RHAN 1CYFFREDINOL
Ystyr “caeedig”, “sylweddol gaeedig” ac “nad yw’n gaeedig nac yn sylweddol gaeedig”3
1
At ddibenion Pennod 1 o Ran 3 o’r Ddeddf—
a
mae mangre, neu ran o fangre, yn gaeedig—
i
os oes ganddi nenfwd neu do, a
ii
ac eithrio drysau, ffenestri a choridorau, os yw’n gwbl gaeedig naill ai’n barhaol neu dros dro;
b
mae cerbyd, neu ran o gerbyd, yn gaeedig—
i
os oes ganddo do, a
ii
ac eithrio drysau a ffenestri, os yw’n gwbl gaeedig naill ai’n barhaol neu dros dro.
2
At ddibenion Pennod 1 o Ran 3 o’r Ddeddf, mae mangre, neu ran o fangre, yn sylweddol gaeedig—
a
os oes ganddi nenfwd neu do, a
b
os yw cyfanswm arwynebedd unrhyw agoriadau yn y waliau yn llai na hanner arwynebedd y waliau, gan gynnwys strwythurau eraill sy’n cyflawni diben waliau ac yn ffurfio perimedr y fangre.
3
Wrth gyfrifo cyfanswm arwynebedd unrhyw agoriadau at ddibenion paragraff (2)(b), nid yw agoriadau y mae drysau, ffenestri neu ffitiadau eraill ynddynt y gellir eu hagor a’u cau i’w hystyried.
4
Yn y rheoliad hwn, mae “to” yn cynnwys unrhyw strwythur gosodedig neu symudol neu ddyfais osodedig neu symudol sy’n gallu gorchuddio’r cyfan neu ran o’r fangre neu’r cerbyd fel to.
5
At ddibenion Pennod 1 o Ran 3 o’r Ddeddf, nid yw mangre neu ran o fangre “yn gaeedig nac yn sylweddol gaeedig” os nad yw’n gaeedig nac yn sylweddol gaeedig o fewn ystyr paragraffau (1) a (2).