Search Legislation

Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 4) (Cymru) 2020

 Help about what version

What Version

 Help about advanced features

Advanced Features

 Help about opening options

Opening OptionsExpand opening options

Newidiadau dros amser i: Adran 18

 Help about opening options

Fersiwn wedi'i ddisodliFersiwn wedi ei ddisodli: 10/12/2020

Alternative versions:

Statws

Golwg cyfnod mewn amser fel yr oedd ar 09/11/2020. Mae'r fersiwn hon o'r hwn (hon) disodlwyd y ddarpariaeth. Help about Status

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 4) (Cymru) 2020, Adran 18. Help about Changes to Legislation

Pŵer i ddefnyddio a datgelu gwybodaethLL+C

18.—(1Ni chaiff swyddog olrhain cysylltiadau ond datgelu gwybodaeth berthnasol i berson (“deiliad yr wybodaeth”) y mae’n angenrheidiol i ddeiliad yr wybodaeth ei chael—

(a)at ddibenion—

(i)cyflawni swyddogaeth o dan y Rheoliadau hyn,

(ii)atal perygl i iechyd y cyhoedd o ganlyniad i ledaeniad haint neu halogiad â’r coronafeirws, neu

(iii)monitro lledaeniad haint neu halogiad â’r coronafeirws, neu

(b)at ddiben sy’n gysylltiedig â diben a ddisgrifir yn is-baragraff (a) neu sydd fel arall â chysylltiad â’r diben hwnnw.

(2Gwybodaeth berthnasol yw—

(a)pan fo’n ofynnol i berson ynysu yn unol â rheoliad 11(2), 12(2), 13(2) neu 14(2)—

(i)gwybodaeth gyswllt a dyddiad geni’r person;

(ii)y dyddiad y cafodd y person hysbysiad o dan reoliad 11(1), 12(1), 13(1) neu 14(1), neu, pan fo’r person yn blentyn, y person a chanddo gyfrifoldeb dros y plentyn;

(iii)y cyfnod penodol y mae’n ofynnol i’r person beidio ag ymadael â’r man lle y mae’r person yn byw neu fod y tu allan iddo mewn cysylltiad ag ef, wedi ei gyfrifo yn unol â rheoliad 11, 12, 13 neu 14;

(iv)manylion unrhyw hysbysiadau cosb benodedig sydd wedi eu dyroddi, neu achosion sydd wedi eu dwyn, mewn perthynas â throsedd o dorri rheoliad 11, 12, 13 neu 14 yr honnir bod y person wedi ei chyflawni;

(b)cadarnhad na chafodd person ganlyniad positif mewn prawf am y coronafeirws (gan gynnwys enw, gwybodaeth gyswllt a dyddiad geni’r person).

(3Ni chaiff deiliad yr wybodaeth ddefnyddio gwybodaeth berthnasol a ddatgelir o dan baragraff (1) ond i’r graddau y bo hynny’n angenrheidiol—

(a)at ddibenion—

(i)cyflawni swyddogaeth o dan y Rheoliadau hyn,

(ii)atal perygl i iechyd y cyhoedd o ganlyniad i ledaeniad haint neu halogiad â’r coronafeirws, neu

(iii)monitro lledaeniad haint neu halogiad â’r coronafeirws, neu

(b)at ddiben sy’n gysylltiedig â diben a ddisgrifir ym is-baragraff (a) neu sydd fel arall â chysylltiad â’r diben hwnnw.

(4Yn ddarostyngedig i baragraff (6), ni chaiff deiliad yr wybodaeth ond datgelu gwybodaeth berthnasol i berson arall (y “derbynnydd”) y mae’n angenrheidiol i’r derbynnydd ei chael—

(a)at ddibenion—

(i)cyflawni un o swyddogaethau’r derbynnydd o dan y Rheoliadau hyn,

(ii)atal perygl i iechyd y cyhoedd o ganlyniad i ledaeniad haint neu halogiad â’r coronafeirws, neu

(iii)monitro lledaeniad haint neu halogiad â’r coronafeirws, neu

(b)at ddiben sy’n gysylltiedig â diben a ddisgrifir yn is-baragraff (a) neu sydd fel arall â chysylltiad â’r diben hwnnw.

(5Yn ddarostyngedig i baragraff (7), nid yw datgeliad sydd wedi ei awdurdodi gan y rheoliad hwn yn torri—

(a)rhwymedigaeth o safbwynt cyfrinachedd sy’n ddyledus gan y person sy’n gwneud y datgeliad, na

(b)unrhyw gyfyngiad arall ar ddatgelu gwybodaeth (sut bynnag y’i gorfodir).

(6Nid yw’r rheoliad hwn yn cyfyngu ar yr amgylchiadau pan ganiateir i wybodaeth gael ei datgelu’n gyfreithlon fel arall o dan unrhyw ddeddfiad arall neu reol gyfreithiol.

(7Nid oes unrhyw beth yn y rheoliad hwn yn awdurdodi defnyddio neu ddatgelu data personol pan fo gwneud hynny yn torri’r ddeddfwriaeth diogelu data.

(8At ddibenion y rheoliad hwn, mae i “deddfwriaeth diogelu data” a “data personol” yr un ystyron â “data protection legislation” a “personal data” yn adran 3 o Ddeddf Diogelu Data 2018(1).

Gwybodaeth Cychwyn

I1Rhl. 18 mewn grym ar 9.11.2020, gweler rhl. 1(3)

Back to top

Options/Help