Fersiwn wedi'i ddisodliFersiwn wedi ei ddisodli: 20/12/2020
Golwg cyfnod mewn amser fel yr oedd ar 04/12/2020. Mae'r fersiwn hon o'r hwn (hon) disodlwyd y ddarpariaeth.
Rydych yn edrych ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth fel yr oedd ar bwynt penodol mewn amser. Mae fersiwn ddiweddarach o hyn neu ddarpariaeth, gan gynnwys newidiadau ac effeithiau dilynol, yn disodli'r fersiwn hon.
Sylwer bod y term darpariaeth yn cael ei ddefnyddio i ddisgrifio elfen ddiffiniadwy mewn darn o ddeddfwriaeth sy'n cael effaith ddeddfwriaethol – fel Rhan, Pennod neu adran.
Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 4) (Cymru) 2020, Adran 9.
Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Ar hyn o bryd mae unrhyw newidiadau neu effeithiau hysbys a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol wedi'u gwneud i destun y ddeddfwriaeth yr ydych yn edrych arni gan y tîm golygyddol. Gweler 'Cwestiynau Cyffredin' am fanylion ynglŷn â'r amserlenni ar gyfer nodi a chofnodi effeithiau newydd ar y safle hwn.
9.—(1) Ni chaiff unrhyw berson sy’n byw [F1mewn ardal o’r DU sydd o dan gyfyngiadau] fynd i Gymru neu aros yng Nghymru heb esgus rhesymol.
(2) Ni chaiff unrhyw berson sy’n byw yng Nghymru ymadael â Chymru [F2at ddibenion mynd i ardal o’r DU sydd o dan gyfyngiadau neu aros mewn ardal o’r fath] heb esgus rhesymol.
(3) At ddibenion paragraffau (1) a (2), mae gan berson esgus rhesymol—
(a)os yw’r person yn ymadael â Chymru neu’n mynd i Gymru at ddiben sy’n rhesymol angenrheidiol ac nad oes dewis arall sy’n rhesymol ymarferol;
(b)os yw un o’r amgylchiadau ym mharagraff (5) yn gymwys.
(4) Mae enghreifftiau o ddibenion y gall fod yn rhesymol ymarferol i berson fynd i Gymru neu ymadael â Chymru atynt yn cynnwys—
(a)ceisio neu ddarparu cynhorthwy meddygol, neu gael gafael ar wasanaethau milfeddygol;
(b)gweithio neu ddarparu gwasanaethau gwirfoddol neu elusennol;
(c)cyflawni rhwymedigaeth gyfreithiol, gan gynnwys mynd i’r llys neu fodloni amodau mechnïaeth, neu gymryd rhan mewn achos llys;
(d)darparu, cael neu gael gafael ar ofal neu gynhorthwy, gan gynnwys gofal plant neu ofal personol perthnasol o fewn ystyr “relevant personal care” ym mharagraff 7(3B) o Atodlen 4 i Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006, pan fo’r person sy’n cael y gofal yn berson hyglwyf;
(e)mewn perthynas â phlant nad ydynt yn byw ar yr un aelwyd â’u rhieni, neu un o’u rhieni, parhau â threfniadau presennol ar gyfer gweld rhieni a phlant, a chyswllt rhyngddynt, ac at ddibenion yr is-baragraff hwn, mae “rhiant” yn cynnwys person nad yw’n rhiant i’r plentyn, ond sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn neu sydd â gofal drosto;
(f)symud cartref;
(g)ymgymryd â gweithgareddau mewn cysylltiad â phrynu, gwerthu, gosod neu rentu eiddo preswyl;
(h)cael gafael ar wasanaethau cyhoeddus neu gael y gwasanaethau hynny;
(i)cael gafael ar wasanaethau addysgol;
(j)cael—
(i)bwyd a chyflenwadau meddygol ar gyfer y rheini ar yr un aelwyd (gan gynnwys anifeiliaid ar yr aelwyd) neu ar gyfer personau hyglwyf;
(ii)cyflenwadau ar gyfer cynnal, cynnal a chadw a gweithrediad hanfodol yr aelwyd, neu aelwyd person hyglwyf;
(k)cael arian oddi wrth unrhyw fusnes neu wasanaeth a restrir ym mharagraff 3 neu 4 o Ran 1 o Atodlen 2 neu adneuo arian gydag unrhyw fusnes neu wasanaeth o’r fath;
(l)cymryd rhan mewn gweithgaredd wedi ei drefnu, neu hwyluso’r gweithgaredd hwnnw, er datblygiad neu lesiant plant (gan gynnwys chwaraeon, cerddoriaeth a gweithgareddau hamdden eraill megis y rheini a ddarperir ar gyfer plant y tu allan i oriau’r ysgol ac yn ystod gwyliau’r ysgol).
(5) Yr amgylchiadau y cyfeirir atynt ym mharagraff (3)(b) yw bod y person yn—
(a)darparu neu gael cynhorthwy brys;
(b)osgoi salwch, anaf neu risg arall o niwed;
(c)mynd i weinyddiad priodas neu ffurfiad partneriaeth sifil—
(i)fel parti i’r briodas neu’r bartneriaeth sifil,
(ii)os caiff ei wahodd i fynd i’r briodas neu’r bartneriaeth sifil, neu
(iii)fel gofalwr person sy’n mynd i’r briodas neu’r bartneriaeth sifil;
(d)mynd i angladd—
(i)fel person sy’n gyfrifol am drefnu’r angladd,
(ii)os caiff ei wahodd gan berson sy’n gyfrifol am drefnu’r angladd, neu
(iii)fel gofalwr person sy’n mynd i’r angladd;
(e)athletwr elît ac yn hyfforddi ac yn cystadlu;
(f)darparu hyfforddiant neu gymorth arall i athletwr elît, neu’n darparu cymorth mewn digwyddiad chwaraeon nad yw ond athletwyr elît yn cystadlu ynddo;
(g)teithio ar drafnidiaeth gyhoeddus ar daith sy’n dechrau yng Nghymru ac yn gorffen yng Nghymru;
(h)teithio i gymryd rhan mewn cynulliad gydag aelwyd estynedig y person yn unol â rheoliad 4 neu 6(2)(b).
[F3(6) At ddibenion y rheoliad hwn, ystyr “ardal o’r DU sydd o dan gyfyngiadau” yw —
(a)ardal o Loegr y pennir neu y disgrifir am y tro yn Rhan 2 o Atodlen 4 i Reoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Cyfyngiadau) (Pob Haen) (Lloegr) 2020 ei bod o fewn ardal Haen 3;
(b)ardal o’r Alban a bennir am y tro yn y tabl yn Atodlen 6 i Reoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws) (Cyfyngiadau a Gofynion) (Lefelau Lleol) (Yr Alban) 2020, pan fo’r tabl yn nodi ei bod yn ardal Lefel 3 neu Lefel 4;
(c)Gogledd Iwerddon.]
Diwygiadau Testunol
F1Geiriau yn rhl. 9(1) wedi eu hamnewid (4.12.2020 am 6.00 p.m.) gan Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws a Swyddogaethau Awdurdodau Lleol) (Diwygio) (Cymru) 2020 (O.S. 2020/1409), rhlau. 1(2), 2(2)(a)
F2Geiriau yn rhl. 9(2) wedi eu mewnosod (4.12.2020 am 6.00 p.m.) gan Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws a Swyddogaethau Awdurdodau Lleol) (Diwygio) (Cymru) 2020 (O.S. 2020/1409), rhlau. 1(2), 2(2)(b)
F3Rhl. 9(6) wedi ei fewnosod (4.12.2020 am 6.00 p.m.) gan Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws a Swyddogaethau Awdurdodau Lleol) (Diwygio) (Cymru) 2020 (O.S. 2020/1409), rhlau. 1(2), 2(2)(c)
Gwybodaeth Cychwyn
I1Rhl. 9 mewn grym ar 9.11.2020, gweler rhl. 1(3)
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Point in Time: This becomes available after navigating to view revised legislation as it stood at a certain point in time via Advanced Features > Show Timeline of Changes or via a point in time advanced search. A point in time version is only available in English.
Geographical Extent: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.
Show Timeline of Changes: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: