xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Mangreoedd a Cherbydau Di-fwg (Cymru) 2020.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Mawrth 2021.
2.—(1) Yn y Rheoliadau hyn—
nid yw “cerbyd” (“vehicle”) yn cynnwys—
ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017.
(2) Mae i ymadroddion a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn yr un ystyr ag yn y Ddeddf.
3.—(1) At ddibenion Pennod 1 o Ran 3 o’r Ddeddf—
(a)mae mangre, neu ran o fangre, yn gaeedig—
(i)os oes ganddi nenfwd neu do, a
(ii)ac eithrio drysau, ffenestri a choridorau, os yw’n gwbl gaeedig naill ai’n barhaol neu dros dro;
(b)mae cerbyd, neu ran o gerbyd, yn gaeedig—
(i)os oes ganddo do, a
(ii)ac eithrio drysau a ffenestri, os yw’n gwbl gaeedig naill ai’n barhaol neu dros dro.
(2) At ddibenion Pennod 1 o Ran 3 o’r Ddeddf, mae mangre, neu ran o fangre, yn sylweddol gaeedig—
(a)os oes ganddi nenfwd neu do, a
(b)os yw cyfanswm arwynebedd unrhyw agoriadau yn y waliau yn llai na hanner arwynebedd y waliau, gan gynnwys strwythurau eraill sy’n cyflawni diben waliau ac yn ffurfio perimedr y fangre.
(3) Wrth gyfrifo cyfanswm arwynebedd unrhyw agoriadau at ddibenion paragraff (2)(b), nid yw agoriadau y mae drysau, ffenestri neu ffitiadau eraill ynddynt y gellir eu hagor a’u cau i’w hystyried.
(4) Yn y rheoliad hwn, mae “to” yn cynnwys unrhyw strwythur gosodedig neu symudol neu ddyfais osodedig neu symudol sy’n gallu gorchuddio’r cyfan neu ran o’r fangre neu’r cerbyd fel to.
(5) At ddibenion Pennod 1 o Ran 3 o’r Ddeddf, nid yw mangre neu ran o fangre “yn gaeedig nac yn sylweddol gaeedig” os nad yw’n gaeedig nac yn sylweddol gaeedig o fewn ystyr paragraffau (1) a (2).
1995 p. 21. Diwygiwyd adran 85 gan adran 2 o Ddeddf Tiriogaethau Prydeinig Tramor 2002 (p. 8) a chan adran 8 o Ddeddf Llongau Masnach a Diogelwch Morol 1997 (p. 28).
1968 p. 59. Diwygiwyd adran 1(1)(h) gan baragraff 1(2) o Atodlen 11 i Ddeddf Diwygio Cyfansoddiadol 2005 a chan adran 152 o Ddeddf y Goruchaf Lys 1981 (p. 54). Ailenwyd Deddf y Goruchaf Lys 1981 yn Ddeddf Uwchlysoedd 1981 gan adran 59 o Ddeddf Diwygio Cyfansoddiadol 2005 (p. 4).