xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 4) (Cymru) 2020.
(2) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
(3) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 9 Tachwedd 2020.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Rhl. 1 mewn grym ar 9.11.2020, gweler rhl. 1(3)
2. Rhaid i Weinidogion Cymru adolygu’r angen am y cyfyngiadau a’r gofynion a osodir gan y Rheoliadau hyn, a pha un a yw’r cyfyngiadau a’r gofynion hynny yn gymesur â’r hyn y mae Gweinidogion Cymru yn ceisio ei gyflawni drwyddynt—
(a)erbyn 19 Tachwedd 2020;
(b)o leiaf unwaith yn y cyfnod o 20 Tachwedd 2020 i 3 Rhagfyr 2020;
(c)o leiaf unwaith yn y cyfnod o 4 Rhagfyr 2020 i 17 Rhagfyr 2020;
(d)o leiaf unwaith yn y cyfnod o 21 o ddiwrnodau sy’n dechrau â 18 Rhagfyr 2020;
(e)o leiaf unwaith ym mhob cyfnod dilynol o 21 o ddiwrnodau.
Gwybodaeth Cychwyn
I2Rhl. 2 mewn grym ar 9.11.2020, gweler rhl. 1(3)
3.—(1) Daw’r Rheoliadau hyn i ben ar ddiwedd y dydd ar 19 Chwefror 2021.
(2) Nid yw’r rheoliad hwn yn effeithio ar ddilysrwydd unrhyw beth a wneir yn unol â’r Rheoliadau hyn cyn iddynt ddod i ben.
Gwybodaeth Cychwyn
I3Rhl. 3 mewn grym ar 9.11.2020, gweler rhl. 1(3)