Rheoliad 19(1)
ATODLEN 1LL+CBusnesau neu wasanaethau y mae rhaid cau eu mangreoedd
1. Neuaddau cyngerdd.LL+C
2. Lleoliadau adloniant rhywiol (o fewn yr ystyr a roddir i “sexual entertainment venue” gan baragraff 2A o Atodlen 3 i Ddeddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1982()).LL+C
3. Theatrau.LL+C
4. Lleoliadau sydd wedi eu hawdurdodi i’w defnyddio ar gyfer cyflenwi alcohol gan drwydded mangre neu dystysgrif mangre clwb (o fewn yr ystyr a roddir i “premises licence” a “club premises certificate” gan Ddeddf Trwyddedu 2003) lle y darperir cerddoriaeth fyw neu wedi ei recordio i aelodau’r cyhoedd neu aelodau’r lleoliad ddawnsio.LL+C
Rheoliad 21(1)
ATODLEN 2LL+CMangreoedd rheoleiddiedig
RHAN 1LL+CBusnesau neu wasanaethau y mae eu mangreoedd yn fangreoedd rheoleiddiedig
1. Unrhyw fusnes sy’n gwerthu nwyddau neu wasanaethau ar gyfer eu gwerthu neu eu hurio mewn siop.LL+C
2. Canolfannau siopa ac arcedau siopa.LL+C
3. Banciau, cymdeithasau adeiladu, undebau credyd, darparwyr benthyciadau tymor byr, clybiau cynilo, peiriannau arian parod ac ymgymeriadau sydd, o ran eu busnes, yn gweithredu swyddfeydd cyfnewid arian cyfred, yn trawsyrru arian (neu unrhyw ffurf ar arian) drwy unrhyw ddull neu’n newid sieciau arian parod sydd wedi eu gwneud yn daladwy i gwsmeriaid yn arian parod.LL+C
4. Swyddfeydd post.LL+C
5. Bariau (gan gynnwys bariau mewn clybiau aelodau).LL+C
6. Caffis, ffreuturau a bwytai (gan gynnwys ffreuturau yn y gweithle ac ystafelloedd bwyta mewn clybiau aelodau).LL+C
7. Tafarndai.LL+C
8. Safleoedd gwersylla.LL+C
9. Safleoedd gwyliau.LL+C
10. Gwestai a llety gwely a brecwast.LL+C
11. Llety gwyliau arall (gan gynnwys fflatiau gwyliau, hostelau a thai byrddio).LL+C
12. Tai arwerthiant.LL+C
13. Neuaddau bingo.LL+C
14. Alïau bowlio, arcedau diddanu a mannau chwarae o dan do.LL+C
15. Delwriaethau ceir.LL+C
16. Gwasanaethau trwsio ceir ac MOT.LL+C
17. Casinos.LL+C
18. Sinemâu.LL+C
19. Canolfannau cymunedol.LL+C
20. Amlosgfeydd.LL+C
21. Gwasanaethau deintyddol, optegwyr, gwasanaethau awdioleg, gwasanaethau trin traed, ceiropractyddion, osteopathiaid a gwasanaethau meddygol neu iechyd eraill, gan gynnwys gwasanaethau sy’n ymwneud ag iechyd meddwl.LL+C
22. Sefydliadau sy’n darparu gwasanaethau lliw haul, gwasanaethau tylino, tyllu’r corff, tatŵio, electrolysis neu aciwbigo.LL+C
23. Asiantau eiddo neu asiantau gosod eiddo, swyddfeydd gwerthiant datblygwyr a chartrefi arddangos.LL+C
24. Trefnwyr angladdau.LL+C
25. Ffeiriau pleser, parciau diddanu a pharciau thema.LL+C
26. Canolfannau garddio a meithrinfeydd planhigion.LL+C
27. Salonau trin gwallt a barbwyr.LL+C
28. Golchdai a siopau sychlanhau.LL+C
29. Canolfannau hamdden a chyfleusterau hamdden gan gynnwys stiwdios ffitrwydd o dan do, campfeydd a sbaon.LL+C
30. Llyfrgelloedd.LL+C
31. Marchnadoedd neu arwerthiannau da byw.LL+C
32. Marchnadoedd.LL+C
33. Amgueddfeydd, orielau a gwasanaethau archifau.LL+C
34. Salonau ewinedd a harddwch.LL+C
35. Gorsafoedd petrol.LL+C
36. Fferyllfeydd (yn cynnwys fferyllfeydd nad ydynt yn darparu cyffuriau ar bresgripsiwn) a siopau cemist.LL+C
37. Mannau addoli.LL+C
38. Canolfannau sglefrio.LL+C
39. Cyrtiau chwaraeon, parciau sglefrio, lawntiau bowlio, cyrsiau golff a meysydd neu leiniau chwaraeon amgaeedig (boed yn yr awyr agored neu o dan do).LL+C
40. Cyfleusterau storio a dosbarthu, gan gynnwys mannau gollwng danfoniadau.LL+C
41. Pyllau nofio.LL+C
42. Busnesau tacsi neu logi cerbydau.LL+C
43. Lleoliadau ar gyfer digwyddiadau neu gynadleddau (gan gynnwys lleoliadau ar gyfer priodasau).LL+C
44. Milfeddygon.LL+C
45. Atyniadau i ymwelwyr a busnesau gwyliau, gweithgareddau hamdden neu ddigwyddiadau.LL+C
RHAN 2LL+CDehongli
46.—(1) At ddibenion yr Atodlen hon, ystyr “safle gwyliau” yw unrhyw dir yng Nghymru lle y gosodir cartref symudol neu garafán at ddibenion byw gan bobl (gan gynnwys unrhyw dir yng Nghymru a ddefnyddir ar y cyd â’r tir hwnnw), y mae’r caniatâd cynllunio perthnasol neu’r drwydded safle ar gyfer y tir mewn cysylltiad ag ef—LL+C
(a)wedi ei fynegi i’w roi neu wedi ei mynegi i’w rhoi at ddefnydd gwyliau yn unig, neu
(b)yn ei gwneud yn ofynnol bod adegau o’r flwyddyn pan na chaniateir gosod unrhyw gartref symudol neu garafán ar y safle i bobl fyw ynddo neu ynddi.
(2) At ddibenion penderfynu a yw safle yn safle gwyliau ai peidio, mae unrhyw ddarpariaeth yn y caniatâd cynllunio perthnasol neu yn y drwydded safle sy’n caniatáu gosod cartref symudol ar y tir i bobl fyw ynddo drwy gydol y flwyddyn i’w hanwybyddu os yw wedi ei hawdurdodi i’r canlynol feddiannu’r cartref symudol—
(a)y person sy’n berchen ar y safle, neu
(b)person sydd wedi ei gyflogi gan y person hwnnw ond nad yw’n meddiannu’r cartref symudol o dan gytundeb y mae Rhan 4 o Ddeddf Cartrefi Symudol (Cymru) 2013() yn gymwys iddo.
Rheoliad 26
ATODLEN 3LL+CGorfodi gofyniad i gymryd mesurau ataliol mewn mangre reoleiddiedig
Hysbysiad gwella mangreLL+C
1.—(1) Caiff swyddog gorfodaeth ddyroddi hysbysiad (“hysbysiad gwella mangre”) i berson cyfrifol os yw’r swyddog yn ystyried—
(a)nad yw’r person yn cydymffurfio â’r rhwymedigaethau a osodir ar y person gan reoliad 21(2), a
(b)bod y mesurau a bennir yn yr hysbysiad yn angenrheidiol ac yn gymesur er mwyn sicrhau bod y person yn cydymffurfio â’r rhwymedigaethau hynny.
(2) Rhaid i hysbysiad gwella mangre—
(a)pennu’r fangre y mae’n ymwneud â hi;
(b)pennu’r mesurau y mae’n ei gwneud yn ofynnol eu cymryd er mwyn sicrhau bod y person yn cydymffurfio â’r rhwymedigaethau a osodir gan reoliad 21(2);
(c)pennu terfyn amser y mae rhaid cymryd y mesurau oddi mewn iddo (na chaniateir iddo fod yn llai nag 48 awr sy’n dechrau â’r amser y dyroddir yr hysbysiad);
(d)rhoi manylion yr hawl i apelio a roddir gan baragraff 5.
(3) Yn yr Atodlen hon, mae i “person cyfrifol” yr ystyr a roddir gan reoliad 21(1).
Hysbysiad cau mangreLL+C
2.—(1) Os yw naill ai amod 1 neu amod 2 wedi ei fodloni, caiff swyddog gorfodaeth ddyroddi hysbysiad (“hysbysiad cau mangre”) i berson cyfrifol sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r fangre, neu ran o’r fangre, gael ei chau.
(2) Amod 1 yw—
(a)bod hysbysiad gwella mangre wedi ei ddyroddi i’r person,
(b)bod y swyddog gorfodaeth yn ystyried bod y person wedi methu â chymryd y mesurau a bennir yn yr hysbysiad gwella mangre o fewn y terfyn amser penodedig, ac
(c)bod y swyddog yn ystyried bod cau’r fangre, neu ran o’r fangre, yn angenrheidiol ac yn gymesur at ddiben lleihau’r risg o ddod i gysylltiad â’r coronafeirws.
(3) Amod 2 yw bod y swyddog gorfodaeth yn ystyried—
(a)nad yw’r person yn cydymffurfio â’r rhwymedigaethau a osodir ar y person gan reoliad 21(2), a
(b)bod cau’r fangre, neu ran o’r fangre, (heb fod hysbysiad gwella mangre wedi ei ddyroddi) yn angenrheidiol ac yn gymesur at ddiben lleihau’r risg o ddod i gysylltiad â’r coronafeirws.
(4) Rhaid i hysbysiad cau mangre—
(a)cynnwys disgrifiad o’r fangre sydd i’w chau,
(b)pan fo hysbysiad gwella mangre wedi ei ddyroddi, nodi’r mesurau y mae’r swyddog gorfodaeth yn ystyried—
(i)nad ydynt wedi eu cymryd, a
(ii)y mae rhaid eu cymryd er mwyn sicrhau bod y person cyfrifol yn cydymffurfio â’r rhwymedigaethau a osodir gan reoliad 21(2),
(c)pan na fo hysbysiad gwella mangre wedi ei ddyroddi, nodi’r rhesymau pam y mae’r swyddog gorfodaeth yn ystyried nad yw’r person yn cydymffurfio â’r rhwymedigaethau a osodir gan reoliad 21(2),
(d)yn y naill achos neu’r llall, nodi’r rhesymau pam y mae’r swyddog gorfodaeth yn ystyried bod cau’r fangre yn angenrheidiol ac yn gymesur at ddiben lleihau’r risg o ddod i gysylltiad â’r coronafeirws,
(e)pennu’r cyfnod y mae’r hysbysiad yn cael effaith amdano, ac
(f)rhoi manylion yr hawl i apelio a roddir gan baragraff 5.
(5) Ni chaniateir i’r cyfnod a bennir o dan is-baragraff (4)(e) fod yn hwy na 336 o oriau (14 o ddiwrnodau) sy’n dechrau â’r amser y dyroddir yr hysbysiad.
(6) Mae hysbysiad cau mangre yn cael effaith o’r amser y’i dyroddir neu o amser diweddarach a bennir yn yr hysbysiad.
(7) Ni chaniateir dyroddi hysbysiad cau mangre mewn perthynas â mangre sy’n rhan o seilwaith hollbwysig (er enghraifft, mangre a ddefnyddir i gynhyrchu trydan neu gyflenwi dŵr) neu a ddefnyddir i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus hanfodol.
Effaith hysbysiad cau mangreLL+C
3.—(1) Cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl i hysbysiad cau mangre gymryd effaith, rhaid i’r person y’i dyroddir iddo sicrhau—
(a)bod y fangre y mae’r hysbysiad yn ymwneud â hi yn cael ei chau, a
(b)na chynhelir unrhyw fusnes neu na ddarperir unrhyw wasanaeth yn y fangre neu ohoni.
(2) Ni chaiff unrhyw berson fynd i’r fangre, neu fod yn y fangre, sydd wedi ei chau o dan is-baragraff (1) heb esgus rhesymol.
(3) At ddibenion is-baragraff (2), mae’r amgylchiadau pan fo gan berson esgus rhesymol yn cynnwys—
(a)pan fo’r person yn byw yn y fangre;
(b)pan fo’r person yn gwneud gwaith cynnal a chadw neu atgyweirio hanfodol;
(c)pan fo’r person yn gwneud pethau sy’n angenrheidiol er mwyn sicrhau y gellir cydymffurfio â rheoliad 21(2) pan ganiateir i’r fangre fod ar agor;
(d)pan fo’r person yn swyddog gorfodaeth neu berson sy’n cynorthwyo swyddog gorfodaeth;
(e)pan fo’n angenrheidiol i’r person fod yn y fangre er mwyn osgoi anaf neu salwch neu ddianc rhag risg o niwed.
Terfynu hysbysiad gwella neu gau mangreLL+C
4.—(1) Caiff swyddog gorfodaeth ddyroddi hysbysiad sy’n terfynu hysbysiad gwella mangre neu hysbysiad cau mangre os yw wedi ei fodloni—
(a)bod y mesurau a bennir yn yr hysbysiad gwella mangre (os dyroddwyd un) wedi eu cymryd, neu
(b)bod mesurau eraill wedi eu cymryd i sicrhau y gellir cydymffurfio â rheoliad 21(2) yn y fangre o dan sylw.
(2) Mae hysbysiad gwella mangre neu hysbysiad cau mangre yn peidio â chael effaith ar yr amser y dyroddir hysbysiad o’r terfyniad.
ApelauLL+C
5.—(1) Caiff person y dyroddir hysbysiad gwella mangre neu hysbysiad cau mangre iddo apelio i lys ynadon yn erbyn yr hysbysiad.
(2) Rhaid i apêl gael ei gwneud—
(a)drwy gŵyn am orchymyn, ac yn unol â Deddf Llysoedd Ynadon 1980, a
(b)o fewn 7 niwrnod ar ôl i’r hysbysiad gael ei ddyroddi.
(3) Ond caiff llys ynadon ganiatáu i apêl gael ei gwneud ar ôl diwedd y cyfnod a grybwyllir yn is-baragraff (2)(b) os yw wedi ei fodloni bod rheswm da dros fethu ag apelio cyn diwedd y cyfnod hwnnw (a thros unrhyw oedi cyn gwneud cais am ganiatâd i apelio y tu allan i amser).
(4) Caiff llys ynadon atal dros dro effaith hysbysiad gwella mangre neu hysbysiad cau mangre wrth aros am y penderfyniad ar yr apêl.
(5) Ar apêl yn erbyn hysbysiad gwella mangre neu hysbysiad cau mangre, caiff llys ynadon—
(a)cadarnhau’r penderfyniad i ddyroddi’r hysbysiad;
(b)cyfarwyddo bod yr hysbysiad i beidio â chael effaith;
(c)addasu’r hysbysiad;
(d)gwneud unrhyw orchymyn arall y mae’r llys yn ystyried ei fod yn briodol.
(6) Os yw’r llys ynadon yn cyfarwyddo bod hysbysiad i beidio â chael effaith neu’n addasu hysbysiad, caiff orchymyn i’r awdurdod lleol ar gyfer yr ardal lle y mae’r fangre o dan sylw ddigolledu’r person sy’n gyfrifol am y fangre am golled a ddioddefir o ganlyniad i ddyroddi’r hysbysiad.
(7) Caiff y naill parti neu’r llall ddwyn apêl yn erbyn penderfyniad llys ynadon ar apêl o dan yr adran hon i Lys y Goron.
(8) Ar apêl i Lys y Goron, caiff y Llys—
(a)cadarnhau, amrywio neu wrthdroi penderfyniad y llys ynadon;
(b)anfon yr achos yn ôl i’r llys ynadon i’w waredu yn unol â chyfarwyddydau a roddir gan Lys y Goron.
Dyroddi hysbysiadau gwella a chau mangreoedd a therfyniadauLL+C
6.—(1) Caiff hysbysiad gwella mangre, hysbysiad cau mangre neu derfyniad o’r naill neu’r llall o’r mathau hynny o hysbysiad ei ddyroddi i berson drwy roi copi ohono yn ysgrifenedig i’r person hwnnw.
(2) Ond pan na fo’r person sy’n gyfrifol am y fangre y mae’r hysbysiad neu’r terfyniad yn ymwneud â hi yn y fangre pan yw’r hysbysiad i’w ddyroddi, mae’r hysbysiad i’w drin fel pe bai wedi ei ddyroddi i’r person hwnnw—
(a)os rhoddir copi ohono i unrhyw berson arall yn y fangre yr ymddengys ei fod yn gyfrifol am unrhyw fusnes neu wasanaeth a gynhelir yn y fangre, neu
(b)os nad oes unrhyw berson o’r fath yn y fangre pan yw’r hysbysiad i’w ddyroddi, os gosodir copi o’r hysbysiad mewn lle amlwg yn y fangre.
Rhoi cyhoeddusrwydd i hysbysiadau gwella a chau mangreoeddLL+C
7.—(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo swyddog gorfodaeth wedi dyroddi hysbysiad gwella mangre neu hysbysiad cau mangre.
(2) Cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl dyroddi’r hysbysiad, rhaid i’r swyddog gorfodaeth—
(a)arddangos copi o’r hysbysiad, ac arwydd ar y ffurf a nodir yn Atodlen 4, mewn man amlwg yn agos i bob mynedfa i’r fangre;
(b)trefnu i’r hysbysiad gael ei gyhoeddi ar wefan yr awdurdod lleol ar gyfer yr ardal lle y mae’r fangre.
(3) Rhaid i hysbysiad neu arwydd a arddangosir o dan is-baragraff (2)(a) fod o faint A4 o leiaf.
(4) Rhaid i hysbysiad y mae’n ofynnol ei arddangos a’i gyhoeddi o dan is-baragraff (2) barhau i gael ei arddangos a’i gyhoeddi, a rhaid i arwydd y mae’n ofynnol ei arddangos o dan yr is-baragraff hwnnw barhau i gael ei arddangos, am gyhyd ag y mae’r hysbysiad yn cael effaith.
Dangos dogfennau etc.LL+C
8.—(1) Caiff swyddog gorfodaeth, er mwyn hwyluso arfer pŵer a roddir i’r swyddog gan yr Atodlen hon, ei gwneud yn ofynnol dangos unrhyw ddogfennau neu gofnodion electronig, edrych ar y dogfennau hynny neu’r cofnodion electronig hynny a chymryd copïau ohonynt.
(2) Ni chaniateir ei gwneud yn ofynnol o dan is-baragraff (1) i berson ddarparu dogfen, cofnod neu wybodaeth arall y gellid maentumio hawliad am fraint broffesiynol gyfreithiol mewn cysylltiad â hi neu ag ef mewn achos cyfreithiol.
Rheoliad 26
ATODLEN 4LL+CY ffurf ar arwydd i fynd gyda hysbysiad gwella mangre neu hysbysiad cau mangre
Yr arwydd i’w arddangos gyda hysbysiad gwella mangreLL+C
1.—(1) Rhaid i arwydd a arddangosir gyda hysbysiad gwella mangre o dan baragraff 7(2)(a) o Atodlen 3 fod ar y ffurf a nodir isod.
(2) Rhaid defnyddio’r lliwiau gwyn, du ac ambr C0 M60 Y100 K0 yn yr arwydd.
Yr arwydd i’w arddangos gyda hysbysiad cau mangreLL+C
2.—(1) Rhaid i arwydd a arddangosir gyda hysbysiad cau mangre o dan baragraff 7(2)(a) o Atodlen 3 fod ar y ffurf a nodir isod.
(2) Rhaid defnyddio’r lliwiau gwyn, du and choch C15 M100 Y100 K0 yn yr arwydd.