RHAN 8Troseddau a chosbau

Troseddau a chosbau35

1

Mae person sydd—

a

yn torri gofyniad yn rheoliad 4(1), 6(1) neu (3), 7(1), 9(1) neu (2), 11(2), 12(2), 13(2), 14(2), 16, 22(1) neu 23(1), neu

b

heb esgus rhesymol, yn torri gofyniad yn rheoliad 8(1), 11(3), 12(3), 13(3), 14(3), 19(1), 20(1) neu (2), neu 22(5),

yn cyflawni trosedd.

2

Mae’n drosedd i berson (“P”) roi gwybodaeth anwir neu gamarweiniol i swyddog olrhain cysylltiadau—

a

o dan reoliad 11(3), 12(3), 13(3) neu 14(3), neu

b

ynghylch—

i

gwybodaeth gyswllt P, neu

ii

personau y gall P fod wedi dod i gysylltiad agos â hwy,

pan fo P yn gwybod bod yr wybodaeth yn anwir neu’n gamarweiniol, neu pan fo P yn ddi-hid o ran a yw’r wybodaeth yn anwir neu’n gamarweiniol.

3

Mae person sy’n cymryd rhan mewn cynulliad—

a

sy’n digwydd mewn annedd breifat,

b

lle y mae mwy na 15 o bobl yn bresennol, ac

c

lle y mae pobl yn ymgynnull yn groes i reoliad 4(1),

yn cyflawni trosedd.

4

Mae person sy’n rhwystro, heb esgus rhesymol, unrhyw berson rhag cyflawni swyddogaeth o dan y Rheoliadau hyn yn cyflawni trosedd.

5

Mae person sydd—

a

heb esgus rhesymol, yn torri paragraff 3(1) o Atodlen 3,

b

yn torri paragraff 3(2) o’r Atodlen honno, neu

c

heb esgus rhesymol, yn tynnu, yn cuddio neu’n difrodi hysbysiad neu arwydd y mae’n ofynnol ei arddangos o dan baragraff 7(2)(a) o’r Atodlen honno,

yn cyflawni trosedd.

6

Mae person sydd, heb esgus rhesymol—

a

yn torri cyfarwyddyd a roddir—

i

gan swyddog gorfodaeth o dan Ran 7, neu

ii

gan weithredwr gwasanaeth trafnidiaeth gyhoeddus, cyflogai i’r gweithredwr, neu berson sydd wedi ei awdurdodi gan y gweithredwr, o dan reoliad 30(2), neu

b

yn methu â chydymffurfio â hysbysiad cydymffurfio a roddir gan swyddog gorfodaeth o dan reoliad 28(1),

yn cyflawni trosedd.

7

Mae trosedd o dan y Rheoliadau hyn i’w chosbi ar euogfarn ddiannod drwy ddirwy.

8

Mae adran 24 o Ddeddf yr Heddlu a Thystiolaeth Droseddol 198410 yn gymwys mewn perthynas â throsedd o dan y rheoliad hwn fel pe bai’r rhesymau yn is-adran (5) yn cynnwys—

a

cynnal iechyd y cyhoedd;

b

cynnal trefn gyhoeddus.

9

Yn y rheoliad hwn, mae i “cysylltiad agos” yr un ystyr ag yn Rhan 4.