RHAN 1Cyflwyniad, adolygu a dod i ben
Enwi, cychwyn a dod i rym1
1
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 4) (Cymru) 2020.
2
Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
3
Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 9 Tachwedd 2020.
Adolygu2
Rhaid i Weinidogion Cymru adolygu’r angen am y cyfyngiadau a’r gofynion a osodir gan y Rheoliadau hyn, a pha un a yw’r cyfyngiadau a’r gofynion hynny yn gymesur â’r hyn y mae Gweinidogion Cymru yn ceisio ei gyflawni drwyddynt—
a
erbyn 19 Tachwedd 2020;
b
o leiaf unwaith yn y cyfnod o 20 Tachwedd 2020 i 3 Rhagfyr 2020;
c
o leiaf unwaith yn y cyfnod o 4 Rhagfyr 2020 i 17 Rhagfyr 2020;
d
o leiaf unwaith yn y cyfnod o 21 o ddiwrnodau sy’n dechrau â 18 Rhagfyr 2020;
e
o leiaf unwaith ym mhob cyfnod dilynol o 21 o ddiwrnodau.
Dod i ben3
1
Daw’r Rheoliadau hyn i ben ar ddiwedd y dydd ar 19 Chwefror 2021.
2
Nid yw’r rheoliad hwn yn effeithio ar ddilysrwydd unrhyw beth a wneir yn unol â’r Rheoliadau hyn cyn iddynt ddod i ben.