Search Legislation

Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 4) (Cymru) 2020

 Help about what version

What Version

 Help about advanced features

Advanced Features

 Help about opening options

Opening OptionsExpand opening options

Newidiadau dros amser i: Adran 8

 Help about opening options

Fersiwn wedi'i ddisodliFersiwn wedi ei ddisodli: 20/12/2020

Alternative versions:

Statws

Golwg cyfnod mewn amser fel yr oedd ar 09/11/2020. Mae'r fersiwn hon o'r hwn (hon) disodlwyd y ddarpariaeth. Help about Status

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 4) (Cymru) 2020, Adran 8. Help about Changes to Legislation

Gwaharddiad ar drefnu digwyddiadau cerddoriaeth penodol sydd heb eu trwyddeduLL+C

8.—(1Ni chaiff unrhyw berson ymwneud â threfnu digwyddiad cerddorol perthnasol sydd heb ei drwyddedu.

(2At ddibenion y rheoliad hwn, ystyr “digwyddiad cerddorol perthnasol sydd heb ei drwyddedu” yw digwyddiad—

(a)y mae mwy na 30 o bobl yn bresennol ynddo,

(b)lle y mae cerddoriaeth yn cael ei chwarae neu ei pherfformio at ddiben adloniant, neu at ddibenion sy’n cynnwys y diben hwnnw, a

(c)lle o ran chwarae neu berfformio cerddoriaeth—

(i)y mae’n weithgaredd trwyddedadwy (o fewn ystyr Deddf Trwyddedu 2003(1)), a

(ii)nas cynhelir o dan awdurdodiad nac yn unol ag awdurdodiad (o fewn yr ystyr a roddir i “authorisation” gan adran 136(5) o’r Ddeddf honno).

(3At ddibenion y rheoliad hwn, nid yw person yn ymwneud â threfnu digwyddiad cerddorol perthnasol sydd heb ei drwyddedu os nad yw’r person ond yn ymwneud â’r digwyddiad drwy fynd iddo.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Rhl. 8 mewn grym ar 9.11.2020, gweler rhl. 1(3)

Back to top

Options/Help