Trials Day, Cheltenham.

(4Ym mharagraff 7, ar y diwedd mewnosoder—

(j)Motorsport UK – Cwpan Walter Hayes;

(k)Pencampwriaeth Rasio Tryciau BTRA;

(l)Her Porsche Prydain Fawr.

(5Ym mharagraff 14, ar y diwedd mewnosoder —

(i)Hennessy Sports – Gemau Pencampwriaeth Bocsio Rhyngwladol;

(j)Gemau Pencampwriaeth Bocsio Rhyngwladol – MTK Promotions.

(6Ym mharagraff 15—

(a)daw’r geiriau o “Twrnamaint” hyd at y diwedd yn is-baragraff (a);

(b)ar ôl yr is-baragraff hwnnw mewnosoder—

(b)Pencampwriaethau Sboncen Agored Prydain 2020 Allam.

(7Ym mharagraff 17—

(a)daw’r geiriau o “Twrnamaint” hyd at y diwedd yn is-baragraff (a);

(b)ar ôl yr is-baragraff hwnnw mewnosoder —

(b)Pencampwriaeth Pŵl y Byd Matchroom.

(8Yn lle paragraff 19 rhodder—

19.  Crefft Ymladd a Chrefft Ymladd Cymysg—

(a)Cyfres “The Trilogy” Cage Warriors;

(b)Noson Ymladd Taekwondo Prydain Fawr I – Digwyddiad Rhyngwladol Taekwondo, Para Taekwondo a Karate;

(c)Noson Ymladd Taekwondo Prydain Fawr II – Digwyddiad Rhyngwladol Taekwondo, Para Taekwondo a Karate.

(9Ar y diwedd mewnosoder—

21.  Badminton—

(a)Pencampwriaethau Badminton Tîm Cymysg Ewrop – Digwyddiad Cymhwyso Grŵp 1;

(b)Pencampwriaethau Badminton Agored Lloegr Gyfan Yonex.

22.  Cwrlo – Uwch-gyfres Cwrlo Ewrop.

23.  Jiwdo – Cystadleuaeth Wahodd Gaeedig Hŷn Prydain.

24.  Ping Pong –– Pencampwriaeth Ping Pong y Byd Matchroom.

Gwybodaeth Cychwyn

I4Rhl. 4 mewn grym ar 1.11.2020 am 4.00 a.m., gweler rhl. 1(2)

RHAN 4LL+CDiwygiadau amrywiol i Atodlenni 1 a 2 i’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol

Diwygiadau i Atodlen 1 (gwybodaeth am deithiwr)LL+C

5.—(1Mae Atodlen 1 i’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2Ym mharagraff 2 (manylion y daith)—

(a)yn is-baragraff (e), yn lle “cyfeirnod yr archeb deithio” rhodder “rhif y sedd”;

(b)ar ôl is-baragraff (e) mewnosoder—

(ea)rhif eu coets,;

(c)yn is-baragraff (f), yn lle “, rhif y trên, neu rif y tocyn (fel y bo’n briodol)” rhodder “neu enw’r llestr”;

(d)yn is-baragraff (k)(iv), yn lle “cyfeirnod archeb deithio’r” rhodder “rhif sedd y”;

(e)yn is-baragraff (k)(v), yn lle “, rhif y trên, neu rif y tocyn (fel y bo’n briodol)” rhodder “neu enw’r llestr”;

(f)ar ôl is-baragraff (k)(v) mewnosoder—

(vi)rhif y goets ar gyfer y daith sy’n dilyn.

Gwybodaeth Cychwyn

I5Rhl. 5 mewn grym ar 1.11.2020 am 4.00 a.m., gweler rhl. 1(2)

Diwygiadau i Atodlen 2 (personau esempt)LL+C

6.—(1Mae Atodlen 2 i’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2Yn lle paragraff 3(2)(b) rhodder—

(b)ystyr “llu ar ymweliad” yw unrhyw gorfflu, criw neu adran o luoedd gwlad, sy’n gorfflu, criw neu adran o luoedd sy’n bresennol am y tro yn y Deyrnas Unedig (gan gynnwys dyfroedd tiriogaethol y Deyrnas Unedig), ar wahoddiad Llywodraeth Ei Mawrhydi yn y Deyrnas Unedig.

(3Ar ddiwedd paragraff 13(1), yn eiriau cloi o dan baragraff (c), mewnosoder—

pan fônt wedi teithio i’r Deyrnas Unedig yng nghwrs eu gwaith.

(4Ym mharagraff 24(1), yn lle “14 o ddiwrnodau ar ôl cyrraedd y Deyrnas Unedig” rhodder “y cyfnod pan fyddent, oni bai am y paragraff hwn, wedi bod yn ddarostyngedig i ofyniad i ynysu (o fewn ystyr rheoliad 10(2) o’r Rheoliadau hyn)”.

(5Ar ddiwedd paragraff 24(1), yn eiriau cloi o dan baragraff (d), mewnosoder—

pan fônt wedi teithio i’r Deyrnas Unedig yng nghwrs eu gwaith.

(6Ym mharagraff 38, yn lle is-baragraff (2)(a)(ii) a (iii) rhodder—

(ii)sydd wedi ei ddynodi felly at ddibenion y Rheoliadau hyn gan Gyngor Chwaraeon Cymru,

(iii)sydd wedi ei ddynodi felly at ddibenion Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) 2020(3) (er gwaethaf dirymu’r Rheoliadau hynny), neu

(iv)nad yw’n dod o fewn is-baragraff (i), (ii) na (iii) sy’n cymryd rhan yng nghynghrair Pencampwyr UEFA neu gynghrair Europa UEFA.

Gwybodaeth Cychwyn

I6Rhl. 6 mewn grym ar 1.11.2020 am 4.00 a.m., gweler rhl. 1(2)

Vaughan Gething

Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Iechyd, un o Weinidogion Cymru

Am 11.50 a.m. ar 30 Hydref 2020

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) 2020 (O.S. 2020/574 (Cy. 132)) (y “Rheoliadau Teithio Rhyngwladol”). Diwygiwyd y Rheoliadau Teithio Rhyngwladol yn flaenorol gan:

  • Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd ar gyfer Personau sy’n Teithio i Gymru etc.) 2020 (O.S. 2020/595 (Cy. 136));

  • Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol a Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd i Deithwyr) (Cymru) (Diwygio) 2020 (O.S. 2020/714 (Cy. 160));

  • Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) 2020 (O.S. 2020/726 (Cy. 163));

  • Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2020 (O.S. 2020/804 (Cy. 177));

  • Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 3) 2020 (O.S. 2020/817 (Cy. 179));

  • Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 4) 2020 (O.S. 2020/840 (Cy. 185));

  • Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 5) 2020 (O.S. 2020/868 (Cy. 190));

  • Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 6) 2020 (O.S. 2020/886 (Cy. 196));

  • Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 7) 2020 (O.S. 2020/917 (Cy. 205));

  • Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 8) 2020 (O.S. 2020/944 (Cy. 210));

  • Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 9) 2020 (O.S. 2020/962 (Cy. 216));

  • Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 10) 2020 (O.S. 2020/981 (Cy. 220));

  • Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 11) 2020 (O.S. 2020/1015 (Cy. 226));

  • Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 12) 2020 (O.S. 2020/1042 (Cy. 231));

  • Gorchymyn Trosglwyddo Swyddogaethau (Yr Ysgrifennydd Gwladol dros Faterion Tramor, Materion y Gymanwlad a Materion Datblygu) 2020 (O.S. 2020/942);

  • Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 13) 2020 (O.S. 2020/1080 (Cy. 243));

  • Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 14) 2020 (O.S. 2020/1098 (Cy. 249));

  • Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 15) 2020 (O.S. 2020/1133 (Cy. 258));

  • Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 16) 2020 (O.S. 2020/1165 (Cy. 263)).

Mae’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol yn gosod gofynion ar bersonau sy’n dod i Gymru ar ôl bod dramor. Maent yn cynnwys gofyniad i bersonau sy’n cyrraedd Cymru ynysu am gyfnod i’w bennu yn unol â’r Rheoliadau.

Mae gofynion y Rheoliadau Teithio Rhyngwladol yn ddarostyngedig i eithriadau, ac mae categorïau penodol o bersonau wedi eu hesemptio rhag gorfod cydymffurfio.

Nid yw’n ofynnol i bersonau sy’n dod i Gymru ynysu ar ôl bod mewn un neu ragor o’r gwledydd a’r tiriogaethau a restrir yn Atodlen 3 i’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol. Cyfeirir at y gwledydd a’r tiriogaethau a restrir yn Atodlen 3 fel “gwledydd a thiriogaethau esempt”.

Mae Rhan 2 o’r Rheoliadau hyn – yn rheoliadau 2 a 3 - yn diwygio’r rhestr o wledydd a thiriogaethau esempt er mwyn hepgor y cofnodion ar gyfer Cyprus a Lithiwania; ac mae’n gwneud darpariaeth drosiannol mewn cysylltiad â’r newid yn statws y gwledydd hyn.

Mae Rhan 3 o’r Rheoliadau hyn – yn rheoliad 4 – yn diwygio’r rhestr o ddigwyddiadau chwaraeon yn Atodlen 4 i’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol.

Caniateir i berson sy’n ddarostyngedig i ofyniad i ynysu a osodir gan y Rheoliadau Teithio Rhyngwladol adael y man lle y mae’r person yn ynysu am nifer cyfyngedig o resymau. Nodir yr eithriadau hyn i’r gofyniad i ynysu yn rheoliad 10 o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol, ac maent yn cynnwys eithriad sy’n caniatáu i berson gymryd rhan mewn digwyddiad chwaraeon a restrir.

Mae Rhan 4 o’r Rheoliadau hyn – yn rheoliadau 5 a 6 – yn gwneud diwygiadau amrywiol i Atodlenni 1 a 2 i’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol. Mae Atodlen 1 i’r Rheoliadau hynny’n rhestru gwybodaeth benodol (“gwybodaeth am deithiwr”) y mae rhaid i bersonau sy’n cyrraedd Cymru o dramor ei darparu i’r Ysgrifennydd Gwladol ar ffurflen lleoli teithwyr electronig. Mae Atodlen 2 i’r Rheoliadau hynny’n esemptio categorïau penodol o weithwyr rhag gorfod darparu gwybodaeth am deithiwr a rhag gorfod ynysu.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ni luniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.

(1)

1984 p. 22. Mewnosodwyd Rhan 2A gan adran 129 o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2008 (p. 14). Mae’r swyddogaeth o wneud rheoliadau o dan Ran 2A wedi ei rhoi i “the appropriate Minister”. O dan adran 45T(6) o Ddeddf 1984 y Gweinidog priodol, o ran Cymru, yw Gweinidogion Cymru.