Print Options
PrintThe Whole
Instrument
PrintThe Whole
Part
PrintThis
Section
only
Statws
This is the original version (as it was originally made).
Hunanargyhuddo
45.—(1) Caniateir i wybodaeth berthnasol gael ei defnyddio fel tystiolaeth yn erbyn y person y mae’r wybodaeth yn ymwneud ag ef mewn achos troseddol.
(2) Pan ddefnyddir yr wybodaeth mewn achos ac eithrio am drosedd o dan y Rheoliadau hyn neu adran 5 o Ddeddf Anudon 1911() (datganiadau anwir a wneir ac eithrio ar lw)—
(a)ni chaniateir i unrhyw dystiolaeth sy’n ymwneud â’r wybodaeth gael ei rhoi gan yr erlyniad nac ar ei ran, a
(b)ni chaniateir i unrhyw gwestiwn sy’n ymwneud â’r wybodaeth gael ei ofyn gan yr erlyniad nac ar ei ran.
(3) Nid yw paragraff (2) yn gymwys—
(a)os rhoddir tystiolaeth sy’n ymwneud â’r wybodaeth gan y person a’i darparodd, neu ar ei ran, yn ystod yr achos, neu
(b)os gofynnir cwestiwn sy’n ymwneud â’r wybodaeth gan y person hwnnw, neu ar ei ran, yn ystod yr achos.
(4) Yn y rheoliad hwn, ystyr “gwybodaeth berthnasol” yw—
(a)gwybodaeth sy’n wybodaeth berthnasol at ddibenion rheoliad 18;
(b)gwybodaeth, neu’r ateb i gwestiwn, a roddir mewn ymateb i ofyniad a osodir o dan reoliad 34(1);
(c)unrhyw beth sydd wedi ei gynnwys mewn dogfen neu gofnodion electronig a ddangosir mewn ymateb i ofyniad a osodir o dan baragraff 8(1) o Atodlen 3.
Back to top