Fersiwn wedi'i ddisodliFersiwn wedi ei ddisodli: 20/12/2020
Golwg cyfnod mewn amser fel yr oedd ar 04/12/2020.
Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 4) (Cymru) 2020, RHAN 6.
Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Ar hyn o bryd mae unrhyw newidiadau neu effeithiau hysbys a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol wedi'u gwneud i destun y ddeddfwriaeth yr ydych yn edrych arni gan y tîm golygyddol. Gweler 'Cwestiynau Cyffredin' am fanylion ynglŷn â'r amserlenni ar gyfer nodi a chofnodi effeithiau newydd ar y safle hwn.
21.—(1) At ddibenion paragraff (2)—
(a)ystyr “mangre reoleiddiedig” yw—
(i)mangre busnesau neu wasanaethau a restrir yn Rhan 1 o Atodlen 2;
(ii)cerbyd a ddefnyddir i ddarparu gwasanaeth trafnidiaeth gyhoeddus;
(iii)mangre arall lle y mae gwaith yn cael ei wneud;
(b)ystyr y “person cyfrifol” yw—
(i)mewn perthynas â mangre reoleiddiedig y cyfeirir ati yn is-baragraff (a)(i) neu (ii), y person sy’n gyfrifol am y fangre,
(ii)mewn perthynas â mangre reoleiddiedig o’r math y cyfeirir ato yn is-baragraff (a)(iii), y person sy’n gyfrifol am y gwaith sy’n cael ei wneud yn y fangre.
(2) At ddibenion lleihau’r risg o ddod i gysylltiad â’r coronafeirws mewn mangre reoleiddiedig, neu ledaenu’r coronafeirws gan y rheini sydd wedi bod mewn mangre reoleiddiedig, rhaid i’r person cyfrifol—
(a)cymryd pob mesur rhesymol i sicrhau—
(i)y cynhelir pellter o 2 fetr rhwng unrhyw bersonau yn y fangre (ac eithrio rhwng aelodau o’r un aelwyd neu ofalwr a’r person sy’n cael cynhorthwy gan y gofalwr);
(ii)pan fo’n ofynnol i bersonau aros i fynd i’r fangre, y cynhelir pellter o 2 fetr rhyngddynt (ac eithrio rhwng aelodau o’r un aelwyd neu ofalwr a’r person sy’n cael cynhorthwy gan y gofalwr),
(b)cymryd unrhyw fesurau rhesymol eraill at y diben hwnnw, er enghraifft mesurau sy’n cyfyngu ar ryngweithio agos wyneb yn wyneb ac yn cynnal hylendid megis—
(i)newid trefn mangre gan gynnwys lleoliad dodrefn a gweithfannau;
(ii)rheoli’r defnydd o fynedfeydd, tramwyfeydd, grisiau a lifftiau;
(iii)rheoli’r defnydd o gyfleusterau a rennir megis toiledau a cheginau;
(iv)rheoli’r defnydd o unrhyw ran arall o’r fangre neu fynediad iddi fel arall;
(v)gosod rhwystrau neu sgriniau;
(vi)darparu, neu’n ei gwneud yn ofynnol defnyddio, cyfarpar diogelu personol, ac
(c)darparu gwybodaeth i’r rheini sy’n mynd i’r fangre neu’n gweithio ynddi ynglŷn â sut i leihau’r risg o ddod i gysylltiad â’r coronafeirws.
(3) Mae mesurau y gellir eu cymryd o dan baragraff (2) hefyd yn cynnwys—
(a)peidio â gwneud gweithgareddau penodol;
(b)cau rhan o’r fangre;
(c)caniatáu i berson sydd fel arfer yn gweithio yn y fangre ynysu am gyfnod penodedig, a’i alluogi i wneud hynny, oherwydd profi’n bositif am y coronafeirws neu am ei fod wedi dod i gysylltiad agos â rhywun sydd wedi profi’n bositif, pan fo—
(i)Gweinidogion Cymru wedi gofyn i’r person hwnnw wneud hynny;
(ii)hysbysiad a roddir gan swyddog olrhain cysylltiadau yn ei gwneud yn ofynnol i’r person hwnnw wneud hynny;
(d)casglu gwybodaeth gyswllt oddi wrth bob person yn y fangre a’i chadw am 21 o ddiwrnodau at ddiben ei darparu i unrhyw un o’r canlynol, ar eu cais neu ar ei gais—
(i)Gweinidogion Cymru;
(ii)swyddog olrhain cysylltiadau;
(e)cymryd mesurau rhesymol i sicrhau bod gwybodaeth gyswllt o’r fath yn gywir.
(4) Pan fo paragraff (2) yn gymwys i berson sy’n gyfrifol am fangre sydd wedi ei hawdurdodi ar gyfer gwerthu neu gyflenwi alcohol i’w yfed yn y fangre, rhaid gwerthu neu gyflenwi bwyd neu ddiod i’w fwyta neu i’w hyfed yn y fangre yn unol â’r mesurau rhesymol a bennir ym mharagraff (5) (yn ddarostyngedig i baragraffau (6) a (7)).
(5) Y mesurau rhesymol yw—
(a)bod rhaid bod person sy’n rheoli mynediad i’r fangre ac sy’n dyrannu cyfnod amser cyfyngedig y caiff cwsmeriaid aros yn y fangre ar ei gyfer;
(b)bod rhaid i gwsmeriaid fod yn eistedd yn y fangre yn unrhyw le ac eithrio wrth far—
(i)pan fyddant yn archebu bwyd neu ddiod,
(ii)pan weinir bwyd neu ddiod iddynt, a
(iii)pan fyddant yn bwyta neu’n yfed.
(6) Ond pan fo bwyd yn cael ei ddarparu yn y fangre ar sail bwffe, caiff cwsmeriaid ddewis bwyd o’r bwffe a dychwelyd i’r man lle y maent yn eistedd ar yr amod y cynhelir pellter o 2 fetr rhwng unrhyw bersonau wrth y bwffe (ac eithrio rhwng aelodau o’r un aelwyd neu ofalwr a’r person sy’n cael cynhorthwy gan y gofalwr).
(7) Nid yw is-baragraffau (a) a (b) o baragraff (5) yn gymwys i—
(a)ffreuturau yn y gweithle, neu
(b)mangreoedd mewn sefydliad addysgol.
(8) At ddibenion paragraff (4)—
(a)nid yw bwyd neu ddiod a werthir mewn llety gwyliau neu lety teithio fel rhan o wasanaeth ystafell i’w drin neu i’w thrin fel pe bai’n cael ei werthu i’w fwyta yn y fangre neu ei gwerthu i’w hyfed yn y fangre;
(b)mae bwyd neu ddiod a werthir i’w fwyta neu i’w hyfed mewn ardal sy’n gyfagos i’r fangre lle y mae seddi yn cael eu rhoi ar gael i gwsmeriaid i’w drin neu i’w thrin fel pe bai’n cael ei werthu i’w fwyta yn y fangre neu ei gwerthu i’w hyfed yn y fangre.
(9) Pan fo mangre reoleiddiedig nad yw wedi ei hawdurdodi ar gyfer gwerthu neu gyflenwi alcohol i’w yfed yn y fangre yn caniatáu i gwsmeriaid yfed eu halcohol eu hunain yn y fangre, mae paragraffau (4) i (7) yn gymwys i’r mangreoedd hynny fel y maent yn gymwys i fangreoedd sydd wedi eu hawdurdodi ar gyfer gwerthu neu gyflenwi alcohol i’w yfed yn y fangre.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Rhl. 21 mewn grym ar 9.11.2020, gweler rhl. 1(3)
22.—(1) Rhaid i berson (“P”) sy’n teithio fel teithiwr mewn cerbyd a ddefnyddir i ddarparu gwasanaeth trafnidiaeth gyhoeddus wisgo gorchudd wyneb.
(2) Ond nid yw hyn yn ofynnol—
(a)pan fo esemptiad yn gymwys o dan baragraff (3);
(b)pan fo gan P esgus rhesymol dros beidio â gwisgo gorchudd wyneb, ac o ran hynny gweler paragraff (4).
(3) Mae esemptiad i’r gofyniad i wisgo gorchudd wyneb yn gymwys—
(a)pan fo P yn blentyn o dan 11 oed;
(b)mewn cerbyd sy’n darparu gwasanaeth cludiant i’r ysgol;
(c)ar fferi—
(i)pan fo’r rhan o’r fferi sydd ar agor i deithwyr yn yr awyr agored yn gyfan gwbl, neu
(ii)pan ellir cynnal pellter o 2 fetr o leiaf rhwng personau ar y rhan o’r fferi sydd ar agor i deithwyr;
(d)ar long fordeithio;
(e)pan ddyrennir caban, man cysgu neu lety tebyg arall i P yn y cerbyd, ar unrhyw adeg pan yw P yn y llety hwnnw—
(i)ar ei ben ei hunan, neu
(ii)gydag aelodau o aelwyd P neu ofalwr i aelod o’r aelwyd yn unig;
(f)pan—
(i)caniateir i P, neu pan fo’n ofynnol fel arfer i P, fynd i gerbyd ac aros ynddo wrth ddefnyddio’r gwasanaeth trafnidiaeth gyhoeddus,
(ii)na fo’r cerbyd ei hunan yn cael ei ddefnyddio ar gyfer darparu gwasanaeth trafnidiaeth gyhoeddus, a
(iii)bo P yn aros yn y cerbyd hwnnw;
(g)ar gerbyd awyr na chychwynnodd o fan yng Nghymru, ac nad yw i lanio mewn man yng Nghymru;
(h)ar lestr nad yw’n docio mewn porthladd yng Nghymru.
(4) Mae’r amgylchiadau pan fo gan P esgus rhesymol dros beidio â gwisgo gorchudd wyneb yn cynnwys—
(a)pan na fo P yn gallu rhoi gorchudd am ei wyneb, neu wisgo neu dynnu gorchudd wyneb, oherwydd salwch neu nam corfforol neu feddyliol, neu anabledd (o fewn yr ystyr a roddir i “disability” yn adran 6 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010(1));
(b)pan fo P yn gorfod tynnu’r gorchudd wyneb er mwyn cyfathrebu â pherson sy’n cael anhawster i gyfathrebu (mewn perthynas â lleferydd, iaith neu fel arall);
(c)pan fo P yn gorfod tynnu’r gorchudd wyneb er mwyn osgoi niwed neu anaf, neu’r risg o niwed neu anaf, i P ei hunan neu i eraill;
(d)pan fo P yn teithio i osgoi anaf, neu i ddianc rhag risg o niwed, ac nad oes gan P orchudd wyneb;
(e)pan fo P yn gorfod tynnu’r gorchudd wyneb i—
(i)cymryd meddyginiaeth;
(ii)bwyta neu yfed, os caniateir gwneud hyn yn y cerbyd a bod hynny’n rhesymol angenrheidiol (er enghraifft oherwydd hyd y daith);
(f)pan ofynnir i P dynnu’r gorchudd wyneb gan—
(i)swyddog gorfodaeth, neu
(ii)gweithredwr y gwasanaeth trafnidiaeth gyhoeddus, cyflogai i’r gweithredwr neu berson sydd wedi ei awdurdodi gan y gweithredwr.
(5) Rhaid i weithredwr gwasanaeth trafnidiaeth gyhoeddus y mae paragraff (1) yn gymwys iddo ddarparu gwybodaeth i deithwyr am y gofyniad i wisgo gorchuddion wyneb yn ei gerbydau.
(6) At ddibenion y rheoliad hwn ystyr “gwasanaeth cludiant i’r ysgol” yw unrhyw wasanaeth cludiant nad yw ond yn cael ei ddarparu at ddiben—
(a)cludo person i’r ysgol ac o’r ysgol neu’r man arall y mae’r person yn cael addysg neu hyfforddiant ynddo, neu
(b)hwyluso fel arall bresenoldeb person mewn ysgol neu fan arall y mae’r person yn cael addysg neu hyfforddiant ynddo.
Gwybodaeth Cychwyn
I2Rhl. 22 mewn grym ar 9.11.2020, gweler rhl. 1(3)
23.—(1) Rhaid i berson (“P”) wisgo gorchudd wyneb yn ardaloedd cyhoeddus o dan do mangreoedd y mae gan y cyhoedd fynediad iddynt neu y caniateir i’r cyhoedd gael mynediad iddynt, pa un ai drwy dalu neu fel arall.
(2) Ond nid yw hyn yn ofynnol—
(a)pan fo P yn blentyn o dan 11 oed;
(b)pan fo gan P esgus rhesymol dros beidio â gwisgo gorchudd wyneb, ac o ran hynny gweler paragraff (3).
(3) Mae’r amgylchiadau pan fo gan P esgus rhesymol dros beidio â gwisgo gorchudd wyneb yn cynnwys—
(a)pan na fo P yn gallu rhoi gorchudd am ei wyneb, neu wisgo neu dynnu gorchudd wyneb, oherwydd salwch neu nam corfforol neu feddyliol, neu anabledd (o fewn yr ystyr a roddir i “disability” yn adran 6 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010);
(b)pan fo P yn ymgymryd â gweithgaredd ac y gellir ystyried yn rhesymol fod gwisgo gorchudd wyneb yn ystod y gweithgaredd hwnnw yn peri risg i iechyd P;
(c)pan fo P yn gorfod tynnu’r gorchudd wyneb er mwyn cyfathrebu â pherson sy’n cael anhawster i gyfathrebu (mewn perthynas â lleferydd, iaith neu fel arall);
(d)pan fo P yn gorfod tynnu’r gorchudd wyneb er mwyn osgoi niwed neu anaf, neu’r risg o niwed neu anaf, i P ei hunan neu i eraill;
(e)pan fo P yn y fangre i osgoi anaf, neu i ddianc rhag risg o niwed, ac nad oes gan P orchudd wyneb;
(f)pan fo P yn gorfod tynnu’r gorchudd wyneb i—
(i)cymryd meddyginiaeth;
(ii)bwyta neu yfed, pan fo’n rhesymol angenrheidiol;
(g)pan ofynnir i P dynnu’r gorchudd wyneb gan swyddog gorfodaeth;
(h)pan fo P yn eistedd mewn mangre lle y gwerthir bwyd neu ddiod, neu lle y’i darperir fel arall, i’w fwyta neu i’w hyfed yn y fangre.
Gwybodaeth Cychwyn
I3Rhl. 23 mewn grym ar 9.11.2020, gweler rhl. 1(3)
24.—(1) Rhaid i berson y mae’n ofynnol iddo gymryd mesurau rhesymol o dan reoliad 21(2) roi sylw i ganllawiau a ddyroddir gan Weinidogion Cymru ynghylch y mesurau hynny.
(2) Rhaid i weithredwr gwasanaeth trafnidiaeth gyhoeddus y mae rheoliad 22 yn gymwys iddo roi sylw i ganllawiau a ddyroddir gan Weinidogion Cymru ynghylch—
(a)y gofyniad i wisgo gorchudd wyneb yn unol â pharagraffau (1) i (4) o reoliad 22 a gorfodi’r gofyniad hwnnw o dan reoliad 30;
(b)darparu gwybodaeth i deithwyr yn unol â pharagraff (5) o reoliad 22.
(3) O ran Gweinidogion Cymru—
(a)cânt ddiwygio canllawiau a ddyroddir o dan baragraff (1) neu (2), a
(b)rhaid iddynt gyhoeddi’r canllawiau (ac unrhyw ddiwygiadau).
(4) Caiff canllawiau o dan y rheoliad hwn gynnwys (drwy gyfeirio neu drosi) ganllawiau, codau ymarfer neu ddogfennau eraill a gyhoeddir gan berson arall (er enghraifft, cymdeithas fasnach, corff sy’n cynrychioli aelodau o ddiwydiant neu undeb llafur).
(5) Mae canllawiau a ddyroddir gan Weinidogion Cymru o dan baragraff (1) neu (2) o reoliad 20 o Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 3) (Cymru) 2020(2) i’w trin fel pe baent yn ganllawiau a ddyroddir o dan baragraff (1) neu (2) o’r rheoliad hwn, yn ôl y digwydd.
Gwybodaeth Cychwyn
I4Rhl. 24 mewn grym ar 9.11.2020, gweler rhl. 1(3)
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Point in Time: This becomes available after navigating to view revised legislation as it stood at a certain point in time via Advanced Features > Show Timeline of Changes or via a point in time advanced search. A point in time version is only available in English.
Geographical Extent: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.
Show Timeline of Changes: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: