Gorfodi gofynion gorchuddion wyneb
30.—(1) Pan fo gan swyddog gorfodaeth sail resymol dros amau bod person (“P”) yn torri (neu ar fin torri) rheoliad 22(1), caiff y swyddog—
(a)cyfarwyddo P i beidio â mynd i’r cerbyd sy’n darparu’r gwasanaeth trafnidiaeth gyhoeddus o dan sylw;
(b)symud P o’r cerbyd.
(2) Pan fo gan—
(a)gweithredwr gwasanaeth trafnidiaeth gyhoeddus,
(b)cyflogai i’r gweithredwr, neu
(c)person sydd wedi ei awdurdodi gan y gweithredwr,
sail resymol dros amau bod person (“P”) ar fin torri rheoliad 22(1), caiff y gweithredwr, y cyflogai neu’r person awdurdodedig gyfarwyddo P i beidio â mynd i’r cerbyd sy’n darparu’r gwasanaeth trafnidiaeth gyhoeddus o dan sylw.
(3) Pan fo gan swyddog gorfodaeth sail resymol dros amau bod person (“P”) yn torri (neu ar fin torri) rheoliad 23(1), caiff y swyddog—
(a)cyfarwyddo P i beidio â mynd i’r fangre;
(b)symud P o’r fangre.