NODYN ESBONIADOL
Mae Rhan 2A o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984 yn galluogi Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, i wneud darpariaeth at ddiben atal, diogelu rhag, rheoli neu ddarparu ymateb iechyd y cyhoedd i fynychder neu ledaeniad haint neu halogiad yng Nghymru.
Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud mewn ymateb i’r bygythiad difrifol ac uniongyrchol i iechyd y cyhoedd a berir gan fynychder a lledaeniad coronafeirws syndrom anadlol acíwt difrifol 2 (SARS-CoV-2) yng Nghymru. Mae’r Rheoliadau yn gosod gofynion a chyfyngiadau ar unigolion, busnesau ac eraill.
Mae 9 Rhan i’r Rheoliadau.
Mae Rhan 1 yn darparu y daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 9 Tachwedd 2020 a bod rhaid eu hadolygu erbyn 19 Tachwedd, o leiaf unwaith yn y cyfnod o 20 Tachwedd i 3 Rhagfyr, o leiaf unwaith yn y cyfnod o 4 Rhagfyr i 17 Rhagfyr, ac o leiaf unwaith pob 21 o ddiwrnodau ar ôl hynny. Mae hefyd yn darparu, oni chaiff y Rheoliadau eu dirymu neu eu diwygio cyn hynny, eu bod yn dod i ben ar 19 Chwefror 2021.
Mae Rhan 2 yn gosod cyfyngiadau ar gyfarfod â phobl eraill (y cyfeirir ato fel cymryd rhan mewn cynulliadau) ac ar ddigwyddiadau. Mae rheoliad 4 yn cyfyngu ar gynulliadau yng nghartrefi pobl (gan gynnwys eu gerddi) i ddim ond y rheini sy’n rhan o aelwyd estynedig (neu “swigen”). Mae rheoliad 5 yn darparu y caniateir ffurfio aelwyd estynedig pan fydd pob oedolyn ar hyd at 2 aelwyd yn cytuno i gael eu trin fel 1 aelwyd at ddiben cyfarfod yng nghartrefi pobl neu ar gyfer cyfarfod yn yr awyr agored (ac eithrio mewn mangre reoleiddiedig). Mae rheoliad 6 yn cynnwys cyfyngiad ar gyfarfod i ffwrdd o gartrefi pobl. Yn yr achos hwnnw, mae cynulliadau wedi eu cyfyngu i 4 o bobl, heb gynnwys plant o dan 11 oed. Fodd bynnag, nid yw hyn yn gymwys i lety gwyliau na llety teithio pan fo’r cynulliad wedi ei gyfyngu i bobl sy’n aelodau o’r un aelwyd. Mae’r cyfyngiadau yn rheoliadau 4 a 6 ill dau yn gymwys yn ddarostyngedig i eithriadau penodol a restrir, ac yn ddarostyngedig i sefyllfaoedd pan fo’n gallu bod yn rhesymol angenrheidiol ymgynnull ac nad oes dewis arall sy’n rhesymol ymarferol. Caiff mwy na 4 o bobl ymgynnull os ydynt i gyd yn rhan o’r un aelwyd, neu os ydynt yn cyfarfod yn yr awyr agored (ac eithrio mewn mangre reoleiddiedig) os ydynt i gyd yn rhan o’r un aelwyd estynedig. Mae eithriadau yn cynnwys gweithgareddau penodol “wedi eu trefnu” sy’n cynnwys hyd at 15 o bobl sy’n cyfarfod o dan do a 30 o bobl sy’n cyfarfod yn yr awyr agored. Rhaid cymryd pob mesur rhesymol i leihau’r risg o ledaenu’r coronafeirws yn ystod gweithgareddau wedi eu trefnu ac ni chaniateir iddynt ddigwydd yng nghartrefi pobl. Mae rheoliadau 7 a 8 yn gwneud darpariaeth bellach ynghylch digwyddiadau sy’n annog pobl i ymgynnull yn anghyfreithlon.
Mae Rhan 3 yn ymwneud â theithio. Mae rheoliad 9 yn gwahardd pobl rhag mynd i Gymru neu ymadael â Chymru. Mae hyn unwaith eto yn ddarostyngedig i eithriadau penodol a restrir, ac yn ddarostyngedig i sefyllfaoedd pan fo’n gallu bod yn rhesymol angenrheidiol teithio ac nad oes dewis arall sy’n rhesymol ymarferol. Nid oes unrhyw waharddiad ar deithio o fewn Cymru.
Mae Rhan 4 yn gosod gofynion ar bobl sydd wedi cael canlyniad positif am y coronafeirws a’u cysylltiadau agos. Mae rheoliadau 11 a 12 yn darparu na chaiff oedolion na phlant sydd wedi cael canlyniad positif am y coronafeirws ymadael â’r man lle y maent yn byw tan ddiwedd diwrnod olaf eu hynysiad (ac eithrio o dan yr amgylchiadau y darperir ar eu cyfer gan reoliad 15). Cyfrifir diwrnod olaf eu hynysiad yn unol â rheoliadau 11 a 12. Mae rheoliadau 13 a 14 yn darparu na chaiff pobl sydd wedi cael “cysylltiad agos” â rhywun sydd wedi cael canlyniad positif am y coronafeirws ymadael â’r man lle y maent yn byw tan ddiwedd diwrnod olaf eu hynysiad (ac eithrio o dan yr amgylchiadau y darperir ar eu cyfer gan reoliad 15). Cyfrifir diwrnod olaf eu hynysiad yn unol â rheoliadau 13 a 14. Mae rheoliad 16 yn ymwneud â rhwymedigaethau oedolion mewn cysylltiad â phlant y mae’n ofynnol iddynt ynysu, mae rheoliad 17 yn galluogi i hysbysiadau a roddir o dan y Rhan hon gan swyddogion olrhain cysylltiadau gael eu tynnu’n ôl ac mae rheoliad 18 yn gwneud darpariaeth ynghylch defnyddio’r wybodaeth a ddelir gan swyddogion olrhain cysylltiadau.
Mae Rhan 5 yn ymwneud â busnesau a gwasanaethau y mae eu mangreoedd ar agor i’r cyhoedd fel arfer. Mae rheoliad 19 yn darparu bod rhaid i fangreoedd busnesau a gwasanaethau a restrir yn Atodlen 1 fod ar gau i’r cyhoedd (er nad yw hyn yn atal gweithgareddau penodol rhag digwydd yn y fangre). Mae rheoliad 20 yn gosod cyfyngiadau ar fusnesau y mae eu mangreoedd wedi eu trwyddedu ar gyfer gwerthu alcohol. Mae’r rhain yn gwahardd alcohol rhag cael ei werthu ar ôl 10.00 p.m. ac yn ei gwneud yn ofynnol i fangreoedd fod ar gau erbyn 10.20 p.m. ar yr hwyraf.
Mae Rhan 6 yn gwneud darpariaeth at ddiben lleihau’r risg o ddod i gysylltiad â’r coronafeirws mewn mannau lle y mae pobl yn dod ynghyd. Mae rheoliad 21 yn gymwys i “mangreoedd rheoleiddiedig” (unrhyw fan sydd ar agor i’r cyhoedd neu lle y gwneir gwaith) ac yn ei gwneud yn ofynnol: (1) i bob mesur rhesymol gael ei gymryd i sicrhau y cynhelir pellter o 2 fetr rhwng personau yn y fangre; (2) i unrhyw fesurau rhesymol eraill gael eu cymryd, er enghraifft i gyfyngu ar ryngweithio wyneb yn wyneb a chynnal hylendid; a (3) i wybodaeth gael ei darparu i’r rheini sy’n mynd i fangre neu’n gweithio mewn mangre ynghylch sut i leihau’r risg o ddod i gysylltiad â’r coronafeirws. Mae hefyd yn pennu y gall stopio gweithgaredd, cau rhan o fangre, caniatáu i staff ynysu a chasglu gwybodaeth gyswllt oddi wrth y rheini sydd yn y fangre fod yn fesurau rhesymol. Mae mesurau penodol hefyd yn gymwys i leoliadau lletygarwch. Mae rheoliadau 22 a 23 yn darparu bod rhaid gwisgo gorchuddion wyneb ar drafnidiaeth gyhoeddus, gan gynnwys mewn tacsis, ac mewn mannau penodol o dan do, yn ddarostyngedig i esemptiadau ac eithriadau a restrir. Mae rheoliad 24 yn darparu i ganllawiau gael eu dyroddi ynghylch cymhwyso’n ymarferol y gofynion a osodir gan y Rhan hon, a bod rhaid i’r rheini y mae’r gofynion yn gymwys iddynt roi sylw i’r canllawiau hynny.
Mae Rhan 7 yn ymwneud â gorfodi’r cyfyngiadau a’r gofynion. Mae rheoliad 25 yn gwneud darpariaeth ynghylch y rheini a gaiff gymryd camau gorfodi, mae rheoliad 26 yn gwneud darpariaeth bellach (yn Atodlenni 3 a 4) ynghylch gorfodi’r angen i gymryd mesurau ataliol o dan reoliad 21, mae rheoliad 27 yn ymwneud â hysbysiadau cydymffurfio, ac mae rheoliad 28 yn ymwneud â phwerau symud a gwasgaru. Mae rheoliad 29 yn gwneud darpariaeth ynghylch gorfodi’r gwaharddiad ar ddigwyddiadau penodol. Mae rheoliad 30 yn ymwneud yn benodol â gorfodi’r gofyniad i wisgo gorchudd wyneb ac mae rheoliad 31 yn ymwneud yn benodol â phlant. Mae rheoliad 32 yn cynnwys pŵer i fynd i fangre, mae rheoliad 33 yn ymwneud ag archwiliadau ar y ffyrdd gan yr heddlu ac mae rheoliad 34 yn gwneud darpariaeth ychwanegol am orfodi, gan gynnwys caniatáu i rym rhesymol gael ei ddefnyddio o dan amgylchiadau penodol.
Mae Rhan 8 yn gwneud darpariaeth ynghylch troseddau a chosbau. Mae rheoliad 35 yn darparu bod person sydd, heb esgus rhesymol, yn torri gofynion (a restrir) yn y Rheoliadau hyn yn cyflawni trosedd. Mae hefyd yn darparu bod cynnal cynulliad mwy mewn annedd breifat yn drosedd, a bod darparu gwybodaeth anwir neu gamarweiniol i swyddog olrhain cysylltiadau yn drosedd hefyd. Mae’r troseddau honny i’w cosbi drwy ddirwy ddiderfyn. Mae rheoliad 36 yn ymwneud â throseddau gan gyrff corfforedig. Mae rheoliad 37 yn caniatáu i droseddau gael eu cosbi drwy hysbysiadau cosb benodedig, mae rheoliadau 38 i 42 yn ymwneud â swm y gosb ac mae rheoliadau 43 a 44 yn gwneud darpariaeth bellach ynghylch gweinyddu’r cosbau. Mae rheoliad 45 yn ymwneud â hunanargyhuddo ac mae rheoliad 46 yn ymwneud ag erlyn troseddau o dan y Rheoliadau.
Mae Rhan 9 yn cynnwys termau wedi eu diffinio (rheoliad 47) a diwygiad canlyniadol (rheoliad 48).
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ni luniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.