Diwygiadau i reoliad 95
18. Yn rheoliad 95(1) (grantiau rhan-amser ar gyfer dibynyddion – dehongli), yn is-baragraff (o)—
(a)ym mharagraff (ii), yn lle “Aelod-wladwriaeth arall” rhodder “Aelod-wladwriaeth”;
(b)yn lle paragraff (iii) rhodder—
“(iii)pan fo deddfwriaeth—
(aa)y Deyrnas Unedig ac un neu ragor o Aelod-wladwriaethau; neu
(bb)mwy nag un Aelod-wladwriaeth,
yn gymwys i’r cyfnod, cyfanswm incwm person o bob ffynhonnell fel y’i pennir at ddibenion y ddeddfwriaeth treth incwm y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried bod cyfanswm incwm person yn y cyfnod hwnnw ar ei fwyaf odani,”.