RHAN 4Gofyniad i ynysu etc.
PENNOD 1Gofyniad i ynysu etc. pan fo person yn cael canlyniad positif am y coronafeirws neu wedi dod i gysylltiad agos â pherson o’r fath
Gofyniad i ynysu ar ôl cysylltiad agos: oedolyn13
1
Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo swyddog olrhain cysylltiadau yn hysbysu oedolyn (“O”) fod O wedi dod i gysylltiad agos ar neu ar ôl 9 Tachwedd 2020 â pherson sydd wedi cael canlyniad positif am y coronafeirws (“C”).
2
Ni chaiff O ymadael â’r man lle y mae O yn byw, neu fod y tu allan i’r man hwnnw, cyn diwedd diwrnod olaf ynysiad O oni bai bod rheoliad 15 yn gymwys.
3
Rhaid i O hysbysu swyddog olrhain cysylltiadau, os yw’n gofyn am hynny, am gyfeiriad y man lle y mae O yn byw.
4
Diwrnod olaf ynysiad O yw diwrnod olaf y cyfnod o 14 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod y mae swyddog olrhain cysylltiadau yn ei gofnodi fel y diwrnod olaf y daeth O i gysylltiad agos ag C cyn i O gael yr hysbysiad y cyfeirir ato ym mharagraff (1).
5
Ond pan fo O yn byw yn yr un man ag C, diwrnod olaf ynysiad O yw—
a
pan fo C, neu, pan fo C yn blentyn, oedolyn cyfrifol (“OC”) ar ran C, yn rhoi gwybod i swyddog olrhain cysylltiadau y diwrnod y datblygodd C symptomau gyntaf, diwrnod olaf y cyfnod o 14 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod y mae C, neu OC, yn rhoi gwybod mai dyna’r diwrnod y datblygodd C symptomau gyntaf;
b
pan na roddir gwybod am unrhyw symptomau, diwrnod olaf y cyfnod o 14 o ddiwrnodau sy’n dechrau â diwrnod y prawf a arweiniodd at roi’r hysbysiad i C, neu OC, fod C wedi cael canlyniad positif am y coronafeirws.