xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 6LL+CLleihau’r risg o ddod i gysylltiad â’r coronafeirws

Gofyniad i gymryd mesurau ataliol mewn mangre reoleiddiedig i leihau risgLL+C

21.—(1At ddibenion paragraff (2)

(a)ystyr “mangre reoleiddiedig” yw—

(i)mangre busnesau neu wasanaethau a restrir yn Rhan 1 o Atodlen 2;

(ii)cerbyd a ddefnyddir i ddarparu gwasanaeth trafnidiaeth gyhoeddus;

(iii)mangre arall lle y mae gwaith yn cael ei wneud;

(b)ystyr y “person cyfrifol” yw—

(i)mewn perthynas â mangre reoleiddiedig y cyfeirir ati yn is-baragraff (a)(i) neu (ii), y person sy’n gyfrifol am y fangre,

(ii)mewn perthynas â mangre reoleiddiedig o’r math y cyfeirir ato yn is-baragraff (a)(iii), y person sy’n gyfrifol am y gwaith sy’n cael ei wneud yn y fangre.

(2At ddibenion lleihau’r risg o ddod i gysylltiad â’r coronafeirws mewn mangre reoleiddiedig, neu ledaenu’r coronafeirws gan y rheini sydd wedi bod mewn mangre reoleiddiedig, rhaid i’r person cyfrifol—

(a)cymryd pob mesur rhesymol i sicrhau—

(i)y cynhelir pellter o 2 fetr rhwng unrhyw bersonau yn y fangre (ac eithrio rhwng aelodau o’r un aelwyd neu ofalwr a’r person sy’n cael cynhorthwy gan y gofalwr);

(ii)pan fo’n ofynnol i bersonau aros i fynd i’r fangre, y cynhelir pellter o 2 fetr rhyngddynt (ac eithrio rhwng aelodau o’r un aelwyd neu ofalwr a’r person sy’n cael cynhorthwy gan y gofalwr),

(b)cymryd unrhyw fesurau rhesymol eraill at y diben hwnnw, er enghraifft mesurau sy’n cyfyngu ar ryngweithio agos wyneb yn wyneb ac yn cynnal hylendid megis—

(i)newid trefn mangre gan gynnwys lleoliad dodrefn a gweithfannau;

(ii)rheoli’r defnydd o fynedfeydd, tramwyfeydd, grisiau a lifftiau;

(iii)rheoli’r defnydd o gyfleusterau a rennir megis toiledau a cheginau;

(iv)rheoli’r defnydd o unrhyw ran arall o’r fangre neu fynediad iddi fel arall;

(v)gosod rhwystrau neu sgriniau;

(vi)darparu, neu’n ei gwneud yn ofynnol defnyddio, cyfarpar diogelu personol, ac

(c)darparu gwybodaeth i’r rheini sy’n mynd i’r fangre neu’n gweithio ynddi ynglŷn â sut i leihau’r risg o ddod i gysylltiad â’r coronafeirws.

(3Mae mesurau y gellir eu cymryd o dan baragraff (2) hefyd yn cynnwys—

(a)peidio â gwneud gweithgareddau penodol;

(b)cau rhan o’r fangre;

(c)caniatáu i berson sydd fel arfer yn gweithio yn y fangre ynysu am gyfnod penodedig, a’i alluogi i wneud hynny, oherwydd profi’n bositif am y coronafeirws neu am ei fod wedi dod i gysylltiad agos â rhywun sydd wedi profi’n bositif, pan fo—

(i)Gweinidogion Cymru wedi gofyn i’r person hwnnw wneud hynny;

(ii)hysbysiad a roddir gan swyddog olrhain cysylltiadau yn ei gwneud yn ofynnol i’r person hwnnw wneud hynny;

(d)casglu gwybodaeth gyswllt oddi wrth bob person yn y fangre a’i chadw am 21 o ddiwrnodau at ddiben ei darparu i unrhyw un o’r canlynol, ar eu cais neu ar ei gais—

(i)Gweinidogion Cymru;

(ii)swyddog olrhain cysylltiadau;

(e)cymryd mesurau rhesymol i sicrhau bod gwybodaeth gyswllt o’r fath yn gywir.

(4Pan fo paragraff (2) yn gymwys i berson sy’n gyfrifol am fangre sydd wedi ei hawdurdodi ar gyfer gwerthu neu gyflenwi alcohol i’w yfed yn y fangre, rhaid gwerthu neu gyflenwi bwyd neu ddiod i’w fwyta neu i’w hyfed yn y fangre yn unol â’r mesurau rhesymol a bennir ym mharagraff (5) (yn ddarostyngedig i baragraffau (6) a (7)).

(5Y mesurau rhesymol yw—

(a)bod rhaid bod person sy’n rheoli mynediad i’r fangre ac sy’n dyrannu cyfnod amser cyfyngedig y caiff cwsmeriaid aros yn y fangre ar ei gyfer;

(b)bod rhaid i gwsmeriaid fod yn eistedd yn y fangre yn unrhyw le ac eithrio wrth far—

(i)pan fyddant yn archebu bwyd neu ddiod,

(ii)pan weinir bwyd neu ddiod iddynt, a

(iii)pan fyddant yn bwyta neu’n yfed.

(6Ond pan fo bwyd yn cael ei ddarparu yn y fangre ar sail bwffe, caiff cwsmeriaid ddewis bwyd o’r bwffe a dychwelyd i’r man lle y maent yn eistedd ar yr amod y cynhelir pellter o 2 fetr rhwng unrhyw bersonau wrth y bwffe (ac eithrio rhwng aelodau o’r un aelwyd neu ofalwr a’r person sy’n cael cynhorthwy gan y gofalwr).

(7Nid yw is-baragraffau (a) a (b) o baragraff (5) yn gymwys i—

(a)ffreuturau yn y gweithle, neu

(b)mangreoedd mewn sefydliad addysgol.

(8At ddibenion paragraff (4)

(a)nid yw bwyd neu ddiod a werthir mewn llety gwyliau neu lety teithio fel rhan o wasanaeth ystafell i’w drin neu i’w thrin fel pe bai’n cael ei werthu i’w fwyta yn y fangre neu ei gwerthu i’w hyfed yn y fangre;

(b)mae bwyd neu ddiod a werthir i’w fwyta neu i’w hyfed mewn ardal sy’n gyfagos i’r fangre lle y mae seddi yn cael eu rhoi ar gael i gwsmeriaid i’w drin neu i’w thrin fel pe bai’n cael ei werthu i’w fwyta yn y fangre neu ei gwerthu i’w hyfed yn y fangre.

(9Pan fo mangre reoleiddiedig nad yw wedi ei hawdurdodi ar gyfer gwerthu neu gyflenwi alcohol i’w yfed yn y fangre yn caniatáu i gwsmeriaid yfed eu halcohol eu hunain yn y fangre, mae paragraffau (4) i (7) yn gymwys i’r mangreoedd hynny fel y maent yn gymwys i fangreoedd sydd wedi eu hawdurdodi ar gyfer gwerthu neu gyflenwi alcohol i’w yfed yn y fangre.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Rhl. 21 mewn grym ar 9.11.2020, gweler rhl. 1(3)

Gofyniad i wisgo gorchudd wyneb ar drafnidiaeth gyhoeddusLL+C

22.—(1Rhaid i berson (“P”) sy’n teithio fel teithiwr mewn cerbyd a ddefnyddir i ddarparu gwasanaeth trafnidiaeth gyhoeddus wisgo gorchudd wyneb.

(2Ond nid yw hyn yn ofynnol—

(a)pan fo esemptiad yn gymwys o dan baragraff (3);

(b)pan fo gan P esgus rhesymol dros beidio â gwisgo gorchudd wyneb, ac o ran hynny gweler paragraff (4).

(3Mae esemptiad i’r gofyniad i wisgo gorchudd wyneb yn gymwys—

(a)pan fo P yn blentyn o dan 11 oed;

(b)mewn cerbyd sy’n darparu gwasanaeth cludiant i’r ysgol;

(c)ar fferi—

(i)pan fo’r rhan o’r fferi sydd ar agor i deithwyr yn yr awyr agored yn gyfan gwbl, neu

(ii)pan ellir cynnal pellter o 2 fetr o leiaf rhwng personau ar y rhan o’r fferi sydd ar agor i deithwyr;

(d)ar long fordeithio;

(e)pan ddyrennir caban, man cysgu neu lety tebyg arall i P yn y cerbyd, ar unrhyw adeg pan yw P yn y llety hwnnw—

(i)ar ei ben ei hunan, neu

(ii)gydag aelodau o aelwyd P neu ofalwr i aelod o’r aelwyd yn unig;

(f)pan—

(i)caniateir i P, neu pan fo’n ofynnol fel arfer i P, fynd i gerbyd ac aros ynddo wrth ddefnyddio’r gwasanaeth trafnidiaeth gyhoeddus,

(ii)na fo’r cerbyd ei hunan yn cael ei ddefnyddio ar gyfer darparu gwasanaeth trafnidiaeth gyhoeddus, a

(iii)bo P yn aros yn y cerbyd hwnnw;

(g)ar gerbyd awyr na chychwynnodd o fan yng Nghymru, ac nad yw i lanio mewn man yng Nghymru;

(h)ar lestr nad yw’n docio mewn porthladd yng Nghymru.

(4Mae’r amgylchiadau pan fo gan P esgus rhesymol dros beidio â gwisgo gorchudd wyneb yn cynnwys—

(a)pan na fo P yn gallu rhoi gorchudd am ei wyneb, neu wisgo neu dynnu gorchudd wyneb, oherwydd salwch neu nam corfforol neu feddyliol, neu anabledd (o fewn yr ystyr a roddir i “disability” yn adran 6 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010(1));

(b)pan fo P yn gorfod tynnu’r gorchudd wyneb er mwyn cyfathrebu â pherson sy’n cael anhawster i gyfathrebu (mewn perthynas â lleferydd, iaith neu fel arall);

(c)pan fo P yn gorfod tynnu’r gorchudd wyneb er mwyn osgoi niwed neu anaf, neu’r risg o niwed neu anaf, i P ei hunan neu i eraill;

(d)pan fo P yn teithio i osgoi anaf, neu i ddianc rhag risg o niwed, ac nad oes gan P orchudd wyneb;

(e)pan fo P yn gorfod tynnu’r gorchudd wyneb i—

(i)cymryd meddyginiaeth;

(ii)bwyta neu yfed, os caniateir gwneud hyn yn y cerbyd a bod hynny’n rhesymol angenrheidiol (er enghraifft oherwydd hyd y daith);

(f)pan ofynnir i P dynnu’r gorchudd wyneb gan—

(i)swyddog gorfodaeth, neu

(ii)gweithredwr y gwasanaeth trafnidiaeth gyhoeddus, cyflogai i’r gweithredwr neu berson sydd wedi ei awdurdodi gan y gweithredwr.

(5Rhaid i weithredwr gwasanaeth trafnidiaeth gyhoeddus y mae paragraff (1) yn gymwys iddo ddarparu gwybodaeth i deithwyr am y gofyniad i wisgo gorchuddion wyneb yn ei gerbydau.

(6At ddibenion y rheoliad hwn ystyr “gwasanaeth cludiant i’r ysgol” yw unrhyw wasanaeth cludiant nad yw ond yn cael ei ddarparu at ddiben—

(a)cludo person i’r ysgol ac o’r ysgol neu’r man arall y mae’r person yn cael addysg neu hyfforddiant ynddo, neu

(b)hwyluso fel arall bresenoldeb person mewn ysgol neu fan arall y mae’r person yn cael addysg neu hyfforddiant ynddo.

Gwybodaeth Cychwyn

I2Rhl. 22 mewn grym ar 9.11.2020, gweler rhl. 1(3)

Gofyniad i wisgo gorchudd wyneb mewn mannau cyhoeddus penodol o dan doLL+C

23.—(1Rhaid i berson (“P”) wisgo gorchudd wyneb yn ardaloedd cyhoeddus o dan do mangreoedd y mae gan y cyhoedd fynediad iddynt neu y caniateir i’r cyhoedd gael mynediad iddynt, pa un ai drwy dalu neu fel arall.

(2Ond nid yw hyn yn ofynnol—

(a)pan fo P yn blentyn o dan 11 oed;

(b)pan fo gan P esgus rhesymol dros beidio â gwisgo gorchudd wyneb, ac o ran hynny gweler paragraff (3).

(3Mae’r amgylchiadau pan fo gan P esgus rhesymol dros beidio â gwisgo gorchudd wyneb yn cynnwys—

(a)pan na fo P yn gallu rhoi gorchudd am ei wyneb, neu wisgo neu dynnu gorchudd wyneb, oherwydd salwch neu nam corfforol neu feddyliol, neu anabledd (o fewn yr ystyr a roddir i “disability” yn adran 6 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010);

(b)pan fo P yn ymgymryd â gweithgaredd ac y gellir ystyried yn rhesymol fod gwisgo gorchudd wyneb yn ystod y gweithgaredd hwnnw yn peri risg i iechyd P;

(c)pan fo P yn gorfod tynnu’r gorchudd wyneb er mwyn cyfathrebu â pherson sy’n cael anhawster i gyfathrebu (mewn perthynas â lleferydd, iaith neu fel arall);

(d)pan fo P yn gorfod tynnu’r gorchudd wyneb er mwyn osgoi niwed neu anaf, neu’r risg o niwed neu anaf, i P ei hunan neu i eraill;

(e)pan fo P yn y fangre i osgoi anaf, neu i ddianc rhag risg o niwed, ac nad oes gan P orchudd wyneb;

(f)pan fo P yn gorfod tynnu’r gorchudd wyneb i—

(i)cymryd meddyginiaeth;

(ii)bwyta neu yfed, pan fo’n rhesymol angenrheidiol;

(g)pan ofynnir i P dynnu’r gorchudd wyneb gan swyddog gorfodaeth;

(h)pan fo P yn eistedd mewn mangre lle y gwerthir bwyd neu ddiod, neu lle y’i darperir fel arall, i’w fwyta neu i’w hyfed yn y fangre.

Gwybodaeth Cychwyn

I3Rhl. 23 mewn grym ar 9.11.2020, gweler rhl. 1(3)

Canllawiau ar leihau dod i gysylltiad â’r coronafeirwsLL+C

24.—(1Rhaid i berson y mae’n ofynnol iddo gymryd mesurau rhesymol o dan reoliad 21(2) roi sylw i ganllawiau a ddyroddir gan Weinidogion Cymru ynghylch y mesurau hynny.

(2Rhaid i weithredwr gwasanaeth trafnidiaeth gyhoeddus y mae rheoliad 22 yn gymwys iddo roi sylw i ganllawiau a ddyroddir gan Weinidogion Cymru ynghylch—

(a)y gofyniad i wisgo gorchudd wyneb yn unol â pharagraffau (1) i (4) o reoliad 22 a gorfodi’r gofyniad hwnnw o dan reoliad 30;

(b)darparu gwybodaeth i deithwyr yn unol â pharagraff (5) o reoliad 22.

(3O ran Gweinidogion Cymru—

(a)cânt ddiwygio canllawiau a ddyroddir o dan baragraff (1) neu (2), a

(b)rhaid iddynt gyhoeddi’r canllawiau (ac unrhyw ddiwygiadau).

(4Caiff canllawiau o dan y rheoliad hwn gynnwys (drwy gyfeirio neu drosi) ganllawiau, codau ymarfer neu ddogfennau eraill a gyhoeddir gan berson arall (er enghraifft, cymdeithas fasnach, corff sy’n cynrychioli aelodau o ddiwydiant neu undeb llafur).

(5Mae canllawiau a ddyroddir gan Weinidogion Cymru o dan baragraff (1) neu (2) o reoliad 20 o Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 3) (Cymru) 2020(2) i’w trin fel pe baent yn ganllawiau a ddyroddir o dan baragraff (1) neu (2) o’r rheoliad hwn, yn ôl y digwydd.

Gwybodaeth Cychwyn

I4Rhl. 24 mewn grym ar 9.11.2020, gweler rhl. 1(3)