RHAN 2MANGREOEDD DI-FWG: ESEMPTIADAU AC ARWYDDION

PENNOD 1Esemptiadau

Anheddau: esemptiadau4

1

Mae mangre a ddefnyddir i unrhyw raddau fel annedd, neu ran o fangre o’r fath, a fyddai (oni bai am y rheoliad hwn) yn ddi-fwg yn rhinwedd adran 7 neu 8 o’r Ddeddf i’w thrin fel pe na bai’n ddi-fwg oni bai bod y fangre yn dod o fewn paragraff (2) neu (5).

2

Mae mangreoedd yn dod o fewn y paragraff hwn os ydynt yn ddi-fwg oherwydd eu bod yn weithleoedd o fewn adran 7(2)(a) o’r Ddeddf a bod naill ai amod 1 neu 2 wedi ei fodloni.

3

Mae amod 1 wedi ei fodloni os nad yw un neu ragor o’r personau sy’n gweithio yn y fangre yn byw yn yr annedd.

4

Mae amod 2 wedi ei fodloni os yw’r personau sy’n gweithio yn y fangre i gyd yn byw yn yr annedd ac y gallai aelodau o’r cyhoedd fynd i’r annedd at ddibenion ceisio neu gael nwyddau neu wasanaethau oddi wrth berson sy’n gweithio yn yr annedd.

5

Mae mangreoedd yn dod o fewn y paragraff hwn os ydynt yn ddi-fwg oherwydd eu bod yn weithleoedd o fewn adran 7(2)(b) o’r Ddeddf.