RHAN 3LL+CCyfyngiadau ar deithio

Cyfyngiad ar deithio i Gymru ac o GymruLL+C

9.—(1Ni chaiff unrhyw berson sy’n byw [F1mewn ardal o’r DU sydd o dan gyfyngiadau] fynd i Gymru neu aros yng Nghymru heb esgus rhesymol.

(2Ni chaiff unrhyw berson sy’n byw yng Nghymru ymadael â Chymru [F2at ddibenion mynd i ardal o’r DU sydd o dan gyfyngiadau neu aros mewn ardal o’r fath] heb esgus rhesymol.

(3At ddibenion paragraffau (1) a (2), mae gan berson esgus rhesymol—

(a)os yw’r person yn ymadael â Chymru neu’n mynd i Gymru at ddiben sy’n rhesymol angenrheidiol ac nad oes dewis arall sy’n rhesymol ymarferol;

(b)os yw un o’r amgylchiadau ym mharagraff (5) yn gymwys.

(4Mae enghreifftiau o ddibenion y gall fod yn rhesymol ymarferol i berson fynd i Gymru neu ymadael â Chymru atynt yn cynnwys—

(a)ceisio neu ddarparu cynhorthwy meddygol, neu gael gafael ar wasanaethau milfeddygol;

(b)gweithio neu ddarparu gwasanaethau gwirfoddol neu elusennol;

(c)cyflawni rhwymedigaeth gyfreithiol, gan gynnwys mynd i’r llys neu fodloni amodau mechnïaeth, neu gymryd rhan mewn achos llys;

(d)darparu, cael neu gael gafael ar ofal neu gynhorthwy, gan gynnwys gofal plant neu ofal personol perthnasol o fewn ystyr “relevant personal care” ym mharagraff 7(3B) o Atodlen 4 i Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006, pan fo’r person sy’n cael y gofal yn berson hyglwyf;

(e)mewn perthynas â phlant nad ydynt yn byw ar yr un aelwyd â’u rhieni, neu un o’u rhieni, parhau â threfniadau presennol ar gyfer gweld rhieni a phlant, a chyswllt rhyngddynt, ac at ddibenion yr is-baragraff hwn, mae “rhiant” yn cynnwys person nad yw’n rhiant i’r plentyn, ond sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn neu sydd â gofal drosto;

(f)symud cartref;

(g)ymgymryd â gweithgareddau mewn cysylltiad â phrynu, gwerthu, gosod neu rentu eiddo preswyl;

(h)cael gafael ar wasanaethau cyhoeddus neu gael y gwasanaethau hynny;

(i)cael gafael ar wasanaethau addysgol;

(j)cael—

(i)bwyd a chyflenwadau meddygol ar gyfer y rheini ar yr un aelwyd (gan gynnwys anifeiliaid ar yr aelwyd) neu ar gyfer personau hyglwyf;

(ii)cyflenwadau ar gyfer cynnal, cynnal a chadw a gweithrediad hanfodol yr aelwyd, neu aelwyd person hyglwyf;

(k)cael arian oddi wrth unrhyw fusnes neu wasanaeth a restrir ym mharagraff 3 neu 4 o Ran 1 o Atodlen 2 neu adneuo arian gydag unrhyw fusnes neu wasanaeth o’r fath;

(l)cymryd rhan mewn gweithgaredd wedi ei drefnu, neu hwyluso’r gweithgaredd hwnnw, er datblygiad neu lesiant plant (gan gynnwys chwaraeon, cerddoriaeth a gweithgareddau hamdden eraill megis y rheini a ddarperir ar gyfer plant y tu allan i oriau’r ysgol ac yn ystod gwyliau’r ysgol).

(5Yr amgylchiadau y cyfeirir atynt ym mharagraff (3)(b) yw bod y person yn—

(a)darparu neu gael cynhorthwy brys;

(b)osgoi salwch, anaf neu risg arall o niwed;

(c)mynd i weinyddiad priodas neu ffurfiad partneriaeth sifil—

(i)fel parti i’r briodas neu’r bartneriaeth sifil,

(ii)os caiff ei wahodd i fynd i’r briodas neu’r bartneriaeth sifil, neu

(iii)fel gofalwr person sy’n mynd i’r briodas neu’r bartneriaeth sifil;

(d)mynd i angladd—

(i)fel person sy’n gyfrifol am drefnu’r angladd,

(ii)os caiff ei wahodd gan berson sy’n gyfrifol am drefnu’r angladd, neu

(iii)fel gofalwr person sy’n mynd i’r angladd;

(e)athletwr elît ac yn hyfforddi ac yn cystadlu;

(f)darparu hyfforddiant neu gymorth arall i athletwr elît, neu’n darparu cymorth mewn digwyddiad chwaraeon nad yw ond athletwyr elît yn cystadlu ynddo;

(g)teithio ar drafnidiaeth gyhoeddus ar daith sy’n dechrau yng Nghymru ac yn gorffen yng Nghymru;

(h)teithio i gymryd rhan mewn cynulliad gydag aelwyd estynedig y person yn unol â rheoliad 4 neu 6(2)(b).

[F3(6) At ddibenion y rheoliad hwn, ystyr “ardal o’r DU sydd o dan gyfyngiadau” yw —

(a)ardal o Loegr y pennir neu y disgrifir am y tro yn Rhan 2 o Atodlen 4 i Reoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Cyfyngiadau) (Pob Haen) (Lloegr) 2020 ei bod o fewn ardal Haen 3;

(b)ardal o’r Alban a bennir am y tro yn y tabl yn Atodlen 6 i Reoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws) (Cyfyngiadau a Gofynion) (Lefelau Lleol) (Yr Alban) 2020, pan fo’r tabl yn nodi ei bod yn ardal Lefel 3 neu Lefel 4;

(c)Gogledd Iwerddon.]